Lansio Cynllun Llysgenhadon Twristiaeth Newydd yn Sir y Fflint

Mae Sir y Fflint wedi lansio Cynllun Llysgenhadon Twristiaeth newydd sbon yn ddiweddar, mewn pryd ar gyfer gwyliau’r haf. Mae’r cynllun hwn, sydd am ddim, wedi ei lunio i wella profiad ymwelwyr drwy ddarparu gwybodaeth ynglyn â’r pethau gwych sydd gan Sir y Fflint i’w cynnig i bobl sy’n gweithio ym maes twristiaeth, pobl sy’n gweithio gydag ymwelwyr neu rai sy’n byw neu astudio yn yr ardal. Gall pobl sy’n bwriadu ymweld â Sir y Fflint am wyliau gwblhau’r cwrs i baratoi ar gyfer taith ardderchog.

St Winefride's Well

Ffynnon Gwenffrewi

Lluniwyd cyfres o fodiwlau hyfforddi rhyngweithiol ar-lein gyda chwisiau ar themâu amrywiol megis cerdded a’r awyr agored, diwylliant a threftadaeth Sir y Fflint, bwyd a diod, trefi a siopa, a thwristiaeth gynaliadwy. Mae pob modiwl yn cymryd 15-30 munud i’w gwblhau.

Mae yna ddwy lefel o wobrau ar hyn o bryd – efydd ac arian, yn dibynnu ar nifer y modiwlau a gwblheir. Bydd modiwlau ychwanegol yn cael eu datblygu er mwyn galluogi Llysgenhadon i gyrraedd gwobr aur. Bydd pob Llysgennad yn derbyn tystysgrif am gwblhau pob lefel. Mae yna hefyd adnoddau ar-lein i lawrlwytho dogfennau cysylltiol, deunydd brandio a dolenni i wefannau perthnasol.

Dywedodd Aelod Cabinet Newid Hinsawdd a’r Economi, y Cynghorydd David Healey:

“Mae’r cynllun hwn wedi bod yn llwyddiannus iawn yn siroedd cyfagos gogledd Cymru, ac rydym yn falch o gael dod â’r adnodd hwn i Sir y Fflint i gefnogi’r sector twristiaeth.

Bydd y Llysgenhadon yn cynorthwyo i gyfathrebu neges gyson ynglyn â Sir y Fflint a’r gweithgareddau twristiaeth amrywiol a lleoedd o ddiddordeb sydd ar gael yn ein sir.

Mae’r cynllun yn cynnig dull hyblyg i ddysgwyr ddenu Llysgenhadon o bob cwr i’r sir, a thu hwnt. Gobeithio y bydd busnesau lleol yn manteisio ar y cynllun ac annog staff i wneud y modiwlau, yn arbennig y rheiny sy’n gweithio yn y sector twristiaeth.

Mae lansio’r cynllun newydd hwn yn beth cyffrous i ni, ac rydym yn annog pawb sydd â diddordeb yn Sir y Fflint i ddod yn Llysgennad Twristiaeth Sir y Fflint.”

Cynigir siwrneiau dysgu rheolaidd i Lysgenhadon i ehangu eu gwybodaeth ymhellach drwy ymweliadau safle i leoedd o ddiddordeb yn Sir y Fflint a’r awdurdodau cyfagos. Aeth y Llysgenhadon presennol yn ôl i oes y Rhufeiniaid yn y siwrnai ddiweddaraf – buont yn ymweld â’r Gaer Rufeinig ym Mharc y Gorffennol, yr Hôb. Yn y prynhawn aethant am daith ar y trên i orsaf newydd Corwen, ac yna cafwyd taith o gwmpas y dref, gan gynnwys ymweliad â’r eglwys a’r amgueddfa.

Mae’r prosiect wedi cael arian drwy Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, sy’n cael ei hariannu gan Gronfa Amaethyddiaeth Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.