Cwrs

Cwrs Llysgennad Ynys Môn

6 Modiwl

Croeso i Gwrs Llysgennad Ynys Môn.

Cyn cychwyn cwrs Cynllun Llysgennad Ynys Môn, gwyliwch y fideo byr hwn sy’n rhoi gair o groeso, gan Nia Rhys Jones o Gymdeithas Dwristiaeth Ynys Môn.

 

Bydd angen i chi wneud y tri modiwl gorfodol cyntaf i gyflawni tystysgrif lefel Efydd i fod yn Llysgennad Ynys Môn. Caiff rhagor o fodiwlau eu rhyddhau’n fuan, ac fe gewch ddewis y modiwlau y dymunwch eu gwneud, i fynd ymlaen i gyflawni’r tystysgrifau lefel Arian ac Aur.

Tystysgrif Efydd – 3 modiwl

  • Ein Hynys
  • Ein Gorffennol
  • Ein Hiaith a’n Diwylliant

Tystysgrif Arian – 6 modiwl
Tystysgrif Aur – 9 modiwl

Ychwanegir rhagor o fodiwlau yn y misoedd i ddod, felly cadwch olwg am y canlynol:

  • Bwyd a Diod
  • Mynd o Le i Le
  • Lleoedd Arbennig

*Hawlfraint y Goron Croeso Cymru yw pob delwedd, oni nodir yn wahanol.

TIP: Cwblhewch y modiwlau yn yr iaith y dewisoch ar y dechrau. Ni allwn warantu y byddwch yn cadw eich sgôr os byddwch chi’n newid iaith.