Cwrs
Llysgennad Gwynedd
Dewch o hyd i rinweddau unigryw Gwynedd
Beth yw'r
Cynllun Llysgennad?
Mae Cwrs Llysgennad Gwynedd yn rhoi cyfle i chi i ddysgu a gwella eich gwybodaeth am rinweddau unigryw’r sir i egluro beth sy’n gwneud Gwynedd yn sir arbennig na ellir mo’i chymharu ag unrhyw le arall.
Pan fyddwch yn dod yn Llysgennad Gwynedd byddwch yn chwarae rhan bwysig i gyfoethogi profiad cyffredinol yr ymwelydd.
Eisiau dysgu mwy am Wynedd?
Dewch yn Llysgennad
Profiadau llysgennad
Eisiau dysgu mwy am Wynedd?
Dewch yn Llysgennad
Profiadau llysgennad
“Ydi hi’n bosib cael y rhan fwyaf’ o bob dim mewn un sir? Ydi. Dyna ydi Gwynedd. O’i thraethau di-ri i’w chopaon uchaf, o’i phentrefi i’w ffermydd – i’w chestyll – mae yna bob dim i bawb. Fel un gafodd ei eni, ei fagu a’i addysgu hyd nes iddo raddio yma – mae’n hawdd cymryd y lle’n ganiataol. Crud yr iaith. Cartref’ i chwedlau – o gewri i frenin a chlustiau ceffyl. Ond yr elfen bwysicaf? Ei phobol, pobol sy’n falch iawn o’u hiaith a’u Cymreictod. A dyna, i mi, ydi Cadernid Gwynedd – a dwi’n falch bod yr adnodd sobor o bwysig yma ar gael i ddweud ein stori ni.”
Aled Hughes, Cyflwynydd ac awdur
Gwyliwch. Gwrandewch. Dysgwch.
Dewch yn Llysgennad Gwynedd
Gellir cyflawni’r Cynllun Llysgennad ar-lein mewn dim ond ychydig o fodiwlau hawdd. Dysgwch ar eich cyflymder eich hun, gartref neu yn eich gweithle. Darllenwch bob modiwl, gwyliwch glipiau fideo, gwrandewch ar arbenigwyr lleol, ac yna atebwch gwis byr ar y cynnwys. O fewn dim, byddwch yn Llysgennad Gwynedd.
Gwyliwch. Gwrandewch. Dysgwch.
Dewch yn Llysgennad Gwynedd
Gellir cyflawni’r Cynllun Llysgennad ar-lein mewn dim ond ychydig o fodiwlau hawdd. Dysgwch ar eich cyflymder eich hun, gartref neu yn eich gweithle. Darllenwch bob modiwl, gwyliwch glipiau fideo, gwrandewch ar arbenigwyr lleol, ac yna atebwch gwis byr ar y cynnwys. O fewn dim, byddwch yn Llysgennad Gwynedd.
Beth yw manteision dod yn Llysgennad?
I chi
Cryfhau eich gwybodaeth leol am yr ardal
Darparu profiad cwsmer hyd yn oed yn well
Rhoi hwb i'ch hyder i rannu gwybodaeth am Wynedd gydag eraill
Ennill sgiliau newydd i'w hychwanegu at eich CV
Cyfle i ddathlu, a chael balchder ac angerdd, yn ein rhanbarth hardd
Rhannu syniadau ac arferion gorau gyda phobl o'r un anian
Bod yn rhan o grŵp yn rhannu'r un buddiannau
I’ch busnes
Yn cynnig rhaglen anwytho staff parod ac am ddim
Cyfleoedd cysylltiadau cyhoeddus
Help gyda chymhelliant a chadw staff
Helpu i gynyddu teyrngarwch ac ailadrodd ymweliadau
Helpu i hybu economi Gwynedd
Darparu profiad unigryw a dilys i ymwelwyr
Helpu i gynyddu nifer yr ymwelwyr, hyd yr arhosiad a gwariant yr ymwelydd
Ffordd syml, rhad ac am ddim, o ychwanegu gwerth i'ch busnes
Helpu i ddatblygu a chynnal ein cyrchfan
Mynediad i ystod o adnoddau ar-lein gwerthfawr am y gyrchfan y gallwch eu rhannu gyda'ch ymwelwyr
Diweddaraf o’r blog
Cwrs wedi'i ariannu gan