Cwestiynau Cyffredin Gwynedd

Cwestiynau Cyffredin

Rydym yn gobeithio y bydd atebion y cwestiynau cyffredin hyn yn ateb eich cwestiynau. Os nad ydynt, anfonwch e-bost atom ar llysgennad@gwynedd.llyw.cymru a byddwn y hapus i’ch helpu.

Pwy sy'n gallu bod yn Llysgennad Gwynedd?

Mae croeso i unrhyw un sy’n dymuno ehangu eu gwybodaeth o Wynedd i gymryd rhan a dod yn Llysgennad Gwynedd. Fodd bynnag, mae’r rhai sy’n gweithio yn y diwydiant twristiaeth neu’n dod i gysylltiad ag ymwelwyr yn rheolaidd yn cael eu hannog yn arbennig i gymryd rhan ac i ddod yn Llysgennad Gwynedd.

Beth yw’r modiwlau hyfforddiant ar-lein?

Mae ystod o fodiwlau hyfforddi rhyngweithiol rhad ac am ddim wedi’u creu i roi cyfle i bobl ehangu eu gwybodaeth o Wynedd. Mae’r dull yma yn caniatáu i bawb ddysgu ar eu cyflymder eu hunain ac yn eu lleoliad dewisol mewn ffordd sy’n hwylus iddyn nhw.

Mae modiwlau wedi’u creu ar themâu gwahanol er mwyn rhoi hyblygrwydd i chi p’un a ydych eisiau cwblhau pob un o’r modiwlau neu’r rhai sy’n berthnasol i chi yn unig. Mae’r modiwlau yn cynnwys testunau, lluniau a ffilmiau gan fod pawb yn dysgu mewn ffyrdd gwahanol. Y Modiwlau yw:

    1. Gwynedd
    2. Iaith a Diwylliant
    3. Cymunedau
    4. Safleoedd UNESCO
    5. Yr Arfordir
    6. Tirwedd
    7. Gweithgareddau ac Atyniadau
    8. Hanes a Threftadaeth
    9. Cymru

A oes unrhyw un o'r modiwlau yn orfodol?

Oes – mae’r modiwlau canlynol yn orfodol:

  • Gwynedd
  • Iaith a Diwylliant
  • Cymunedau

A oes lefelau gwahanol i’r hyfforddiant?

Oes – tri.

  • Efydd – Cwblhau 3 modiwl
  • Arian – Cwblhau 6 modiwl
  • Aur – Cwblhau 9 modiwl

Sawl modiwl sydd angen i mi gwblhau i fod yn Lysgennad Gwynedd?

Er mwyn bod yn Llysgennad Gwynedd lefel Efydd, mae’n rhaid i chi gwblhau’r tri modiwl gorfodol.

A fydd y modiwlau'n cael eu hasesu?

Byddant, cynhelir profion syml i wirio eich cynnydd trwy gydol y modiwlau. Y sgôr ‘pasio’ yw 80%. Bydd cyfleoedd i ail-sefyll unrhyw un o’r modiwlau.

Faint o amser fydd angen i gwblhau pob modiwl?

Ar gyfartaledd, bydd pob modiwl yn cymryd tua 30 munud i’w cwblhau (fodd bynnag, mae’n bosibl y bydd rhai yn cymryd ychydig yn hirach/llai).

A yw’r modiwlau ar gael yn Gymraeg a Saesneg?

Mae pob modiwl ar gael yn Gymraeg a Saesneg.

Sicrhewch eich bod yn cwblhau’r holl gwrs yn yr iaith o’ch dewis, gan na allwn warantu y byddwn yn gallu cadw eich sgôr os ydych yn newid iaith.

A fydd yna adnoddau ar-lein ar gael?

Bydd – mae gan y wefan adran ‘Adnoddau’ lle y gallwch ddod o hyd i ystod o wybodaeth a dolenni defnyddiol i ategu at y modiwlau.

Pwy sydd wedi ariannu Cynllun Llysgennad Gwynedd?

Mae’r cynllun wedi derbyn cyllid gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol a Chyngor Gwynedd.

A oes yna unrhyw gyfleoedd i fynd ar deithiau dysgu / hyfforddiant wyneb yn wyneb?

Efallai y bydd cyfleoedd yn y dyfodol, ond ar hyn o bryd dim ond hyfforddiant ar-lein yr ydym yn ei gynnig. Fodd bynnag, mae croeso i chi gysylltu â ni gydag unrhyw syniadau sydd gennych ar sut y gallwn wella’r hyfforddiant ar-lein.

A fydd y modiwlau yn cael eu diweddaru neu a fydd modiwlau newydd yn cael eu cyflwyno?

Bydd – caiff modiwlau eu diweddaru yn ôl yr angen. Caiff modiwlau newydd eu cyflwyno yn ôl yr angen. Bydd y system yn hysbysu defnyddwyr pan fydd modiwl yn cael ei ddiweddaru neu os oes unrhyw gynnwys newydd wedi’i uwchlwytho.

Llysgennad Gwynedd Ambassador

Diweddaraf o’r blog