Rydym yn falch o gyhoeddi lansiad modiwl dysgu newydd sbon Llwybr Bwyd Môr Conwy yn ystod Wythnos Llysgennad Twristiaeth 2026!
O’n treftadaeth pysgota gyfoethog a’n harbwrs prysur i’r bwyd môr blasus a gaiff ei weini yn ein bwytai lleol, mae gan Sir Conwy stori arfordirol wych i’w hadrodd – a gallwch chi ddysgu mwy amdani!
Datblygwyd y modiwl ar-lein newydd fel rhan o brosiect Llwybr Bwyd Môr Conwy, ac mae’n dathlu ein morlin, y diwydiant bwyd môr lleol a phwysigrwydd amddiffyn ein hamgylchedd morol gwerthfawr.

Beth wnewch chi ddarganfod?
Mae’r modiwl yn mynd â chi ar daith trwy saith pwnc diddorol:
- Cyflwyniad i’r Llwybr Bwyd Môr – Darganfod y prosiect a’i uchelgeisiau.
- Treftadaeth Forol Gyfoethog Sir Conwy – Edrych ar ein traddodiadau pysgota a’n cymunedau arfordirol.
- Beth yw Carbon Glas? – Dysgu sut mae ein hamgylcheddau morol yn helpu i fynd i’r afael â newid hinsawdd.
- Rheolaeth Arfordirol yn Sir Conwy – Deall sut ydym ni’n amddiffyn a rheoli ein morlin.
- Cynaliadwyedd a Chynnyrch Lleol – Gweld pam ei bod yn bwysig dewis bwyd môr lleol.
- Beth sydd ar gael yn y tymor? – Dysgu am y bwyd môr hyfryd a gaiff ei ddal ar hyd ein glannau.
- Lle i Brynu a Bwyta’n Lleol – Darganfod busnesau sy’n hybu bwyd môr lleol blasus.
P’un a ydych chi’n gweithio ym maes twristiaeth, yn fusnes lleol, yn breswyliwr neu’n angerddol am Sir Conwy, mae’r modiwl ar-lein hwn am ddim yn cynnig rhywbeth i bawb.

Ewch amdani a byddwch yn arbenigwr Llwybr Bwyd Môr!
Ymunwch â ni yn ystod Wythnos Llysgennad Twristiaeth a darganfod sut gallwch chi helpu i ddathlu, amddiffyn a hybu ein treftadaeth arfordirol wych.
Dechreuwch eich taith ddysgu a helpu i rannu stori bwyd môr Conwy!
Mae Llwybr Bwyd Môr Conwy wedi’i ddatblygu mewn partneriaeth ag Ysgol Gwyddorau Eigion Prifysgol Bangor a Seafish UK, gyda chyllid gan Raglen Lleoedd Lleol ar gyfer Natur: Cronfa Adeiladu Capasiti mewn Cymunedau Arfordirol Llywodraeth Cymru, a weinyddir gan CGGC.