Cwestiynau Cyffredin

Gobeithiwn y bydd y cwestiynau cyffredin hyn yn gallu ateb eich cwestiynau. Os nad yw’r cwestiynau cyffredin yn ateb eich cwestiwn, anfonwch e-bost atom ar twristiaeth@sirddinbych.gov.uk a byddwn yn hapus i’ch helpu.

Pwy sy’n gallu bod yn Lysgennad Twristiaeth?

  • Os ydych chi’n gweithio yn y maes twristiaeth
  • Os ydych chi’n gweithio ag ymwelwyr
  • Os ydych chi’n byw yn yr ardal
  • Os ydych chi’n astudio yn yr ardal

Beth yw’r modiwlau hyfforddiant ar-lein

Mae ystod o fodiwlau hyfforddiant ar-lein rhyngweithiol am ddim wedi’u creu i wella gwybodaeth am Sir Ddinbych. Mae’r ymagwedd hon yn caniatáu i bawb ddysgu ar eu cyflymder a’u lleoliad dewisol mewn ffordd sy’n hwylus iddyn nhw.

Mae modiwlau wedi’u creu ar themâu gwahanol er mwyn rhoi hyblygrwydd i chi p’un a ydych eisiau cwblhau pob un o’r modiwlau neu’r rhai sy’n berthnasol i chi yn unig. Mae’r modiwlau yn cynnwys testunau, lluniau a ffilmiau gan fod pawb yn dysgu mewn ffyrdd gwahanol. Y 11 modiwl cychwynnol yw –

  1. Croeso i Sir Ddinbych
  2. Trefi a Dinas Sir Ddinbych
  3. Cerdded yn Sir Ddinbych
  4. Beicio yn Sir Ddinbych
  5. Hanes a Threftadaeth yn Sir Ddinbych
  6. Y Gymraeg a Diwylliant Cymru
  7. Celfyddydau yn Sir Ddinbych
  8. Bwyd a Diod yn Sir Ddinbych
  9. Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy
  10. Safle Treftadaeth y Byd Traphont Ddŵr a Chamlas Pontcysyllte
  11. Arfordir Sir Ddinbych
  12. Twristiaeth Gynaliadwy yn Sir Ddinbych

A fydd y modiwlau yn canolbwyntio ar ardaloedd penodol yn Sir Ddinbych?

Mae Cyngor Sir Ddinbych wedi derbyn cyllid ar gyfer y prosiect hwn drwy Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, a ariennir gan Gronfa Amaethyddiaeth Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru. Felly, bydd y modiwlau yn canolbwyntio ar Gefn Gwlad Sir Ddinbych yn y cam cyntaf, fodd bynnag, bydd modiwlau ychwanegol sy’n canolbwyntio ar Arfordir Sir Ddinbych yn cael eu hychwanegu maes o law.

A oes unrhyw un o’r modiwlau’n orfodol?

Oes – mae’n rhaid i chi gwblhau ‘Croeso i Sir Ddinbych’ a ‘Threfi a Dinas Sir Ddinbych’ cyn ymgymryd ag unrhyw fodiwlau eraill o’ch dewis chi.

A oes lefelau gwahanol i’r hyfforddiant?

Oes!

  • Efydd – Cwblhau 3 modiwl
  • Arian – Cwblhau 6 modiwl
  • Aur – Cwblhau 9+ o fodiwlau

Sawl modiwl ar-lein sydd angen i mi eu cwblhau i fod yn Lysgennad Twristiaeth?

Er mwyn bod yn Lysgennad Twristiaeth (Efydd), rhaid i chi gwblhau 3 modiwl (2 gorfodol ac 1 o’ch dewis chi).

A fydd y modiwlau’n cael eu hasesu?

Bydd, cynhelir profion syml i wirio eich cynnydd trwy gydol y modiwlau. Y sgôr ‘pasio’ yw 80%. Bydd cyfleoedd i ail-sefyll unrhyw un o’r modiwlau.

Faint o amser fydd yn ei gymryd i gwblhau bob modiwl?

Ar gyfartaledd, bydd pob modiwl yn cymryd tua 30 munud i’w cwblhau (fodd bynnag, mae’n bosibl y bydd rhai yn cymryd ychydig yn hirach/llai).

A yw’r modiwlau ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg?

Mae pob un o’r modiwlau ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg.

A oes unrhyw ddeunydd hyrwyddo ar gael am gwblhau’r modiwlau / bod yn Llysgennad Twristiaeth?

Oes, mae’r canlynol ar gael yn rhad ac am ddim –

  • Tystysgrifau
  • Brand Llysgennad Twristiaeth i ddefnyddio ar eich deunyddiau marchnata
  • Bathodynnau
  • Sticeri ar gyfer drysau a ffenestri

A oes yna unrhyw gyfle i fynd ar deithiau dysgu / hyfforddiant wyneb yn wyneb i wella dysgu ar-lein?

Oes – trefnir hyfforddiant wyneb yn wyneb a theithiau dysgu i ategu at y dysgu ar-lein ac i ddarparu cyfleoedd i bawb rwydweithio â Llysgenhadon eraill, rhannu arfer gorau a chyfrannu at gynllunio ar gyfer twristiaeth y dyfodol.

A fydd y modiwlau’n cael eu diweddaru neu a fydd modiwlau newydd yn cael eu cyflwyno?

Bydd – caiff modiwlau eu diweddaru yn ôl yr angen. Caiff modiwlau newydd eu cyflwyno yn ôl yr angen. Bydd y system yn hysbysu defnyddwyr pan fydd modiwl yn cael ei ddiweddaru neu os oes unrhyw gynnwys newydd wedi’i uwchlwytho.

A fydd yna adnoddau ar-lein eraill ar gael?

Bydd – mae gan y wefan adran ‘Adnoddau’ lle y gallwch ddod o hyd i ystod o wybodaeth a dolenni defnyddiol i ategu at y modiwlau.

Ble allaf ddod o hyd i’r modiwlau a’r adnoddau hyfforddiant ar-lein?

Gellir dod o hyd i’r modiwlau a’r adnoddau ar wefan y Llysgenhadon Twristiaeth –
www.denbighshireambassador.wales / www.llysgennadsirddinbych.cymru

Denbighshire Tourism Ambassador logo

Diweddaraf o’r Blog