Elidir fawr o Garnedd y Filiast, Copyright Dilwyn Williams
Cwrs

Bod yn Lysgennad Parc Cenedlaethol Eryri

13 Modiwl

Diolch yn fawr am gofrestru i ddod yn Llysgennad Eryri. Byddwch yn derbyn nodyn o hysbysiad bob tro y bydd deunydd newydd wedi cael ei uwchlwytho i’r wefan.

Er mwyn bod yn Lysgennad Eryri ac i ennill y dystysgrif Efydd mae’n rhaid pasio tri modiwl gorfodol.

Y modiwlau gorfodol yw;

  • Croeso i Barc Cenedlaethol Eryri
  • Twristiaeth Gynaliadwy
  • Yr Wyddfa

Unwaith y byddwch wedi llwyddo i basio’r modiwlau gorfodol ac wedi ennill eich tystysgrif Efydd, bydd y cwis ar gyfer pob modiwl arall yn dod ar gael, a gallwch ymgymryd ag unrhyw fodiwl o’ch dewis chi.

Er mwyn bod yn Lysgennad Arian rhaid cyflawni cyfanswm o 6 modiwl.
Er mwyn bod yn Lysgennad Aur rhaid cyflawni cyfanswm o 9 modiwl neu fwy.

Yn ystod y flwyddyn bydd diweddariadau yn cael eu gwneud i gynnwys y cwrs i gyd- fynd â’r newid yn amgylchiadau’r Parc Cenedlaethol. Ar ddiwedd pob blwyddyn rydym yn rhyddhau modiwl adnewyddu a fydd yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi am y cwrs. Oherwydd hyn, mae pob tystysgrif wedi’i dyddio gyda’r flwyddyn cwblhau er mwyn sicrhau bod ein Llysgenhadon yn cael y wybodaeth ddiweddaraf. Ar gyfer Llysgenhadon Aur Eryri presennol, ar ôl cwblhau’r cwrs adnewyddu, byddwch yn ail-gymhwyso’n awtomatig a byddwch yn derbyn tystysgrif wedi ei hadnewyddu gyda dyddiad y flwyddyn nesaf. Ar gyfer Llysgenhadon Efydd ac Arian a hoffai symud ymlaen i’r lefel nesaf, cwblhewch fodiwlau pellach i ennill statws Llysgennad uwch.

(Ceir dolenni i bob adnodd yn yr adran ‘Adnoddau Conwy’ ar y wefan hon.)

TIP: Cwblhewch y modiwlau yn yr iaith y dewisoch ar y dechrau. Ni allwn warantu y byddwch yn cadw eich sgôr os byddwch chi’n newid iaith.

Croeso i Barc Cenedlaethol Eryri

Twristiaeth Gynaliadwy

Yr Wyddfa

Rhinwedd Arbennig 1: Tirweddau Amrywiol

Rhinwedd Arbennig 2: Cydlyniant Cymunedol

Rhinwedd Arbennig 3: Bywiogrwydd yr Iaith Gymraeg

Rhinwedd Arbennig 4: Ysbrydoliaeth i'r Celfyddydau

Rhinwedd Arbennig 5: Llonyddwch ac Unigedd

Rhinwedd Arbennig 6: Cyfleoedd Hamdden Helaeth

Rhinwedd Arbennig 7: Tirweddau Hanesyddol

Rhinwedd Arbennig 8: Daeareg Enwog

Rhinwedd Arbennig 9: Rhywogaethau a Chynefinoedd Rhyngwladol Bwysig

Parc Cenedlaethol Di-sbwriel a Statws Mynydd Di-blastig