Podlediad Eryri

Da ni wedi lansio sianel podlediad newydd sbon!

Ar Ionawr 21ain pwnc y rhifyn Cymraeg oedd rhaglen hynod lwyddiannus Llysgennad Eryri a’r gwesteion oedd Swyddog Partneriaeth Yr Wyddfa Catrin Glyn, y gantores amryddawn Casi Wyn a Stephen Jones o gwmni Anelu – Aim Higher.

Y bore ‘ma darlledwyd rhifyn yn Saesneg ble fu Rheolwr Partneriaethau APCE Angela Jones yn trin a thrafod rhinweddau arbennig Eryri gyda’r cadwriaethwr a ffotograffydd Ben Porter, Dr Angharad Price o Brifysgol Bangor a Roland Evans o Gyngor Gwynedd.

Mi fydd y rhaglen nesaf yn cael ei ddarlledu ar y 18fed o Chwefror a’r pwnc fydd Priosect Tirlun y Carneddau. (Trwy gyfrwng y Gymraeg).