Cwrs Llysgenhadon Diwylliannol

Llysgenhadon Diwylliannol Cultural Ambassadors

Llysgenhadon Diwylliannol

Beth yw’r cwrs Llysgenhadon Diwylliannol?

Dyma gyfle i ddysgu mwy am ein diwylliant a hanes Cymru, ac am ein hiaith arbennig ni.

Wrth ymuno â’r rhwydwaith o Lysgenhadon Diwylliannol, byddi di’n gallu estyn croeso cynnes i bobl sy’n ymuno neu’n ymweld â’n cymunedau, o Fôn i Fynwy.

O ble ddaeth y syniad?

Mae’r Gymraeg a’n diwylliant yn rhan o fywyd nifer o bobl a’n cymunedau ni ledled Cymru. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gefnogi’r Gymraeg a’n cymunedau Cymraeg ni.

Rydym yn gwybod fod ail gartrefi a thai gwyliau yn gallu effeithio ar sefyllfa’r Gymraeg ac ar allu pobl leol i fyw yn lleol. Er mwyn mynd i’r afael â hyn, mae Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno nifer o ymyraethau, ac un ohonyn nhw yw creu Rhwydwaith o Llysgenhadon Diwylliannol.

Cynnig croeso Cynnes

Os wyt ti am estyn croeso cynnes i bobl sy’n symud i fyw i Gymru neu sy’n dod yma ar eu gwyliau, dyma’r cwrs i ti!

Wedi i ti gwblhau lefel (mae tair lefel wahanol) byddi di’n perthyn i rwydwaith o Lysgenhadon Diwylliannol ledled Cymru sy’n barod i sgwrsio’n hyderus am ein diwylliant, ein treftadaeth a’n hiaith ni.

Mae’r pŵer yn nwylo’r Llysgennad...

Pan fydd pobl yn symud i gymunedau newydd i fyw, neu’n ymweld ar eu gwyliau, fel Llysgennad gelli di sgwrsio gyda nhw am hanes yr ardal, am ein diwylliant a’n treftadaeth leol, ac am bwysigrwydd y Gymraeg. Gelli di hyd yn oed ddysgu gair neu ddau iddynt… Diolch, croeso, bore da / prynhawn da.

Byddi di’n dysgu llawer iawn mwy na hyn ar y cwrs, ac yna bydd modd defnyddio’r wybodaeth yn dy fywyd neu yn dy waith o ddydd i ddydd.

Beth mae hynny yn ei olygu? Wel, efallai bydd modd cael sgwrs gyda chymdogion newydd am hanes yr ardal, neu ddefnyddio ychydig o Gymraeg fel ‘Bore da!’ wrth basio ymwelwyr ar y stryd. Neu beth am gynnal sesiwn ‘paned a sgwrs’ i bobl sy’n newydd i’r ardal, neu ddysgwyr Cymraeg lleol? Wedi i ti orffen y cwrs mae nifer fawr o wahanol bethau mae modd eu gwneud. Ti biau’r dewis!

Os bydd gyda ti gwestiwn...

am Cymraeg 2050 neu am gynnwys y cwrs, cysyllta heddiw â: Cymraeg2050@llyw.cymru

Byddwn ni’n hapus i helpu.

Diweddaraf o’r Blog

Rhaglen Gweithgareddau Rhwydweithio Llysgenhadon Twristiaeth Cymru

Yn y cyfnod yn arwain at Wythnos Llysgenhadon 2024, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn cynnal cyfres gyffrous o ddigwyddiadau.

Sir Gâr yn cynnal digwyddiad Dathlu Llysgenhadon Twristiaeth cyntaf

Ymunodd y Cynghorydd Hazel Evans, yr Aelod Cabinet dros Adfywio, Hamdden, Diwylliant a Thwristiaeth ag adran dwristiaeth Cyngor Sir Caerfyrddin yn y Digwyddiad Dathlu Llysgenhadon Twristiaeth cyntaf.

Cyfle i ddysgu mwy am Gymru yn ystod Wythnos gyntaf Llysgenhadon Cymru

Nod Wythnos Llysgennad Cymru yw tynnu sylw at yr amrywiaeth eang o bobl sydd wedi elwa o ddod yn Llysgennad ac i annog eraill i ymuno.

Cwrs wedi'i ariannu gan

Ariennir gan Lywodraeth Cymru Funded by Welsh Government