Cwrs

Cwrs Llysgennad Twristiaeth Sir Gâr

8 Modiwl

Croeso i Gwrs Llysgenhadon Twristiaeth Sir Gâr. I fod yn Llysgennad Twristiaeth Sir Gâr, mae’n rhaid i chi basio tri modiwl gorfodol i ennill tystysgrif Efydd.

Y modiwlau gorfodol yw;

  • Cyflwyniad i Sir Gâr
  • Trefi a Phentrefi Sir Gâr
  • Bwyd a Diod

Pan fyddwch wedi pasio’r modiwlau gorfodol i ennill eich tystysgrif Efydd, bydd pob cwis modiwl arall ar agor i chi, a gallwch ddewis unrhyw fodiwl i’w ddilyn nesaf.

Mae angen cwblhau cyfanswm o 6 modiwl i fod yn Llysgennad Twristiaeth Arian Sir Gâr.
Mae angen cwblhau cyfanswm o 9+ modiwl i fod yn Llysgennad Twristiaeth Aur Sir Gâr.

Dylai pob modiwl gymryd rhwng 15 a 30 munud ar gyfartaledd i’w gwblhau, ond cofiwch y gallwch chi stopio ac ailddechrau o’r man lle gadawyd pethau, a hynny ar unrhyw adeg yn ystod y cwrs.

TIP: Cwblhewch y modiwlau yn yr iaith y dewisoch ar y dechrau. Ni allwn warantu y byddwch yn cadw eich sgôr os byddwch chi’n newid iaith.

Cyflwyniad i Sir Gâr

Trefi a Phentrefi yn Sir Gâr

Bwyd a Diod Sir Gâr

Y Gymraeg yn Sir Gaerfyrddin

Gerddi a Mannau Gwyrdd yn Sir Gâr

Arfordir Sir Gâr

Hanes Sir Gaerfyrddin

Celfyddydau a Diwylliant yn Sir Gaerfyrddin