Cyngor Gwynedd yn lansio cwrs ar-lein i ddysgu mwy am dreftadaeth, cynefinoedd a hanes y sir

Yn ddiweddar fe lansiwyd cwrs ar-lein unigryw er mwyn pwysleisio pwysigrwydd dysgu a deall am dreftadaeth, cynefinoedd a hanes Gwynedd.

Nod cynllun Llysgennad Gwynedd sydd wedi ei ddatblygu gan Wasanaeth Twristiaeth, Marchnata a Digwyddiadau Cyngor Gwynedd yw rhoi cyfle i bobl sydd yn byw, gweithio, astudio neu sydd â diddordeb yng Ngwynedd i ddysgu ac i wella eu gwybodaeth am rinweddau unigryw’r sir.

Y pwrpas yn ôl Elin Evans, Swyddog Prosiect Llechi Cymru, Cyngor Gwynedd; ““oedd creu cwrs ar-lein er mwyn cyflwyno treftadaeth, hunaniaeth a hanes Gwynedd mewn ffordd syml a chyfoes, fyddai yn addas ac o fudd i bawb; busnesau, plant, pobl ifanc, gweithwyr cyhoeddus a’r cyhoedd yn gyffredinol.”

Dolgellau High Street

Stryd Fawr Dolgellau © Cyngor Gwynedd Council 2022

Un sy’n frwd dros rannu stori’r sir yw’r awdur a chyflwynydd o Ben Llŷn, Aled Hughes. “Ydi hi’n bosib cael y rhan fwyaf o bob dim mewn un sir? Ydi. Dyna ydi Gwynedd. O’i thraethau di-ri i’w chopaon uchaf, o’i phentrefi i’w ffermydd – i’w chestyll – mae yna bob dim i bawb. Fel un gafodd ei eni, ei fagu a’i addysgu hyd nes iddo raddio yma – mae’n hawdd cymryd y lle’n ganiataol. Crud yr iaith. Cartref i chwedlau – o gewri i frenin a chlustiau ceffyl. Ond yr elfen bwysicaf? Ei phobl, pobl sy’n falch iawn o’u hiaith a’u Cymreictod. A dyna, i mi, ydi cadernid Gwynedd – a dwi’n falch bod yr adnodd sobor o bwysig yma ar gael i ddweud ein stori ni.

Mae lansio y cwrs ar-lein yn adeiladu ar y gwaith diweddar wnaethpwyd gan Gyngor Gwynedd a’i bartneriaid i sicrhau statws safle treftadaeth y byd UNESCO i ‘Dirwedd Llechi Gogledd Orllewin Cymru’.

Dywedodd Roland Evans, Pennaeth Cynorthwyol Economi a Chymuned, Cyngor Gwynedd; “Mae hyrwyddo, gwarchod a datblygu treftadaeth y sir yn flaenoriaeth i Gyngor Gwynedd. Bydd y cwrs Llysgennad newydd yn fodd i bobl Gwynedd a thu hwnt ddysgu a lledaenu’r neges o pha mor unigryw a phwysig ydi ein hardal.

Bydd y cwrs yn cynnwys 9 modiwl fydd yn tywys y dysgwr i ddysgu am themâu megis Iaith, Diwylliant, Cymunedau, Tirwedd, Hanes, Chwedlau a Threftadaeth ymhlith eraill. Bydd modd i unrhyw un gymryd rhan yn y cwrs yn eu hamser eu hunain a bydd yn rhad ac am ddim. Bydd modd ennill tystysgrif efydd, arian neu aur wrth gwblhau’r gwaith. Mae 4 modiwl wedi eu lansio, gyda’r gweddill i ddilyn yn yr wythnosau nesaf.