Bannau Brycheiniog Cwestiynau Cyffredin

Cwestiynau Cyffredinol

Gobeithiwn y bydd y cwestiynau cyffredin hyn yn gallu ateb eich cwestiynau. Os nad yw’r cwestiynau cyffredin yn ateb eich cwestiwn, anfonwch e-bost atom ar ambassador@beacons-npa.gov.uk a byddwn yn hapus i’ch helpu.

Pwy all ddod yn Llysgennad Bannau Brycheiniog?

  • Os ydych chi’n gweithio yn y maes twristiaeth
  • Os ydych chi’n gweithio ag ymwelwyr
  • Os ydych chi’n byw yn yr ardal
  • Os ydych chi’n astudio yn yr ardal

Fodd bynnag mae yna groeso i unrhyw un sydd â diddordeb yn y cynllun, neu sy’n dymuno dod i wybod mwy am y cyfan sy’n gwneud Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn lle arbennig, i gymryd rhan a dod yn Llysgennad.

Beth yw’r modiwlau hyfforddi ar lein?

Rydyn ni’n paratoi amrywiaeth o fodiwlau hyfforddi, rhyngweithiol, am ddim ac ar lein er mwyn cynyddu gwybodaeth am y Bannau Brycheiniog. Mae’r modiwlau’n canolbwyntio ar wahanol themâu ac yn gymysgedd o destun, delweddau a ffilmiau.

Y tri modiwl cyntaf yw:

  • Cyflwyniad i Fannau Brycheiniog
  • Bannau Brycheiniog: Synnwyr o Le
  • Pobl y Gorffennol

Bydd rhagor o fodiwlau’n cael eu hychwanegu yn y misoedd i ddod, felly cadwch lygad barcud am;

  • Awyr Dywyll
  • Geobarc Fforest Fawr

A oes unrhyw o’r modiwlau’n fandadol?

Oes, mae’n rhaid i chi gwblhau’r 3 modiwl cyntaf i ddod yn Llysgennad Lefel Efydd, cyn symud ymlaen at unrhyw fodiwlau eraill o’ch dewis chi.

  • Cyflwyniad i Fannau Brycheiniog
  • Bannau Brycheiniog: Synnwyr o Le
  • Pobl y Gorffennol

A oes lefelau gwahanol i'r hyfforddiant?

Oes, tri lefel.

  • Efydd – Cwblhau 3 modiwl
  • Arian – Cwblhau 6 modiwl
  • Aur – Cwblhau 9+ o fodiwlau

Faint o fodiwlau ar lein sydd yn rhaid i mi eu cwblhau i ddod yn Llysgennad Bannau Brycheiniog?

Er mwyn dod yn Lysgennad Bannau Brycheiniog (Efydd), mae’n rhaid i chi gwbhalu 3 modiwl mandadol. Wedyn, byddwch yn gallu dewis pa fodiwlau fyddwch chi eisiau eu cymryd.

A fydd y modiwlau yn cael eu hasesu?

Bydd, cynhelir profion syml i wirio eich cynnydd trwy gydol y modiwlau. Y sgôr ‘pasio’ yw 80%. Bydd cyfleoedd i ail-sefyll unrhyw un o’r modiwlau.

Faint o amser fydd yn ei gymryd i gwblhau pob modiwl?

Ar gyfartaledd, bydd pob modiwl yn cymryd tua 30 munud i’w cwblhau (fodd bynnag, mae’n bosibl y bydd rhai yn cymryd ychydig yn hirach/llai).

A yw’r modiwlau ar gael yn Gymraeg a Saesneg?

Mae pob un o’r modiwlau ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg.

Sicrhewch eich bod yn cwblhau’r cwrs cyfan yn yr iaith o’ch dewis chi, gan nad oes sicrhad o gadw eich sgôr os y gwnewch gyfnewid iaith.

A fydd unrhyw ddeunydd hyrwyddo ar gael ar gyfer cwblhau’r modiwlau / dod yn Lysgennad Bannau Brycheiniog?

Bydd, Mae’r canlynol ar gael am ddim –

  • Tystysgrifau
  • Brandio Llysgennad Twristiaeth i’w ddefnyddio ar eich deunyddiau marchnata

A oes yna unrhyw gyfle i fynd ar deithiau dysgu / hyfforddiant wyneb yn wyneb i ehangu’r dysgu ar-lein?

Oes, trefnir hyfforddiant wyneb yn wyneb a theithiau dysgu i ategu at y dysgu ar-lein ac i ddarparu cyfleoedd i bawb rwydweithio â Llysgenhadon eraill, rhannu arfer dda a chyfrannu at gynllunio ar gyfer twristiaeth y dyfodol.

A fydd y modiwlau yn cael eu diweddaru neu a fydd modiwlau newydd yn cael eu cyflwyno?

Bydd, caiff modiwlau eu diweddaru yn ôl yr angen. Caiff modiwlau newydd eu cyflwyno yn ôl yr angen. Bydd y system yn hysbysu defnyddwyr pan fydd modiwl yn cael ei ddiweddaru neu os oes unrhyw gynnwys newydd wedi’i uwchlwytho.

A fydd yna adnoddau ar-lein ar gael?

Bydd, mae gan y wefan adran ‘Adnoddau’ lle y gallwch ddod o hyd i ystod o wybodaeth a dolenni defnyddiol i ategu at y modiwlau.

Brecon Beacons Ambassador logo

Diweddaraf o’r blog