Cwrs Llysgennad Parc Cenedlaethol Eryri

Cwrs Llysgennad
Parc Cenedlaethol Eryri

Cadw Eryri’n eithriadol

Cwrs Llysgennad Parc Cenedlaethol Eryri

Cadw Eryri’n eithriadol

Llysgennad Eryri Ambassador badge

Beth yw’r
Cynllun Llysgennad?

Mae’r cynllun hwn yn darparu cyfle hyfforddi unigryw i wella’ch gwybodaeth am Rinweddau Arbennig Parc Cenedlaethol Eryri a phopeth sy’n gwneud Eryri yn eithriadol. Fel llysgennad y cynllun hwn, byddwch chi’n chwarae rhan bwysig wrth gyfoethogi profiad trigolion ac ymwelwyr Eryri.

Eisiau dysgu mwy am Barc Cenedlaethol Eryri?

Dewch yn Lysgennad

Profiadau Llysgenhadon Eryri

Snowdonia Ambassadors with certificates

Eisiau dysgu mwy am Barc Cenedlaethol Eryri?

Dewch yn Lysgennad

Profiadau Llysgenhadon Eryri

Snowdonia Ambassadors with certificates

Wedi mynychu gweithdy agoriadol ym Mhlas Tan y Bwlch yn Chwefror 2020 dywedodd un Llysgennad:“Strwythur arbennig – anffurfiol ond yn hynod addysgiadol. Digon o gyfleoedd i rannu syniadau a phrofiadau. Diolch.”

Gwylio. Dysgu.
Dewch yn Lysgennad Parc Cenedlaethol Eryri

Gellir cyflawni’r Cynllun Llysgennad ar-lein drwy ddilyn ychydig o fodiwlau syml. Cewch ddysgu ar gyflymder sy’n addas i chi, boed hynny yn eich cartref neu yn eich lleoliad gwaith. Darllenwch bob modiwl ac yna atebwch gwis byr am y cynnwys. Byddwch yn Lysgennad Eryri mewn dim.

Gwylio. Dysgu.
Dewch yn Llysgennad Parc Cenedlaethol Eryri

Gellir cyflawni’r Cynllun Llysgennad ar-lein drwy ddilyn ychydig o fodiwlau syml. Cewch ddysgu ar gyflymder sy’n addas i chi, boed hynny yn eich cartref neu yn eich lleoliad gwaith. Darllenwch bob modiwl ac yna atebwch gwis byr am y cynnwys. Byddwch yn Lysgennad Eryri mewn dim.

Beth yw'r manteision o ddod yn Lysgennad?

  • I Chi

  • Gwella eich gwybodaeth leol am yr ardal

  • Darparu profiad gwell fyth i ymwelwyr

  • Meithrin sgiliau newydd i'w rhoi ar eich CV

  • Cyfle i ddathlu a theimlo balchder ac angerdd am ein hardal hardd

  • Rhannu syniadau ac arfer dda gyda phobl o’r un fryd

  • Bod yn rhan o grŵp sydd â’r un diddordeb

  • Rhoi hwb i'ch hyder er mwyn rhannu gwybodaeth am Eryri gydag eraill

  • I’ch busnes

  • Cynnig rhaglen gynefino staff sydd wedi’i pharatoi am ddim

  • Cyfleoedd Cysylltiadau Cyhoeddus

  • Cymorth gyda chymhelliant staff a sut i’w cadw

  • Helpu i wella ffyddlondeb a nifer ymwelwyr sy’n galw eto

  • Helpu i roi hwb i economi Eryri

  • Darparu profiadau unigryw a dilys i ymwelwyr

  • Helpu i gynyddu nifer o ymwelwyr, yr hyd y maent yn aros a’u gwariant

  • Ffordd syml ac am ddim i ychwanegu gwerth at eich busnes

  • Helpu i ddatblygu a chynnal ein cyrchfan

Y diweddaraf o’r blog

Cyfle i ddysgu mwy am Gymru yn ystod Wythnos gyntaf Llysgenhadon Cymru

Nod Wythnos Llysgennad Cymru yw tynnu sylw at yr amrywiaeth eang o bobl sydd wedi elwa o ddod yn Llysgennad ac i annog eraill i ymuno.

Y Llysgenhadon yn eu geiriau eu hunain

Mae cynllun Llysgennad Cymru yn annog adborth. Dyma rai o’r sylwadau gwych ’rydym wedi’u derbyn.

Cynllun Llysgenhadon Cymru yn cefnogi Wythnos Dwristiaeth Cymru

Mae cynllun ar-lein sydd wedi ennill gwobrau ac sy’n darparu hyfforddiant a gwybodaeth i bobl am rinweddau arbennig ardaloedd o Gymru yn annog mwy o bobl i gymryd rhan a bod yn Llysgennad

Cwrs wedi'i ariannu gan

Snowdonia National Park logo Parc Cenedlaethol Eryri Funded by Welsh Government logo Ariennir gan Lywodraeth Cymru