
Beth yw’r
Cynllun Llysgennad?
	Mae’r cynllun hwn yn darparu cyfle hyfforddi unigryw i wella’ch gwybodaeth am Rinweddau Arbennig Parc Cenedlaethol Eryri a phopeth sy’n gwneud Eryri yn eithriadol. Fel llysgennad y cynllun hwn, byddwch chi’n chwarae rhan bwysig wrth gyfoethogi profiad trigolion ac ymwelwyr Eryri.
Eisiau dysgu mwy am Barc Cenedlaethol Eryri?
Dewch yn Lysgennad
Profiadau Llysgenhadon Eryri
Wedi mynychu gweithdy agoriadol ym Mhlas Tan y Bwlch yn Chwefror 2020 dywedodd un Llysgennad:“Strwythur arbennig – anffurfiol ond yn hynod addysgiadol. Digon o gyfleoedd i rannu syniadau a phrofiadau. Diolch.”
Gwylio. Dysgu.
Dewch yn Lysgennad Parc Cenedlaethol Eryri
	Gellir cyflawni’r Cynllun Llysgennad ar-lein drwy ddilyn ychydig o fodiwlau syml. Cewch ddysgu ar gyflymder sy’n addas i chi, boed hynny yn eich cartref neu yn eich lleoliad gwaith. Darllenwch bob modiwl ac yna atebwch gwis byr am y cynnwys. Byddwch yn Lysgennad Eryri mewn dim.
Gwylio. Dysgu.
Dewch yn Llysgennad Parc Cenedlaethol Eryri
	Gellir cyflawni’r Cynllun Llysgennad ar-lein drwy ddilyn ychydig o fodiwlau syml. Cewch ddysgu ar gyflymder sy’n addas i chi, boed hynny yn eich cartref neu yn eich lleoliad gwaith. Darllenwch bob modiwl ac yna atebwch gwis byr am y cynnwys. Byddwch yn Lysgennad Eryri mewn dim.
Beth yw'r manteision o ddod yn Lysgennad?
- I Chi
- Gwella eich gwybodaeth leol am yr ardal
- Darparu profiad gwell fyth i ymwelwyr
- Meithrin sgiliau newydd i'w rhoi ar eich CV
- Cyfle i ddathlu a theimlo balchder ac angerdd am ein hardal hardd
- Rhannu syniadau ac arfer dda gyda phobl o’r un fryd
- Bod yn rhan o grŵp sydd â’r un diddordeb
- Rhoi hwb i'ch hyder er mwyn rhannu gwybodaeth am Eryri gydag eraill
- I’ch busnes
- Cynnig rhaglen gynefino staff sydd wedi’i pharatoi am ddim
- Cyfleoedd Cysylltiadau Cyhoeddus
- Cymorth gyda chymhelliant staff a sut i’w cadw
- Helpu i wella ffyddlondeb a nifer ymwelwyr sy’n galw eto
- Helpu i roi hwb i economi Eryri
- Darparu profiadau unigryw a dilys i ymwelwyr
- Helpu i gynyddu nifer o ymwelwyr, yr hyd y maent yn aros a’u gwariant
- Ffordd syml ac am ddim i ychwanegu gwerth at eich busnes
- Helpu i ddatblygu a chynnal ein cyrchfan
Y diweddaraf o’r blog
Cwrs wedi'i ariannu gan
 
 
		 
		 
	


