Cwestiynau Cyffredin Sir Gâr

Cwestiynau Cyffredin

Rydym yn gobeithio y bydd y Cwestiynau Cyffredin hyn yn ateb eich cwestiynau. Os nad yw eich cwestiwn yma, cysylltwch â ni ar twristiaeth@sirgar.gov.uk a byddwn yn barod i’ch helpu.

Pwy all ddod yn Llysgennad Twristiaeth Sir Gâr?

  • Os ydych yn gweithio ym maes twristiaeth
  • Os ydych yn gweithio gydag ymwelwyr
  • Os ydych yn byw yn yr ardal
  • Os ydych yn astudio yn yr ardal

Fodd bynnag, mae croeso i unrhyw un sydd â diddordeb yn y cynllun neu sy’n dymuno dyfnhau ei wybodaeth am bopeth sy’n gwneud Sir Gâr yn lle arbennig gymryd rhan a bod yn Llysgennad Twristiaeth.

Beth yw'r modiwlau hyfforddiant ar-lein?

Rydym yn creu ystod o fodiwlau hyfforddiant ar-lein rhyngweithiol am ddim i wella gwybodaeth am Sir Gâr. Mae’r modiwlau yn canolbwyntio ar wahanol themâu, ac maent yn gymysgedd o destun, lluniau a ffilmiau.

Dyma’r 3 modiwl cyntaf:

  • Cyflwyniad i Sir Gâr
  • Trefi a Phentrefi Sir Gâr
  • Bwyd a Diod Sir Gâr

Bydd mwy o fodiwlau yn cael eu hychwanegu yn ystod y misoedd nesaf, felly cadwch lygad am y canlynol;

  • Arfordir Sir Gâr
  • Hanes a Threftadaeth Sir Gâr

A oes unrhyw rai o'r modiwlau yn orfodol?

Oes, mae’n rhaid i chi gwblhau’r 3 modiwl cyntaf i ddod yn Llysgennad Efydd, cyn cael mynediad at unrhyw fodiwlau eraill o’ch dewis.

  • Cyflwyniad i Sir Gâr
  • Trefi a Phentrefi Sir Gâr
  • Bwyd a Diod Sir Gâr

A fydd lefelau gwahanol o hyfforddiant?

Bydd tair lefel wahanol.

  • Efydd – Cwblhau 3 modiwl
  • Arian – Cwblhau 6 modiwl
  • Aur – Cwblhau 9+ modiwl

Sawl modiwl ar-lein sydd angen i mi eu cwblhau i fod yn Llysgennad Twristiaeth Sir Gâr?

Er mwyn dod yn Llysgennad Twristiaeth Sir Gâr (Efydd), mae’n rhaid i chi gwblhau 3 modiwl gorfodol. Yna, bydd modd i chi ddewis pa fodiwlau rydych yn eu dilyn nesaf.

A fydd y modiwlau'n cael eu hasesu?

Bydd profion sylfaenol i gadarnhau’r hyn rydych wedi ei ddysgu yn cael eu cynnal trwy gydol y modiwlau. Y sgôr ‘pasio’ yw 80%. Bydd cyfleoedd i ailsefyll unrhyw un o’r modiwlau.

Pa mor hir y bydd yn ei gymryd i gwblhau pob modiwl?

Ar gyfartaledd, bydd pob modiwl yn cymryd tua 30 munud i’w gwblhau (er y bydd rhai efallai ychydig yn fyrrach/hirach).

A yw'r modiwlau ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg?

Bydd y modiwlau i gyd ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg.

Sicrhewch eich bod yn cwblhau’r cwrs cyfan yn eich dewis iaith, oherwydd ni allwn roi sicrwydd y bydd eich sgoriau yn cael eu cadw os ydych yn newid yr iaith.

A fydd unrhyw ddeunyddiau hyrwyddo ar gael ar gyfer cwblhau'r modiwlau / dod yn Llysgennad Twristiaeth Sir Gâr?

Bydd, mae’r canlynol ar gael am ddim –

  • Tystysgrifau
  • Bathodynnau i chi hyrwyddo ar eich gwefan a sianeli cyfryngau cymdeithasol

A fydd unrhyw gyfleoedd i fynd ar deithiau dysgu / cael hyfforddiant wyneb yn wyneb i ychwanegu at yr hyfforddiant ar-lein?

Bydd – bydd hyfforddiant wyneb yn wyneb a theithiau dysgu yn cael eu trefnu i ategu’r dysgu ar-lein a rhoi cyfle i bawb rwydweithio â Llysgenhadon eraill, rhannu arferion gorau a chyfrannu at y gwaith o gynllunio twristiaeth yn y dyfodol.

A fydd y modiwlau'n cael eu diweddaru neu a fydd rhai newydd yn cael eu cyflwyno?

Bydd – bydd modiwlau yn cael eu diweddaru yn ôl yr angen. Bydd modiwlau newydd yn cael eu cyflwyno yn ôl yr angen. Byddwn yn rhoi gwybod i ddefnyddwyr pan fydd modiwl wedi’i ddiweddaru ac os oes unrhyw gynnwys newydd wedi’i lanlwytho.

A fydd unrhyw adnoddau ar-lein eraill ar gael?

Bydd – mae adran ‘Adnoddau’ ar y wefan lle gallwch ddod o hyd i lawer o wybodaeth ddefnyddiol a dolenni i ategu’r modiwlau.

Llysgennad Twristiaeth Sir Gaerfyddin Carmarthenshire Tourism Ambassador badge

Diweddaraf o’r blog