Y Llysgenhadon yn eu geiriau eu hunain

Mae cynllun Llysgennad Cymru yn annog adborth fel y gallwn wella’r profiad i bawb. Dyma rai o’r sylwadau gwych ’rydym wedi’u derbyn am ddod yn Llysgennad Cymru.

Nik Hughes

Nik Hughes

Rwy’n mwynhau Cynllun Llysgennad Eryri am amryw o resymau. Fel cerddwr mynydd a darlithydd coleg, mae’n caniatáu i mi feithrin cyswllt dwfn gyda’r Parc Cenedlaethol, ardal o harddwch naturiol arbennig, diwylliant a hanes. Nid yn unig ’rydw i’n cael fy ysbrydoli gan y dirwedd syfrdanol rwyf hefyd yn cael y cyfle i rannu’r rhyfeddod gyda’m myfyrwyr ac ymwelwyr fel ei gilydd.

Mae’n fy ngalluogi i chwarae rhan mewn diogelu’r amgylchedd, fel ’rwyf yn addysgu pobl am ymarferion cyfrifol a chynaliadwy. Mae’n ffordd wych i ymgysylltu â natur a gofalu amdano ac ysbrydoli eraill i wneud yr un fath.

Delia Roberts

Delia Roberts

Dwi’n caru Cymru gymaint ac yn caru Eryri hyd yn oed yn fwy. Mae bod yn Llysgennad yn hyrwyddo hyn a dwi eisiau i eraill ddysgu amdano a dysgu ei barchu cymaint â minnau. Byddwn yn annog pawb sydd eisiau dod i Eryri i fwynhau ei phrydferthwch i gwblhau’r cwrs. Mi wnes i fwynhau yn fawr.

William Prys Jones

William Prys Jones

Y peth gorau am fod yn Llysgennad yw’r cyfle i wella gwybodaeth drwy gyfoethogi profiadau gwell i drigolion ac ymwelwyr am Rinweddau Arbennig Parc Cenedlaethol Eryri. Gallwch ddilyn y cwrs ar-lein am ddim ac mae’n gyfle gwych i fusnesau a thrigolion roi hwb i’r economi leol drwy ddathlu a theimlo balchder am ein hardal o harddwch naturiol sydd o’n cwmpas.

Reece Robinson

Reece Robinson

Rwyf wedi mwynhau modiwlau’r Cynllun Llysgennad yn fawr iawn. Mae’n wych i ddiweddaru fy ngwybodaeth ond hefyd i ddysgu pethau newydd. Fel person proffesiynol yn y sector awyr agored sydd yn byw a gweithio yn Eryri, mae gen i falchder o wisgo’r nwyddau wedi eu brandio ac yn cael fy holi gan aelod o’r cyhoedd bron bob amser am y logo a’r cynllun.

Mairwen Evans

Mairwen Evans

Mae’n bleser gennyf fod yn Llysgennad Eryri. Mae tair lefel o hyfforddiant ar-lein: efydd, arian ac aur. Fe wnes gwblhau y tair lefel a chael tystysgrifau. Wedyn fe wnes gefnogi fy nghydweithwyr i’w cwblhau. Roedd yn ein galluogi i ddysgu am yr ardal a rhannu profiadau gyda’r cyhoedd yn ein swydd o ddydd i ddydd. Roedd yn gyfle unigryw ac hefyd yn ddiddorol. Roedd yn gyfle i ehangu gwybodaeth am yr ardal a dysgu am rinweddau arbennig Eryri.

Rydym yn ffodus i fyw mewn ardal gyda mynyddoedd, henebion, treftadaeth, bywyd gwyllt a moroedd sydd yn gwneud yr ardal yn arbennig. Rwyf yn falch fy mod yn byw mewn ardal o harddwch naturiol a chael cyfle i’w fwynhau.”

Jackie Bennett

Jackie Bennett

Rwyf wedi mwynhau dysgu mwy am yr ardal rwyf yn awr yn ei alw’n gartref. Rwyf wedi dysgu gymaint drwy’r Cynllun Llysgennad am yr hyn sy’n gwneud Eryri mor arbennig – yr hanes, tirweddau, daeareg, diwylliant, planhigion – a sut i’w ddiogelu. Rwy’n rhannu fy ngwybodaeth newydd gyda’m ffrindiau, teulu a’r rheiny sy’n ymweld â’r ardal, a gobeithio yn cyfoethogi eu profiad o’r ardal hefyd. Rwyf yn edrych ymlaen at wneud mwy o’r cyrsiau!

Lisa Wells

Lisa Wells

Mae bod yn Llysgennad Eryri fel bod yn warcheidwad Eryri (fy nghartref) fel y gallaf ei adael yn le gwell i genedlaethau’r dyfodol i’w fwynhau.

Drwy fodiwlau a fideos ar-lein roeddwn yn medru derbyn fy Ngwobr Llysgennad Aur. Fel Arweinydd Mynydd rwy’n gwirfoddoli i’r cynllun Caru Eryri ac yn cynnal teithiau cerdded i ferched yn unig yn Eryri. Teimlaf ei bod yn bwysig nid yn unig i mi ddeall yr ardal, y weledigaeth hirdymor a’r problemau a wynebir, ond hefyd i gynnig cyngor a gwybodaeth i unrhyw un rwy’n ei gyfarfod pan fyddaf allan neu’n arwain grŵp.

Byddwn yn bendant yn argymell y Cynllun Llysgennad i unrhyw un sydd â diddordeb mewn dysgu am orffennol yn ogystal â dyfodol ein Parc Cenedlaethol rhyfeddol.

Julie Thomson

Julie Thomson

Mae bod yn Llysgennad Eryri i mi am rannu fy mrwdfrydedd am ein Eryri arbennig, addysgu eraill am bwysigrwydd cynaladwyedd a’r effaith a gawn ar ein hamgylchedd. Rwy’n mwynhau rhannu fy ngwybodaeth am yr ardal fel Llysgennad a’r mythau a chwedlau sy’n rhan ohoni.

Beicio mynydd ar lwybrau naturiol o fewn Eryri ac o’i hamgylch yw’r hyn rwy’n ei fwynhau fwyaf a dangos y golygfeydd trawiadol hyn i feicwyr eraill. Wrth wneud hyn, rwy’n angerddol am bwysigrwydd yr ethos peidio gadael ôl ac addysgu eraill i wneud yr un peth.

Stephen Thomson

Stephen Thomson

Rwy’n teimlo’n angerddol dros fod yn Llysgennad Eryri gan ei fod yn darparu llwybr pwysig i ni addysgu eraill am ein heffaith ar yr amgylchedd. Mae’r rhan fwyaf o bobl yn canolbwyntio ar y mynyddoedd ac yn aml mae ein llynnoedd ac arfordiroedd yn cael eu hanwybyddu. Mae darparu gwybodaeth i eraill am sut i ofalu am ein dyfroedd a sut i fod yn gynaliadwy yn un o’n hymgyrchoedd yn Thomo’s Outdoor World. Tra ei bod yn bwysig i ni hyrwyddo’r ethos peidio gadael ôl, mae bod yn Llysgennad hefyd yn ein caniatáu i hyrwyddo darlun ehangach i bobl fel mythau, chwedlau, hanes a daeareg.

Debbie Green

Debbie Green

Mae fy ngŵr a minnau yn rhedeg fferm fechan sydd ag effaith isel, yn hunangynhaliol ac mewn ardal ddistaw yn Eryri. Roedd yn bwysig i’n cynlluniau rheoli i sicrhau bod y mesurau a gymerir ar y tir (sydd yn cynnwys cors mawn bioamrywiol a rhostir yr iseldir) yn cadw a chyfoethogi rhinweddau arbennig y Parc Cenedlaethol i eraill ei fwynhau rŵan ac yn y dyfodol.

Mae dod yn Llysgennad wedi cynyddu fy ngwybodaeth a’m gwerthfawrogiad o dirweddau, fflora a ffawna, hanes a threftadaeth Eryri, ac yn darparu cyfleoedd i ymgysylltu â phobl o’r un anian yn ein cymunedau. Rwy’n annog unrhyw un sydd â diddordeb i gymryd rhan.

Paul Kray

Paul Kray

Rwy’n mwynhau bod yn Llysgennad gan ei fod yn rhoi gwell dealltwriaeth i mi o’r ardal, ei hanes, ei diwylliant, ei chynefinoedd a’i dyfodol, a sut y gallwn wneud gwahaniaeth drwy ddefnyddio’r ddealltwriaeth honno a’i haddasu i gadw a gwarchod yr ardal arbennig hon am genedlaethau i ddod.

Marie-Claire Marsden

Marie-Claire Marsden

Diolch am yr anrhydedd o gael bod yn Llysgennad Aur ers bron i 3 blynedd bellach. Rwyf wedi darganfod cymaint am hanes, cymuned, daeareg ac ecoleg Eryri. Mae hyn wedi bod o gymorth i mi fel perchennog Gwely a Brecwast yn Llandanwg, Harlech i ryngweithio â gwesteion ac ateb eu cwestiynau mewn manylder. Mae’r deunydd dwyieithog yn ymdrin â gwybodaeth eang a manwl sy’n bodloni hyd yn oed y rhai â diddordebau arbenigol. Byddwn yn annog unrhyw un sydd â diddordeb yn yr ardal i gymryd rhan.

David Griffiths

David Griffiths

Mae dod yn Llysgennad Aur Eryri wedi bod yn llwyfan perffaith i ehangu fy ngwybodaeth a#m dealltwriaeth o gymeriad unigryw’r ardal gyfareddol hon o Gymru.

Gan adeiladau ar oes o brofiad o fyw a gweithio yma, mae wedi cynnau diddordebau newydd i mi yn ein diwylliant, treftadaeth, natur a’r amgylchedd. Yn enwedig wrth feithrin ymdeimlad brwd o stiwardiaeth gynaliadwy, tra’n ymgysylltu ag ymwelwyr a phobl leol fel ei gilydd i hyrwyddo a chynorthwyo eu mwynhad o’n hardal.

Mae fy musnes ffotograffiaeth tirwedd wedi elwa’n aruthrol o ran hyrwyddo fy hygrededd a’m gwybodaeth fel arweinydd i ymwelwyr.

Caitlin Conners

Caitlin Conners

Fel Llysgennad myfyriwr Bangor, mae’n anrhydedd i mi gynrychioli Cymru, ei diwylliant a’i hatyniadau. O’r hanes cyfoethog i’r tirweddau hardd, rwy’n teimlo balchder i arddangos hyfrydwch Cymru a’r hyn sy’n ei gwneud yn unigryw i’r byd, a chadw ei diwylliant a’i threftadaeth amrywiol yn fyw. Rwyf wrth fy modd fy mod yn cael chwarae rhan mewn gofalu a gwarchod Eryri, a chael y wybodaeth ddiweddaraf am gadwraeth y bywyd gwyllt sydd ganddi. Cymru am byth!

Fiona and Rob Nicholson

Fiona and Rob Nicholson

Mae rhedeg Gwesty Plas Coch yn Llanberis, lle mae’r mwyafrif helaeth o’n gwesteion yn aros gyda ni er mwyn dringo’r Wyddfa, yn ein galluogi i ddefnyddio’r sgiliau a’r wybodaeth a gawsom ar ein taith Llysgennad bob dydd.

Ein datganiad o genhadaeth yw darparu lletygarwch rhagorol i’r anturus ym mynyddoedd Eryri a chyda hyn daw hyrwyddo mwynhad cyfrifol, diogelwch a dealltwriaeth o fynyddoedd y Parc Cenedlaethol. Nid oes dim yn rhoi mwy o foddhad inni na galluogi a chyfoethogi arhosiad ein gwesteion fel eu bod yn gadael yn falch o’r hyn y maent wedi’i gyflawni a chyda’r awydd i ddychwelyd.

Megan Roberts

Megan Roberts

Bod yn Llysgennad Eryri yw mwynhau’r awyr agored ac ysbrydoli eraill i wneud yr un peth. Mae Eryri yno i bawb ei fwynhau, ni fydd byth yn dyddio, yn dod i ben, nac yn dod yn fusnes ar-lein.

Jen Brierley

Jen Brierley

Rwy’n teimlo’n ffodus iawn i fyw yng Ngogledd Cymru. O fy nghartref gallaf ymweld â thraethau hyfryd, tirweddau mynyddig a bryniau godidog. Gallaf fynd allan a gwylio’r haul yn machlud o frig bryngaer hynafol neu fynd am dro i’r pwynt lle mae’r mynyddoedd yn cwrdd â’r môr gan fwynhau’r golygfeydd sy’n newid drwy’r amser mewn goleuadau gwahanol. Yr hyn yr wyf yn ei garu am fod yn Llysgennad Twristiaeth Cymru yw fy mod yn gallu ehangu fy ngwybodaeth am y lle hyfryd yr wyf yn ei alw’n gartref, a’i rannu gydag eraill ar fy llwyfannau cyfryngau cymdeithasol fel bod modd iddynt hwythau fwynhau’r lle arbennig hwn hefyd, wyneb yn wyneb, neu drwy fy lluniau.

*

Debbie Hollingworth

Llwyddais i gwblhau 3 lefel y cwrs Llysgennad Sir Ddinbych yn ystod y cyfnod clo. Yn amlwg, ar y pryd, ni allwn i wneud llawer am fod yn Llysgennad ac nid oeddwn i’n gweithio yn y diwydiant twristiaeth, ond roeddwn i’n hoffi’r ffaith y gallai unrhyw un o unrhyw gefndir ddysgu gymaint am y sir maen nhw’n byw ynddi… Rydw i’n dweud wrth bawb amdano rŵan.

Tony Vitti

Tony Vitti

Mae Cynllun Llysgennad Cymru yn hynod o ddefnyddiol i mi yn fy ngwaith. Mae wedi rhoi cyfle i mi ddysgu am rannau o’r ardal nad oeddwn i wedi’u darganfod o’r blaen a gallu rhannu’r wybodaeth honno gyda’n cwsmeriaid. Mae’n amhrisiadwy pan fyddwn ni’n gwybod bod ardal benodol yn brysur a’n bod ni’n gallu awgrymu “perlau cudd” fel dewis amgen. Mae pobl wedi dod yn ôl atom i ddweud eu bod nhw wedi darganfod lle hyfryd oherwydd ein bod wedi gallu rhannu’r wybodaeth hon gyda nhw. Mae’n ddiddorol dysgu am ardaloedd y tu hwnt i ogledd-ddwyrain Cymru hefyd, oherwydd mae ein cwsmeriaid yn teithio i bob cwr o’r wlad. Fel rhywun sy’n hoffi crwydro, rydw i wedi elwa’n bersonol o bob un o’r cyrsiau. Maen nhw wedi mynd â fi i lefydd hardd ac atyniadau diddorol ac mae gen i wybodaeth well am y lleoedd hyn nag oedd gen i cyn dilyn y cyrsiau. Rydw i’n edrych ymlaen at fodiwlau newydd!

Daniel Jones

Daniel Jones

Mae bod yn Llysgennad Twristiaeth Cymru’n wych. Dw i’n meddwl ei bod yn bwysig arddangos diwylliant cyfoethog, tirwedd unigryw a phobl gyfeillgar Cymru. Dw i wir wedi mwynhau dysgu am y safleoedd treftadaeth o amgylch Gogledd Cymru yn ystod y rhaglen.

Philip Löf-Jillesjö

Philip

Nid wyf yn byw yng Nghymru mwyach ar ôl gadael Conwy i symud i Frwsel ychydig dros flwyddyn yn ôl. Mi wnes i ddod ar draws y cynllun Llysgennad a meddwl y byddai’n ffordd dda o gynnal fy nghysylltiad â Chonwy a dysgu pethau newydd am fy sir enedigol y gallaf eu defnyddio i hyrwyddo Cymru a Chonwy yng Ngwlad Belg.

Mae’r cwrs yn un pleserus ac mae wedi’i osod allan mewn modd hygyrch ac ymgysylltiol sy’n eich caniatáu i ddysgu mwy am hanes a diwylliant Conwy, hyd yn oed os ydych chi eisoes yn gyfarwydd iawn â’r ardal.

Stuart Kelly

Stuart

Mae bod yn llysgennad twristiaeth i Gonwy yn ffordd wych o ddysgu a throsglwyddo gwybodaeth am yr ardal hyfryd yr ydym yn byw ynddi. Mae’r gwesteion yn ein gwely a brecwast yn Nhrefriw wir yn gwerthfawrogi unrhyw gymorth a chyngor y gallwn ni ei roi iddynt, ac mae cael gwybodaeth ddiddorol a defnyddiol i’w rannu am yr ardal leol – wedi’i roi iddynt mewn modd angerddol, brwdfrydig a gyda hygrededd – yn wych i ni fel busnes, ond hefyd i bawb arall sy’n croesawu ymwelwyr yma. Crafnant House – Gwely a Brecwast.

Steve Potten

Steve

Rwyf wir yn mwynhau rhyngweithio gyda thwristiaid yn ein hardal hyfryd yn enwedig ar Gei Conwy. Mae gennyf safleoedd cyfryngau cymdeithasol ar gyfer ffotograffiaeth a digwyddiadau yn yr ardal. Mae Ribster13 Photography Media yn adnabyddus o gwmpas yr ardal ac mae gwenu a chwerthin bob amser yn mynd lawr yn dda. Er hynny, hoffwn y cyfle i ennill incwm o’r gwaith hwn gan fy mod yn treulio oriau yn ei wneud. Rwyf wir yn argymell y cynllun llysgennad ac i mi, rwyf bellach yn llysgennad ar gyfer Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol y Badau Achub hefyd a ddeilliodd o’r cynllun hwn. Mae gennym ein cyfrif X (Twitter) ein hunain hefyd star@captainconwy sy’n cefnogi’r dref.

Carwyn Humphreys

Carwyn Humphreys

Fel rhywun a aned ac a fagwyd yn lleol, mae bod yn rhan o raglen Llysgennad Eryri yn anrhydedd mawr. Mae’n golygu bod yn eiriolwr angerddol dros y rhan yma o’r byd, gan hyrwyddo twristiaeth gyfrifol a helpu ymwelwyr i brofi’r gorau o’r hyn sydd gennym i’w gynnig, nid yn unig ein mynyddoedd godidog ond ein harfordir hardd a’n dyfrffyrdd hefyd. Dw i’n angerddol dros ein diwylliant a’n treftadaeth cyfoethog a sut mae gan bob un ohonom rol i warchod yr amgylchedd. Mae’n bwysig diogelu Eryri i fod yn lle arbennig i bawb.

Janette Lewis

Janette Lewis

Dw i ddim yn gweithio yn maes ond yn mwynhau ymweld ag Eryri yn fawr iawn. Hefyd, dw i’n dysgu Cymraeg felly mi wnes i bendefynu gwneud y Cwrs Llysgennad Cymru yng Nghymraeg. Mae’r cwrs yn wych i unrhyw un sy’n caru Eryri ac sy’n cael cyfle i ymarfer eu Cymraeg.