Cwrs Llysgennad Ynys Môn

Cwrs Llysgennad
Ynys Môn

Mae yna rywbeth i bawb ar ein hynys unigryw.

Cwrs Llysgennad Ynys Môn

Mae yna rywbeth i bawb ar ein hynys unigryw.

Llysgennad Ynys Môn - Isle of Anglesey Ambassador

Beth yw’r
Cynllun Llysgennad?

Dewch yn Llysgennad Ynys Môn trwy weithio eich ffordd trwy’r gyfres hon o fodiwlau hyfforddi ar-lein. Cewch y wybodaeth y mae ei hangen arnoch i rannu’r neges am beth y gellir ei weld, ei wneud a’i fwynhau wrth ymweld â’n hynys unigryw.

Mae Cynllun Llysgennad Ynys Môn ar gyfer unrhyw un sy’n croesawu ymwelwyr neu sydd â diddordeb yn ein hynys hardd.

Eisiau dysgu rhagor am Ynys Môn?

Dod yn Llysgennad

Profiadau llysgennad

Llanfair station sign

Eisiau dysgu rhagor am Ynys Môn?

Dod yn Llysgennad

Profiadau llysgennad

Llanfair station sign

“Roedd y cwrs Efydd Llysgennad Ynys Môn yn hawdd i’w gwblhau. Roedd y rhannau byr, yn cynnwys ffeithiau, y darnau ‘A wyddoch chi’ a’r straeon yn hawdd a chyflym i’w darllen. Mae ymwelwyr a phobol leol ar fy nheithiau, fel ei gilydd, yn hoff o ganfod mwy am Ynys Môn, ac rwy’n siŵr y bydd cymhwyster Llysgennad Ynys Môn yn gaffaeliad. Pa bynnag maes twristiaeth yr ydych yn gweithio ynddo, mae cael ychydig dameidiau o wybodaeth am gyfoethogi unrhyw sgwrs!”
Eli Elis-Williams, Teithiau Beic Lôn Las

Gwylio. Gwrando. Dysgu.
Dod yn Llysgennad Ynys Môn

Mae’n bosibl cyflawni’r Cynllun Llysgennad ar lein mewn dim ond ychydig o fodiwlau hawdd. Gallwch ddysgu wrth eich pwysau, gartref neu yn y gweithle. Darllenwch bob modiwl, gwyliwch glipiau fideo, gwrandewch ar arbenigwyr lleol ac yna, atebwch gwis byr ar y cynnwys. Cyn y byddwch wedi sylweddoli, byddwch yn Llysgennad dros Ynys Môn.

Gwylio. Gwrando. Dysgu.
Dod yn Llysgennad Ynys Môn

Mae’n bosibl cyflawni’r Cynllun Llysgennad ar lein mewn dim ond ychydig o fodiwlau hawdd. Gallwch ddysgu wrth eich pwysau, gartref neu yn y gweithle. Darllenwch bob modiwl, gwyliwch glipiau fideo, gwrandewch ar arbenigwyr lleol ac yna, atebwch gwis byr ar y cynnwys. Cyn y byddwch wedi sylweddoli, byddwch yn Llysgennad dros Ynys Môn.

Beth yw manteision dod yn Llysgennad?

  • I Chi

  • Cynyddwch eich gwybodaeth leol am yr ardal

  • Ychwanegwch at brofiadau difyr ar yr ynys

  • Cewch ennyn hyder ac agwedd bositif tuag at rannu eich dealltwriaeth a’ch gwybodaeth am Ynys Môn gydag eraill

  • Ennill sgiliau newydd i ychwanegu at eich CV

  • Dathlu lle’r ydych yn byw a gweithio

  • Rhannu eich cariad am yr ynys gyda phobl o’r un meddwl â chi

  • I’ch Busnes ac Ynys Môn

  • Cael mynediad i adnoddau gwerthfawr ar-lein am y gyrchfan hon, y gallwch eu rhannu â’ch ymwelwyr

  • Cyfleoedd o safbwynt Cysylltiadau Cyhoeddus, gan gynnwys cael defnyddio logo Llysgennad Ynys Môn

  • Cynnig i gael rhaglen gynefino barod ar gyfer staff, sy’n cynnwys gwybodaeth y gellir ei darparu i ymwelwyr

  • Help i ysgogi a chadw staff

  • Help i hybu teyrngarwch ac annog ymwelwyr i ddychwelyd yn y dyfodol

  • Help i hybu economi’r ynys

  • Darparu profiad unigryw a dilys

  • Help i gynyddu nifer yr ymweliadau, yr amser a dreulir ar yr ynys gan ymwelwr, ynghyd â’u gwariant

  • Modd syml i ychwanegu gwerth at eich busnes, yn rhad ac am ddim

  • Help i amddiffyn a chynnal yr ynys

  • Rhannu gwybodaeth am leoedd llai adnabyddus i ledaenu effaith ymwelwyr

Diweddaraf o’r blog

Lansio Cynllun Llysgenhadon Twristiaeth Newydd yn Sir y Fflint

Flintshire has recently launched a brand-new Tourism Ambassador Scheme just in time for the summer holidays.

Teithiau ymgyfarwyddo yn llwyddiant mawr gyda busnesau lleol

Wedi’u cynllunio i amlygu cyrchfannau diddorol ac allweddol i fusnesau twristiaeth lleol.

Llysgennad Cymru yn enillwr yng Ngwobrau Twristiaeth Go North Wales

Winners in this year’s Go North Wales Tourism Awards

Course funded by

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council logo UK Government Wales - Llywodraeth y DU Cymru
‘This project is funded by the UK Government through the UK Community Renewal Fund.’
‘Ariennir y prosiect hwn gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Adnewyddu Cymunedol y DU.’