Cwestiynau Cyffredin Ceredigion

Cwestiynau Cyffredin

Gobeithiwn y bydd y cwestiynau cyffredin hyn yn gallu ateb eich cwestiynau. Os nad yw’r cwestiynau cyffredin yn ateb eich cwestiwn, anfonwch e-bost atom i croeso@ceredigion.gov.uk a byddwn yn hapus i’ch helpu.

Pwy sy’n gallu bod yn Llysgennad Ceredigion?

  • Os ydych chi’n gweithio yn y maes twristiaeth
  • Os ydych chi’n gweithio ag ymwelwyr
  • Os ydych chi’n byw yn yr ardal
  • Os ydych chi’n astudio yn yr ardal

Ond, mae croeso i unrhyw un â diddordeb yn y cynllun neu sydd yn dymuno ehangu eu gwybodaeth ar bopeth sydd yn gwneud Ceredigion yn le mor arbennig gymryd rhan a dod yn Llysgennad.

Beth yw’r modiwlau hyfforddiant ar-lein?

Mae ystod o fodiwlau hyfforddiant ar-lein rhyngweithiol am ddim wedi’u creu i wella gwybodaeth am Ceredigion. Mae’r ymagwedd hon yn caniatáu i bawb ddysgu ar eu cyflymder a’u lleoliad dewisol mewn ffordd sy’n hwylus iddyn nhw.

Mae modiwlau wedi’u creu ar themâu gwahanol er mwyn rhoi hyblygrwydd i chi p’un a ydych eisiau cwblhau pob un o’r modiwlau neu’r rhai sy’n berthnasol i chi yn unig. Mae’r modiwlau yn cynnwys testunau, lluniau a ffilmiau.
Y 6 modiwl cychwynnol yw:

    1. Croeso i Geredigion
    2. Yr Iaith a Diwylliant Cymraeg
    3. Bae Ceredigion
    4. Mynyddoedd Cambrian Ceredigion
    5. Aberystwyth
    6. Aberteifi

A oes unrhyw un o’r modiwlau yn orfodol?

Oes, mae’n rhaid i chi gwblhau ‘Croeso i Geredigion’ a ‘Yr Iaith a Diwylliant Cymraeg’ cyn ymgymryd ag unrhyw fodiwlau eraill o’ch dewis chi.

A oes lefelau gwahanol i’r hyfforddiant?

Oes, tri lefel.

  • Efydd – Cwblhau 3 modiwl
  • Arian – Cwblhau 6 modiwl
  • Aur – Cwblhau 9+ o fodiwlau

Sawl modiwl sydd angen i mi gwblhau i fod yn Llysgennad Ceredigion?

Er mwyn bod yn Llysgennad Ceredigion (Efydd), mae’n rhaid i chi gwblhau’r tri modiwl (2 orfodol ac 1 o’ch dewis chi).

A fydd y modiwlau yn cael eu hasesu?

Bydd, cynhelir profion syml i wirio eich cynnydd trwy gydol y modiwlau. Y sgôr ‘pasio’ yw 80%. Bydd cyfleoedd i ail-sefyll unrhyw un o’r modiwlau.

Faint o amser fydd yn ei gymryd i gwblhau pob modiwl?

Ar gyfartaledd, bydd pob modiwl yn cymryd tua 30 munud i’w cwblhau (fodd bynnag, mae’n bosibl y bydd rhai yn cymryd ychydig yn hirach/llai).

A yw’r modiwlau ar gael yn Gymraeg a Saesneg?

Mae pob un o’r modiwlau ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg.

Sicrhewch eich bod yn cwblhau’r cwrs cyfan yn yr iaith o’ch dewis chi, gan nad oes sicrhad o gadw eich sgôr os y gwnewch gyfnewid iaith.

A fydd yna unrhyw ddeunyddiau hyrwyddol ar gael am gwblhau’r modiwlau / dod yn Llysgennad Ceredigion?

Bydd, Mae’r canlynol ar gael am ddim:

    • Tystysgrifau
    • Brandio Llysgennad Ceredigion ar gael ar gais, i’w ddefnyddio yn eich deunyddiau marchnata

A oes yna unrhyw gyfle i fynd ar deithiau dysgu / hyfforddiant wyneb yn wyneb i ehangu’r dysgu ar-lein?

Oes, trefnir hyfforddiant wyneb yn wyneb a theithiau dysgu i ategu at y dysgu ar-lein ac i ddarparu cyfleoedd i bawb rwydweithio â Llysgenhadon eraill, rhannu arfer dda a chyfrannu at gynllunio ar gyfer twristiaeth y dyfodol.

A fydd y modiwlau yn cael eu diweddaru neu a fydd modiwlau newydd yn cael eu cyflwyno?

Bydd, caiff modiwlau eu diweddaru yn ôl yr angen. Caiff modiwlau newydd eu cyflwyno yn ôl yr angen.

A fydd yna adnoddau ar-lein ar gael?

Bydd, mae gan y wefan adran ‘Adnoddau’ lle y gallwch ddod o hyd i ystod o wybodaeth a dolenni defnyddiol i ategu at y modiwlau.

Llysgennad Ceredigion Ambassador

Diweddaraf o’r blog