Datganiad Hygyrchedd

Datganiad Hygyrchedd ar gyfer www.ambassador.wales

Gwybodaeth am y wefan

Mae’r wefan yn cael ei rhedeg gan Gyngor Sir Ddinbych. Rydym eisiau i gymaint o bobl â phosib allu defnyddio’r wefan hon. Er enghraifft, mae hyn yn golygu y dylech allu:

  • chwyddo’r sgrin hyd at 300% gwaith yn fwy heb i’r testun ddiflannu oddi ar y sgrin
  • llywio rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig
  • llywio rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio meddalwedd adnabod llais
  • Gwrando ar fwyafrif o’r wefan gan ddefnyddio rhaglen darllen sgrin

Rydym hefyd wedi gwneud testun ein gwefan mor syml â phosibl i’w ddeall, ac yn defnyddio dyluniadau cyson er mwyn osgoi cymhlethdod.

Mae gan AbilityNet gyngor ar sut i wneud eich dyfais yn haws i’w defnyddio os oes gennych anabledd
Mae hon yn wefan allanol a bydd y ddolen yn agor mewn ffenestr newydd.

Hygyrchedd y wefan hon

Rydym yn gwybod nad yw rhai rhannau o’r wefan hon yn gwbl hygyrch.

  • Efallai na fydd y cynnwys a’r ymarferoldeb a ddarperir gan gyflenwyr trydydd parti yn gwbl hygyrch.
  • nid yw mwyafrif o hen ddogfennau PDF yn gwbl hygyrch i dechnoleg gynorthwyol.

Gwybodaeth Adborth a Chyswllt

Os oes angen gwybodaeth arnoch chi ar y wefan hon mewn fformat gwahanol fel PDF hygyrch, print bras, hawdd ei ddarllen, cysylltwch â ni:

E-bost:
twristiaeth@sirddinbych.gov.uk

Ffoniwch:
01824 706223
Neu ymwelwch â / ysgrifennwch at:
Cyngor Sir Ddinbych
Blwch Post 62
Rhuthun
LL15 9AZ

Os oes angen cyfarwyddiadau arnoch, ffoniwch neu anfonwch e-bost atom ni.

Byddwn yn ystyried eich cais ac yn dod yn ôl atoch o fewn 10 diwrnod.

Adrodd am broblemau hygyrchedd gyda’r wefan hon

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os ydych yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi cael eu rhestru ar y dudalen hon, neu os oes gennych awgrymiadau i wella hygyrchedd y wefan hon, cysylltwch â Thîm Twristiaeth Sir Ddinbych ar 01824 706223.

Os nad ydych chi’n fodlon gyda’r ffordd rydym yn ymateb i’ch cwyn, cysylltwch â’r Gwasanaeth Cynghori a Chefnogi Cydraddoldeb (EASS). (https://www.equalityadvisoryservice.com)

Statws cydymffurfio

Mae’r wefan hon yn cydymffurfio’n rhannol â safon AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We fersiwn 2.1 yn sgil yr hyn nad yw’n cydymffurfio â nhw sydd wedi’u rhestru isod.

Cynnwys nad yw’n hygyrch

Nid yw’r cynnwys a restrir isod yn hygyrch am y rhesymau canlynol.

Diffyg cydymffurfiaeth gyda’r canllawiau hygyrchedd:

  • Nid oes testun amgen ar rhai o’r delweddau. Pan fyddwn yn cyhoeddi cynnwys newydd byddwn yn sicrhau bod ein holl luniau’n bodloni’r safonau hygyrchedd.

Baich anghymesur:

  • Nid yw rhai o’n dogfennau PDF a Word a gyhoeddwyd ar ôl 23 Medi 2018 yn bodloni safonau hygyrchedd. Wrth ystyried a allwn ddarparu’r wybodaeth mewn fformat hygyrch, byddwn yn asesu’r canlynol:
    • faint fyddai’r gwaith yn ei gostio a’r effaith y byddai cyflawni’r gwaith yn ei chael arnom
    • faint fyddai defnyddwyr ag anabledd yn elwa o wneud y gwaith
  • Nid yw rhai meddalwedd trydydd parti yn bodloni safonau hygyrchedd. Rydym yn bwriadu gweithredu diweddariadau hygyrchedd unwaith fyddent ar gael gan y datblygwr.

Beth rydym yn ei wneud i wella hygyrchedd

Gwneir gwelliannau hygyrchedd i’r wefan hon yn barhaus, ac mae golygyddion cyfrannol yn dilyn dogfennaeth ar safonau hygyrchedd.

Paratoi’r datganiad hygyrchedd hwn

Cafodd y datganiad hwn ei baratoi ar 21 Chwefror 2023. Cafodd ei adolygu ddiwethaf ar 21 Chwefror 2023.

Cafodd y wefan ei phrofi ddiwethaf ar 21 Chwefror 2023. Cynhaliwyd y prawf gan Artychoke.

Defnyddiom y dull hwn i benderfynu ar sampl o dudalennau i’w profi: Croestoriad o fathau o dudalennau, gyda lefel uchel o draffig ar y wefan.

Ambassador Wales logo