Snowdonia Ambassador FAQs

Cwestiynau Cyffredinol

Gobeithiwn y bydd y cwestiynau cyffredin hyn yn gallu ateb eich cwestiynau. Os nad yw’r cwestiynau cyffredin yn ateb eich cwestiwn, anfonwch e-bost atom ar  Llysgennad.Eryri@eryri.llyw.cymru a byddwn yn hapus i’ch helpu.

Pwy sy’n gallu bod yn Lysgennad Eryri?

Mae’r cynllun wedi ei anelu’n benodol at unigolion neu fusnesau yn y diwydiant twristiaeth neu sydd yn dod wyneb yn wyneb ag ymwelwyr yn rheolaidd. Ond, mae croeso i unrhyw un â diddordeb yn y cynllun neu sydd yn dymuno ehangu eu gwybodaeth ar bopeth sydd yn gwneud Eryri yn eithriadol  gymryd rhan a dod yn Lysgennad.

Beth yw’r modiwlau hyfforddiant ar-lein?

Mae ystod o fodiwlau hyfforddiant ar-lein rhyngweithiol am ddim wedi’u creu i wella gwybodaeth am Barc Cenedlaethol Eryri. Mae’r ymagwedd hon yn caniatáu i bawb ddysgu ar eu cyflymder a’u lleoliad dewisol mewn ffordd sy’n hwylus iddyn nhw.

Mae modiwlau wedi’u creu ar themâu gwahanol er mwyn rhoi hyblygrwydd i chi p’un a ydych eisiau cwblhau, pob un o’r modiwlau neu’r rhai sy’n berthnasol i chi yn unig. Mae’r modiwlau yn cynnwys testunau, lluniau a ffilmiau gan fod pawb yn dysgu mewn ffyrdd gwahanol. Y modiwlau yw –

  1. Croeso i Barc Cenedlaethol Eryri
  2. Twristiaeth Gynaliadwy
  3. Yr Wyddfa
  4. Rhinwedd Arbennig 1: Tirweddau Amrywiol
  5. Rhinwedd Arbennig 2: Cydlyniant Cymunedol
  6. Rhinwedd Arbennig 3: Bywiogrwydd yr Iaith Gymraeg
  7. Rhinwedd Arbennig 4: Ysbrydoliaeth ar gyfer y Celfyddydau
  8. Rhinwedd Arbennig 5: Llonyddwch ac Unigedd
  9. Rhinwedd Arbennig 6: Hamddena Dysgu a Hamdden
  10. Rhinwedd Arbennig 7: Tirweddau Hanesyddol
  11. Rhinwedd Arbennig 8: Daeareg Byd Enwog
  12. Rhinwedd Arbennig 9: Cynefinoedd a Rhywogaethau Rhyngwladol Bwysig
  13. Parc Cenedlaethol Di-sbwriel a Statws Mynydd Di-blastig

A fydd y modiwlau yn canolbwyntio ar bynciau penodol?

Bydd y modiwlau yn ymdrin â phob agwedd sydd yn gwneud Eryri yn eithriadol, gan ganolbwyntio’n benodol ar y 9 Rhinwedd Arbennig y Parc Cenedlaethol, Twristiaeth Gynaliadwy a’i bwysigrwydd i ni yn y Parc Cenedlaethol, a hefyd golwg manwl ar y mynydd eiconig yng nghalon Eryri, Yr Wyddfa.

A oes unrhyw un o’r modiwlau yn orfodol?

Oes – mae’n rhaid i chi gwblhau ‘Croeso i Barc Cenedlaethol Eryri’, ‘Twristiaeth Gynaliadwy’ ac ‘Yr Wyddfa’ cyn cael mynediad at fodiwlau eraill o’ch dewis chi.

A oes lefelau gwahanol i’r hyfforddiant?

Oes!

  • Efydd- Cwblhau 3 modiwl
  • Arian- Cwblhau 6 modiwl
  • Aur- Cwblhau 9+ o fodiwlau

Sawl modiwl sydd angen i mi gwblhau i fod yn Lysgennad Eryri?

Er mwyn bod yn Lysgennad Twristiaeth Parc Cenedlaethol Eryri (Efydd), mae’n rhaid i chi gwblhau’r tri modiwl gorfodol.

A fydd y modiwlau yn cael eu hasesu?

Bydd, cynhelir profion syml i wirio eich cynnydd trwy gydol y modiwlau. Y sgôr ‘pasio’ yw 80%. Bydd cyfleoedd i ail-sefyll unrhyw un o’r modiwlau.

Faint o amser fydd yn ei gymryd i gwblhau pob modiwl?

Ar gyfartaledd, bydd pob modiwl yn cymryd tua 30 munud i’w cwblhau (fodd bynnag, mae’n bosibl y bydd rhai yn cymryd ychydig yn hirach/llai).

A yw’r modiwlau ar gael yn Gymraeg a Saesneg?

Mae pob un o’r modiwlau ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg.

Sicrhewch eich bod yn cwblhau’r modiwl cyfan yn yr iaith o’ch dewis chi, gan nad oes sicrhâd o gadw eich sgôr os y gwnewch gyfnewid iaith.

A fydd yna unrhyw ddeunyddiau hyrwyddol ar gael am gwblhau’r modiwlau/ dod yn Lysgennad Eryri?

Bydd, Mae’r canlynol ar gael am ddim –

  • Tystysgrifau
  • Brandio Llysgennad Twristiaeth i’w ddefnyddio ar eich deunyddiau marchnata
  • Bathodynnau
  • Sticeri ar gyfer drysau a ffenestri

A oes yna unrhyw gyfle i fynd ar deithiau dysgu / hyfforddiant wyneb yn wyneb i ehangu’r dysgu ar-lein?

Oes- trefnir hyfforddiant wyneb yn wyneb a theithiau dysgu i ategu at y dysgu ar-lein ac i ddarparu cyfleoedd i bawb rwydweithio â Llysgenhadon eraill, rhannu arfer dda a chyfrannu at gynllunio ar gyfer twristiaeth y dyfodol.

A fydd y modiwlau yn cael eu diweddaru neu a fydd modiwlau newydd ynn cael eu cyflwyno?

Bydd – caiff modiwlau eu diweddaru yn ôl yr angen. Caiff modiwlau newydd eu cyflwyno yn ôl yr angen. Bydd y system yn hysbysu defnyddwyr pan fydd modiwl yn cael ei ddiweddaru neu os oes unrhyw gynnwys newydd wedi’i uwchlwytho.

A fydd yna adnoddau ar-lein ar gael?

Bydd – mae gan y wefan adran ‘Adnoddau’ lle y gallwch ddod o hyd i ystod o wybodaeth a dolenni defnyddiol i ategu at y modiwlau.

Llysgennad Eryri Ambassador badge

Latest From the Blog