Cynllun Llysgenhadon
Twristiaeth Sir Ddinbych
Wedi’i lunio i wella profiad ymwelwyr a phobl lleol
Cynllun Llysgenhadon Twristiaeth Sir Ddinbych
Wedi’i lunio i wella profiad ymwelwyr a phobl lleol

Beth yw’r
Cynllun Llysgenhadon Twristiaeth?
Mae’r cynllun yn darparu pobl gyda’r hyfforddiant amdan gynnig twristiaeth Sir Ddinbych er mwyn greu cronfa gwybodaeth amdan yr adnoddau naturiol a traddodiadol yr ardal, er mwyn gwella’r profiad mae ein hymwelwyr a phobl lleol yn eu cael.
Dewch i fod yn Llysgennad Twristiaeth Sir Ddinbych – mae’n am ddim, hyblyg, gwybodus a hwyl!
Eisiau gwybod mwy am Sir Ddinbych?
Dewch i fod yn Llysgennad Sir Ddinbych
Profiadau llysgennad
“Dwi mor hapus i dderbyn fy Ngwobr Arian Llysgennad Sir Ddinbych. Diolch yn fawr i Dîm Twristiaeth Sir Ddinbych am ddarparu cwrs mor wybodus a diddorol. Fyddwn yn argymell pawb sydd yn frwdfrydig am Dwristiaeth a Sir Ddinbych i gymryd yr her.”
Gwyliau Corwen
Gwyliwch. Dysgwch.
Byddwch yn Lysgennad Sir Ddinbych
Gellir cyflawni’r Cynllun Llysgennad ar-lein drwy ddilyn ychydig o fodiwlau syml. Cewch ddysgu ar gyflymder sy’n addas i chi, boed hynny yn eich cartref neu yn eich lleoliad gwaith. Darllenwch bob modiwl ac yna atebwch gwis byr am y cynnwys. Byddwch yn Lysgennad Twristiaeth Sir Ddinbych mewn dim.
Gwyliwch. Dysgwch.
Byddwch yn Lysgennad Sir Ddinbych
Gellir cyflawni’r Cynllun Llysgennad ar-lein drwy ddilyn ychydig o fodiwlau syml. Cewch ddysgu ar gyflymder sy’n addas i chi, boed hynny yn eich cartref neu yn eich lleoliad gwaith. Darllenwch bob modiwl ac yna atebwch gwis byr am y cynnwys. Byddwch yn Lysgennad Twristiaeth Sir Ddinbych mewn dim.
Beth yw'r manteision o fod yn Lysgennad Twristiaeth?
Mae sawl mantais o gwblhau’r modiwlau a bod yn Lysgennad Twristiaeth:
I Chi
Gwella eich gwybodaeth leol am yr ardal
Darparu profiad gwell fyth i gwsmeriaid
Meithrin sgiliau newydd i’w hychwanegu at eich CV
Cyfle i ddathlu a theimlo balchder ac angerdd am ein rhanbarth hardd
Rhannu syniadau ac arfer orau â phobl debyg i chi
Cyfle i fod yn rhan o grŵp sydd â’r un diddordeb
I’ch Busnes
Cynnig rhaglen gynefino staff sydd wedi’i pharatoi am ddim
Cyfleoedd Cysylltiadau Cyhoeddus
Cymorth â chymell a chadw staff
Taflenni twristiaeth am ddim yn uniongyrchol i’ch drws
Helpu i wella ffyddlondeb a nifer yr ymwelwyr sy’n galw eto
Helpu i roi hwb i economi Sir Ddinbych
Darparu profiad unigryw a dilys i ymwelwyr sy’n eu hannog i argymell Sir Ddinbych i eraill
Helpu i gynyddu nifer yr ymwelwyr, hyd eu cyfnod yma a'u gwariant
Ffordd syml ac am ddim i ychwanegu gwerth at eich busnes
Helpu i ddatblygu a chynnal ein cyrchfan