Cwestiynau Cyffredin Wrecsam

Cwestiynau Cyffredin

Gobeithiwn y bydd y cwestiynau cyffredin hyn yn gallu ateb eich cwestiynau. Os nad yw’r cwestiynau cyffredin yn ateb eich cwestiwn, anfonwch e-bost atom i ambassadors@wrexham.gov.uk a byddwn yn hapus i’ch helpu.

Pwy sy’n gallu bod yn Llysgennad swyddogol Wrecsam?

  • Unigolion sy’n gweithio yn y sector twristiaeth neu letygarwch
  • Unigolion sy’n gweithio ag ymwelwyr
  • Unigolion sy’n byw yn yr ardal
  • Unigolion sy’n astudio yn yr ardal

Mae croeso i unrhyw un sydd â diddordeb yn y cynllun neu sy’n dymuno dysgu mwy am yr hyn sy’n gwneud Wrecsam yn lle mor arbennig, gymryd rhan a dod yn Llysgennad. Fodd bynnag, os ydych chi’n rhan o bartneriaeth dwristiaeth “Dyma Wrecsam”, yna mae’r modiwlau hyn yn orfodol (hyd at y lefel efydd).

Beth yw’r modiwlau hyfforddiant ar-lein?

Rydym ni wedi creu ystod o fodiwlau hyfforddiant ar-lein rhyngweithiol a rhad ac am ddim i wella’ch gwybodaeth am Fwrdeistref Sirol Wrecsam.

Rydym ni wedi creu modiwlau ar themâu gwahanol er mwyn rhoi hyblygrwydd i chi gwblhau pob un neu ddewis a dethol pa rai rydych chi’n eu gwneud. Mae’r modiwlau yn gymysgedd o destun, lluniau a ffilmiau. Y tri modiwl cyntaf yw:

1. Dyma Wrecsam
2. Awyr Agored ac Atyniadau
3. Safle Treftadaeth y Byd

Bydd rhai o’r modiwlau sy’n cael eu datblygu yn 2023 yn cynnwys testunau fel bwyd a diod, hanes a threftadaeth, chwaraeon yn Wrecsam, cais Dinas Diwylliant 2029 ymhlith pethau eraill.

Bydd y modiwlau hyn yn barod o ganol mis Medi tan ddiwedd mis Mawrth 2024.

Oes yna fodiwlau gorfodol?

Oes, mae’n rhaid i chi gwblhau ‘Dyma Wrecsam’, ‘Awyr Agored ac Atyniadau’ a ‘Safle Treftadaeth y Byd’ er mwyn cyflawni lefel efydd y cynllun llysgennad a chyn mynd yn eich blaenau i roi cynnig ar y modiwlau eraill. Bydd yn rhaid i chi gwblhau chwe modiwl i gyrraedd y lefel arian a naw i gyrraedd y lefel aur.

A fydd y modiwlau’n cael eu hasesu?

Byddant, cynhelir profion syml i wirio eich cynnydd trwy gydol y modiwlau. Y sgôr ‘llwyddo’ yw 80%. Bydd cyfleoedd i ail-sefyll unrhyw un o’r modiwlau.

Faint fydd yn ei gymryd i gwblhau pob modiwl?

Ar gyfartaledd, bydd pob modiwl yn cymryd tua 30 munud i’w cwblhau (fodd bynnag, mae’n bosibl y bydd rhai yn cymryd ychydig yn hirach/llai).

Ydi’r modiwlau ar gael yn Gymraeg a Saesneg?

Ydyn, mae’r modiwlau ar gael yn Gymraeg a Saesneg.

Gwnewch yn siŵr eich bod chi’n cwblhau’r cwrs cyfan yn eich dewis iaith – ni allwn sicrhau y bydd eich sgôr yn cael ei chadw os ydych chi’n newid iaith.

Oes yna unrhyw ddeunydd hyrwyddo ar gael am gwblhau’r modiwlau / bod yn Llysgennad Twristiaeth?

Oes, mae’r canlynol ar gael am ddim –

  • Tystysgrifau (lefel efydd ac uwch)
  • Sticeri ar gyfer drysau a ffenestri
  • Brandio Llysgenhadon Wrecsam ar gael ar gais ar gyfer deunyddiau marchnata

A fydd modiwlau yn cael eu diweddaru, neu rai newydd yn cael eu cyflwyno?

Byddant – byddwn yn diweddaru’r modiwlau ac yn ychwanegu rhai newydd yn ôl yr angen. Bydd y system yn hysbysu defnyddwyr pan fydd modiwl yn cael ei ddiweddaru neu os oes unrhyw gynnwys newydd wedi’i uwchlwytho.

A fydd yna adnoddau ar-lein eraill ar gael?

Bydd – mae gan y wefan adran ‘Adnoddau’ lle fedrwch chi ddod o hyd i ystod o wybodaeth a dolenni defnyddiol i ategu at y modiwlau.

Llysgennad Ceredigion Ambassador logo

Diweddaraf o’r Blog