Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn Lansio Cwrs Llysgennad Am Ddim

Yn ddiweddar, lansiodd Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog dri modiwl cyntaf ei gwrs llysgennad newydd ar lein.

Mae’r cwrs wedi’i ddylunio i ddangos mwy i ddarparwyr twristiaeth am dirwedd syfrdanol Bannau Brycheiniog. Mae’r tri modiwl ar gael ar hyn o bryd a bwriedir rhyddhau mwy yn y dyfodol. Mae’r cwrs ar gael am ddim ac ar hyn o bryd ac mae’n cynnwys modiwlau sy’n rhoi Cyflwyniad i Fannau Brycheiniog, Synnwyr o Le a Phobl y Gorffennol.

Mae’r cyrsiau wedi’u dylunio i ddyfnhau gwybodaeth o’r tirlun ac i ddathlu’r ardal hardd gyda balchder. Y bwriad yw rhoi digon o wybodaeth i ddarparwyr twristiaeth i siarad am y Parc Cenedlaethol gyda hyder.

Craig y Nos Castle

Castell Craig y Nos © Tim Jones, As You See It Media

Meddai Carol Williams, Swyddog Twristiaeth Gynaliadwy’r Parc Cenedlaethol,

“Rydym wrth ein bod yn lansio’r cwrs ar lein. Rydym yn rheoli grŵp o dros 343 o lysgenhadon. Mae pob un yn angerddol dros y Parc ac mae’r cynllun yn eu galluogi i ddysgu hyd yn oed fwy am ein Parc Cenedlaethol. Erbyn hyn, gan fod gennym gwrs ar lein, mae hyd yn oed fwy o bobl yn gallu cymryd rhan. Ac nid yw wedi’i gyfyngu i ddarparwyr twristiaeth chwaith. Gall unrhyw un gyda diddordeb ym Mannau Brycheiniog gymryd rhan.

Bydd modiwlau’r dyfodol yn cynnwys gwersi ar Awyr Dywyll, Geobarc a Natur y Parc Cenedlaethol. Rydym yn awyddus i helpu i ddod â phobl gyda ni ar daith i ddyfodol cynaliadwy i’r Parc Cenedlaethol.“

Mae’r cwrs llysgennad yn hollol am ddim. Ar ôl pasio cwis byr, bydd y rhai oedd yn cymryd rhan yn cael cynnig tystysgrif. Bydd pasio tri modiwl yn ennill gwobr efydd, chwe modiwl yn ennill gwobr arian a naw yn ennill aur.

Mae Kevin Walker o Mountain Activities ymysg y bobl gyntaf i gwblhau’r cwrs. Meddai,

“Mae’r modiwlau llysgennad ar lein, newydd, yn wych! Mae yna lawer o wybodaeth werthfawr mewn darnau hawdd eu treulio, ac mae’r cwis ar ddiwedd pob modiwl o help gwirioneddol i hoelio’r hyn sydd wedi’i ddysgu, sy’n ei gwneud cymaint yn haws i rannau’r wybodaeth gydag ymwelwyr a phobl leol! Ewch amdani.”