Dathlu Llysgenhadon Twristiaeth Sir Gâr

Cyn Wythnos Llysgenhadon Twristiaeth Cymru (16-22 Tachwedd), mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi dathlu ei rwydwaith cynyddol o Lysgenhadon Twristiaeth, gyda mwy na 30 o bobl yn cael eu cydnabod mewn seremoni wobrwyo arbennig a gynhaliwyd yn Neuadd y Sir, Caerfyrddin ar 9 Tachwedd.

Yn ystod y drydedd seremoni wobrwyo flynyddol derbyniodd llysgenhadon gydnabyddiaeth gan y Cynghorydd Hazel Evans, Aelod Cabinet y Cyngor Sir dros Adfywio, Hamdden, Diwylliant a Thwristiaeth, am eu rôl yn helpu ymwelwyr i ddarganfod a mwynhau’r gorau o Sir Gâr.

“Mae ein Llysgenhadon Twristiaeth yn chwarae rhan hanfodol yn helpu ymwelwyr i fanteisio i’r eithaf ar eu hamser yn Sir Gâr. Mae eu brwdfrydedd, eu gwybodaeth leol a’u balchder yn y sir yn helpu i greu profiadau cofiadwy ac yn annog pobl i ddarganfod mwy o’r hyn sydd gennym i’w gynnig. Mae Wythnos Llysgenhadon Twristiaeth Cymru yn gyfle gwych i ddathlu eu cyfraniad ac annog eraill i ymuno â’r cynllun.

Mae Wythnos Llysgenhadon Twristiaeth Cymru yn dathlu’r bobl sy’n rhoi croeso cynnes i ymwelwyr a’u hysbrydoli i archwilio mwy o atyniadau, profiadau, bwyd, diod a diwylliant.

Carmarthenshire Ambassadors receiving certificates 2026

Mae Cynllun Llysgenhadon Twristiaeth Sir Gâr yn rhaglen ar-lein rhad ac am ddim sy’n helpu pobl a busnesau i ddatblygu gwybodaeth ddyfnach o’r sir a hyrwyddo ei hatyniadau, gweithgareddau, bwyd a diod, diwylliant a threftadaeth yn hyderus. Mae’r cynllun yn agored i unrhyw un sydd ag angerdd dros Sir Gâr, o ddarparwyr llety ac atyniadau i staff manwerthu, gwirfoddolwyr, myfyrwyr a threfnwyr digwyddiadau, ac mae’r cynllun yn rhoi’r sgiliau a’r mewnwelediad i’r llysgenhadon i wella profiad ymwelwyr.

Mae cofrestru’n gyflym, yn hawdd ac am ddim. P’un a ydych chi’n gweithio ym maes twristiaeth, lletygarwch, manwerthu neu’n syml eisiau hyrwyddo’r sir, mae dod yn Llysgennad Twristiaeth yn ffordd wych o rannu eich angerdd dros Sir Gâr a helpu i arddangos popeth sydd gan y sir i’w gynnig. I gael rhagor o wybodaeth a chofrestru, ewch i wefan Llysgenhadon Twristiaeth Sir Gâr.