Yr wythnos diwethaf, ymunodd y Cynghorydd Hazel Evans, yr Aelod Cabinet dros Adfywio, Hamdden, Diwylliant a Thwristiaeth ag adran dwristiaeth Cyngor Sir Caerfyrddin yn y Digwyddiad Dathlu Llysgenhadon Twristiaeth cyntaf.
Daeth dros 40 o fusnesau i’r digwyddiad a gynhaliwyd yn Neuadd y Sir. Cyflwynodd y Cynghorydd Hazel Evans y wobr i’r busnesau yn dilyn cyflwyniad byr ar werth twristiaeth i Sir Gâr. Yn dilyn y seremoni, gwahoddwyd busnesau i aros a siarad â thîm Twristiaeth y Cyngor am ba welliannau y gellid eu gwneud i sicrhau bod Sir Gâr yn lle ffyniannus ar gyfer twristiaeth.
Mae cynllun Llysgennad Twristiaeth Sir Gâr yn darparu hyfforddiant a gwybodaeth i bobl am rinweddau arbennig Sir Gâr, ac mae’r tîm yn annog mwy o bobl i gymryd rhan a dod yn llysgennad.
Dywedodd Paul Raven o Tea Traders yng Nghaerfyrddin am ei brofiad:
“Mae ein siop de yng nghanol Caerfyrddin. Rydym yn croesawu ymwelwyr i’r dref bob dydd. Mae cwblhau’r rhaglen Llysgenhadon yn hawdd. Rwyf wrth fy modd â’r ffaith bod modd cwblhau’r modiwlau byr ar-lein yn fy amser fy hun. Mae’n adnodd gwych ac yn ffordd dda o fy helpu i ddysgu mwy am Sir Gâr a Chymru. Byddwn yn argymell y rhaglen i unrhyw fusnesau lleol sy’n awyddus i helpu ymwelwyr i ddysgu mwy am Gymru a’n tref wych”.
Mae cofrestru i fod yn Llysgennad Twristiaeth Sir Gâr yn gyfle gwych i ddysgu rhywbeth newydd. Roedd dysgwyr yn gallu cymryd rhan mewn modiwlau diddorol am hanes a diwylliant Sir Gâr a gweithgareddau sydd i’w gwneud ledled Sir Gâr. Gall dysgu parhaus gael effaith gadarnhaol ar fywydau pobl; p’un a ydych chi’n awyddus i ddysgu mwy am yr ardal, gwella eich gobeithion o ran cael gwaith neu gwrdd â phobl newydd, mae dod yn Llysgennad yn ffordd wych o ddyfnhau eich gwerthfawrogiad o’r hyn sydd gan Sir Gâr i’w gynnig.
Dywedodd y Cynghorydd Hazel Evans:
“Roeddwn i wrth fy modd yn cael gwobrwyo’r unigolion hyn sy’n wirioneddol angerddol am y Sir hon ac sy’n helpu i hyrwyddo’r hyn sydd gan Sir Gâr i’w gynnig fel cyrchfan fywiog a phoblogaidd i dwristiaid. Mae’r Cyngor yn hynod o falch o’r hyn rydych chi wedi’i gyflawni ac yn diolch i chi am arwain y ffordd”.
Yn 2023, cynhyrchodd twristiaeth £683 miliwn yn Sir Gâr. Mae’r tîm Twristiaeth yn annog busnesau a phobl leol i ddysgu mwy am ein harfordir hardd, cefn gwlad, safleoedd hanesyddol a thrysorau cudd i ddenu mwy o ymwelwyr i’r ardal, gan gynyddu gwariant yn ein heconomi leol.
Os hoffech gael mwy o wybodaeth, neu gofrestru i fod yn Llysgennad Twristiaeth Sir Gâr ewch i’r wefan.
I gael y wybodaeth ddiweddaraf am yr hyn sy’n digwydd yn ein Sir, ewch i wefan Darganfod Sir Gâr.
Gwybodaeth Gyswllt: Cyngor Sir Caerfyrddin | Carmarthenshire County Council pressoffice@carmarthenshire.gov.uk