Cynllun Llysgenhadon Twristiaeth Newydd yn Sir Ddinbych

Yn ddiweddar, lansiwyd Cynllun Llysgenhadon Twristiaeth newydd sbon yn Sir Ddinbych. Mae’r cynllun rhad ac am ddim hwn wedi’i gynllunio i wella profiad ymwelwyr i bobl sy’n gweithio mewn twristiaeth, gweithio gydag ymwelwyr, sy’n byw neu’n astudio yn yr ardal.

Cynhyrchwyd cyfres o fodiwlau hyfforddi rhyngweithiol ar-lein gyda chwisiau ar wahanol themâu megis trefi a dinasoedd Sir Ddinbych, cerdded, beicio, hanes, ac iaith a diwylliant Cymru. Mae pob modiwl yn cymryd 30-60 munud i’w gwblhau gyda thestun i’w ddarllen, delweddau a ffilmiau i’w gwylio wrth i bobl ddysgu mewn gwahanol ffyrdd.

Mae 3 lefel o ddyfarniadau – efydd, arian ac aur, yn dibynnu ar faint o fodiwlau a gwblhawyd. Bydd pob person yn derbyn tystysgrif, bathodyn pin a sticeri ffenestri ar ôl cwblhau’r gwobrau. Mae yna hefyd adnoddau ar-lein i bobl lawrlwytho dogfennau cysylltiedig, brandio a dolenni i wefannau perthnasol.

Denbighshire Ambassador Certificates

Dywedodd y Cynghorydd Hugh Evans OBE, Arweinydd Cyngor Sir Ddinbych: “Nod y cynllun yw creu lefel gwybodaeth sylfaenol ac ymdeimlad o le i sicrhau bod negeseuon cyson yn cael eu cyfleu am yr ardal. Mae’r hyfforddiant ar-lein yn cynnig dull hyblyg ac yn galluogi pawb i ddysgu ar eu cyflymder, eu hwylustod a’u lleoliad eu hunain. Rydym yn gobeithio y bydd llawer o fusnesau yn gwreiddio’r cynllun yn eu rhaglenni sefydlu staff presennol i gynyddu eu dealltwriaeth o’r cynnig twristiaeth lleol ac ymfalchïo mewn bod yn rhan o gymuned â diddordeb cyffredin. Rydym yn gyffrous iawn o fod yn lansio’r cynllun yn Sir Ddinbych gan mai hwn yw’r cyntaf o’i fath yng Nghymru.”

Bydd cyfres o deithiau dysgu hefyd yn cael eu cynnig i Lysgenhadon, er mwyn gwella ac ategu at y dysgu ar-lein. Bydd pobl yn cael y cyfle i ymweld ag amrywiaeth o uchafbwyntiau twristiaeth gan gynnwys Safle Treftadaeth y Byd 11 milltir, AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy, a Dyffryn Clwyd. Bydd gweithdai i rannu arfer gorau ac annog gweithio mewn partneriaeth hefyd yn cael eu trefnu.

Mae nifer o fusnesau a gymerodd ran yn y profion defnyddwyr wedi cwblhau’r modiwlau ac mae’r adborth cychwynnol wedi bod yn gadarnhaol iawn –

Denbighshire Ambassador Scheme certificate

Dywed Fiona Sayle, o Corwen Holidays, “Rydw i mor falch fy mod wedi ennill fy Ngwobr Arian Llysgennad Sir Ddinbych. Llawer o ddiolch i Dwristiaeth Sir Ddinbych am ddarparu cwrs mor addysgiadol a diddorol. Byddwn yn argymell pawb sy’n angerddol am Dwristiaeth a Sir Ddinbych i gymryd yr her.”

Mae’r prosiect wedi derbyn cyllid drwy Raglen Datblygu Gwledig – Cymunedau Gwledig 2014-2020 Llywodraeth Cymru, sy’n cael ei ariannu gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.
Dywedodd Ian Lebbon, Cadeirydd Partneriaeth Rheoli Cyrchfan Sir Ddinbych: “Byddwn yn annog busnesau, unigolion a myfyrwyr i ddod yn Llysgenhadon Twristiaeth i ddyfnhau eu gwybodaeth o’r sir a helpu i roi hwb i’n heconomi leol. Y nod yn y tymor hwy yw creu strydoedd mawr, cymunedau a hyd yn oed trefi Llysgennad a chael ein cenhedlaeth iau i gymryd rhan drwy sefydlu Llysgenhadon Twristiaeth Ifanc.”

Am fwy o wybodaeth ynghylch y cynllun ac i gwblhau’r modiwlau, ewch i – www.denbighshireambassador.wales / www.llysgennadsirddinbych.cymru