Cynllun Llysgennad yn profi’n boblogaidd ledled Gogledd Cymru

Mae cynllun sy’n cynnig hyfforddiant a gwybodaeth i bobl ar dwristiaeth yng Ngogledd Cymru yn profi’n boblogaidd. Gyda dros 2,000 o bobl wedi cofrestru, mae dros 1,350 sydd wedi dod yn Llysgenhadon dros o leiaf un o’r rhanbarthau yng Nghymru, gan gynnwys Llysgenhadon Twristiaeth Sir Ddinbych – ac mae hyn yn parhau i dyfu.

Mae cynllun Sir Ddinbych yn cynnig 12 modiwl hyfforddiant ar-lein ar amrywiaeth o themâu, gan gynnwys cerdded, beicio, trefi, hanes, y celfyddydau, yr arfordir, y Gymraeg a thwristiaeth bwyd. Mae yna 3 lefel o ddyfarniad – efydd, arian ac aur, yn dibynnu ar faint o fodiwlau sy’n cael eu cwblhau.

Dywedodd y Cynghorydd Hugh Evans OBE, Arweinydd Cyngor Sir Ddinbych:

“Rydym yn gwybod y gall dysgu parhaus gael effaith gadarnhaol ar fywydau pobl. Boed yn ddymuniad i ddysgu rhagor am yr ardal, gwella gorwelion o ran swyddi neu gwrdd â phobl newydd, mae dod yn Llysgennad Sir Ddinbych yn ffordd wych o ddechrau’r flwyddyn. Bydd y cynllun yn cyfoethogi eich gwybodaeth a’ch dealltwriaeth o’r ardal, yn ogystal â rhoi cyfle i chi fynd i ddigwyddiadau ac ymweld â rhai o’n safleoedd allweddol ledled y Sir.”

Sir Ddinbych oedd y cyntaf i lansio cynllun ar-lein o’r fath yng Nghymru. Mae’n rhad ac am ddim ac yn agored i bawb. Mae preswylwyr, gwirfoddolwyr a grwpiau cymunedol lleol yn cael eu hannog yn benodol i ddod yn Llysgenhadon, ac i ddysgu rhagor am nodweddion arbennig Sir Ddinbych.

Dywedodd Wendy Davies, preswylydd:

“Ar ôl bwcio pythefnos o wyliau, fe wnes i ganfod fod rhaid i mi hunanynysu am 7 o’r diwrnodau hynny! Wedi diflasu ar wylio’r teledu, a methu canolbwyntio ar lyfrau, heb sôn am fethu gadael y tŷ ar gyfer fy hobiau arferol megis cerdded, mynd i’r gampfa, beicio… fe wnes i benderfynu dilyn y modiwlau ar-lein. Roeddwn i wrth fy modd! Mae’r fideos a’r wybodaeth yn anhygoel, mae gymaint o ffeithiau wedi cael eu cynnwys. Fe agorodd fy llygaid i edrych ar Sir Ddinbych mewn goleuni gwahanol. Rydw i’n edrych ymlaen at symud i’r lefel aur.”

Paul Hughes

Paul Hughes

Dywedodd Paul Hughes, arweinydd grwpiau cerdded i Mind Dyffryn Clwyd:

“Dewisais ddod yn Llysgennad Twristiaeth Sir Ddinbych gan ei fod yn rhoi rhagor o wybodaeth i chi, mae bob amser yn ddefnyddiol i gael rhagor o wybodaeth pan rydych chi’n tywys pobl ar deithiau cerdded ac yn mynd â phobl i gerdded mewn gwahanol ardaloedd. Mae’r cwrs am ddim sydd bob amser yn helpu. A gallwch chi ei wneud gartref dros gwpl o nosweithiau’r wythnos, felly mae’n wych. Does dim fath beth a gormod o wybodaeth fel maen nhw’n dweud, mae bob amser yn braf dysgu rhywbeth newydd.”

Meddai Richard Hughes, o Bracdy Holidays yn Llandyrnog, Llysgennad Twristiaeth Aur:

“Nid yw nifer o’n hymwelwyr â Maes Gwersylla Bracdy erioed wedi aros yn yr ardal o’r blaen. Maent wedi eu syfrdanu gan harddwch Bryniau Clwyd tu ôl i’r safle a’r golygfeydd godidog ar draws Dyffryn Clwyd. Rydym yma i ateb cwestiynau am Sir Ddinbych ac felly i wella ein gwybodaeth leol rydym wedi dod yn Llysgenhadon. Rydym wrth ein boddau pan mae ein hymwelwyr yn gofyn cwestiynau ac rydym yn hoffi cael yr atebion iddynt, a chyda 2000 mlynedd o ddigwyddiadau hanesyddol i siarad amdanynt, y mannau agored helaeth a’r trefi marchnad byrlymus mae digon yn digwydd o hyd.”

Mae Parc Cenedlaethol Eryri a Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy wedi lansio cynlluniau tebyg ers hynny, ac mae Gwynedd, Sir y Fflint, Ynys Môn a Safle Treftadaeth y Byd Pontcysyllte yn brysur yn paratoi i lansio eu cynlluniau yn ystod 2022. Mae Llysgenhadon yn cael eu hannog yn weithredol i gofrestru ar gyfer bob cwrs i ymestyn eu haddysg am Ogledd Cymru a bod yn rhan o’r gymuned ehangach. Am ragor o wybodaeth ar y cynllun ac i gofrestru, ewch www.llysgennad.cymru