Cwrs

Cwrs Llysgennad Ceredigion

6 Modiwl

I fod yn Llysgennad Ceredigion, bydd yn rhaid i chi gwbwlhau tri modiwl i ennill tystysgrif Efydd.

Bydd y tri modiwl yn cynnwys dau fodiwl gorfodol ac un o’ch dewis chi.

Y modiwlau gorfodol yw:

  • Croeso i Geredigion.
  • Diwylliant Cymraeg a’r iaith.

Pan fyddwch wedi pasio’r modiwlau gorfodol, bydd yr holl fodiwlau a’r cwisiau eraill ar agor i chi a gallwch ddewis pa un i’w wneud nesaf.

Cwblhewch un modiwl arall (i wneud cyfanswm o 3) i ddod yn Llysgennad Ceredigion Efydd.
Cwblhewch gyfanswm o 6 modiwl i ddod yn Llysgennad Ceredigion Arian.
Cwblhewch 9+ modiwl i ddod yn Llysgennad Ceredigion Aur.

Ar hyn o bryd gallwch gyrraedd tystysgrif Llysgennad Arian Ceredigion. Bydd mwy o fodiwlau yn cael eu hychwanegu cyn hir, fel y gallwch fynd ymlaen i ennill tystysgrif Aur Llysgennad Ceredigion.

Cyn i chi ddechrau, efallai yr hoffech fod yn barod i gymeryd nodiadau wrth i chi symud ymlaen. Bydd yn eich helpu ar ddiwedd pob modiwl, lle mae cwis i brofi eich gwybodaeth newydd.

TIP: Cwblhewch y modiwlau yn yr iaith y dewisoch ar y dechrau. Ni allwn warantu y byddwch yn cadw eich sgôr os byddwch chi’n newid iaith.