Cwrdd â Swyddog Llysgenhadon Twristiaeth Conwy yn Amgueddfa ac Oriel Llandudno

Ddydd Sadwrn 20 Medi, o 10am tan 4pm, bydd Swyddog Llysgenhadon Twristiaeth Conwy yn Amgueddfa ac Oriel Llandudno ar gyfer sesiwn alw heibio  arbennig – ac mae gwahoddiad i chi!

Os ydych chi eisiau dysgu mwy am y Cynllun Llysgennad Twristiaeth, yn barod i gofrestru ar gyfer y cwrs, eisiau rhoi cynnig arni, neu awydd sgwrs a phaned, dyma’r cyfle perffaith i chi.  Mae modd i chi rannu eich safbwyntiau a rhoi adborth ar y cwrs presennol i helpu i’w ddylunio ar gyfer y dyfodol hefyd.

Llandudno Museum
© Amgueddfa Llandudno

Mae’r diwrnod cyfeillgar ac anffurfiol yn rhan o Wythnos Addysg Oedolion a Gŵyl Drysau Agored Cadw, gan olygu ei fod yn ddathliad o ddysgu, treftadaeth leol ac ysbryd cymunedol.  Mae mynediad i’r amgueddfa yn rhad ac am ddim am y diwrnod – felly mae modd i chi alw heibio a gweld arddangosfeydd rhyfeddol yr amgueddfa am ddim.

Cefnogir y Cynllun Llysgennad Twristiaeth gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU, gan geisio datblygu gwybodaeth leol, dathlu ein treftadaeth a gwella profiad ymwelwyr ar draws Conwy.

Manylion y digwyddiad:

  • Dyddiad: Dydd Sadwrn 20 Medi 2025
  • Amser: 10:00am – 4:00pm
  • Lleoliad: Amgueddfa ac Oriel Llandudno
  • Pris: Mynediad am ddim

Felly, os ydych chi’n weithiwr twristiaeth proffesiynol, perchennog busnes lleol, gwirfoddolwr neu’n angerddol am hanes ac atyniadau Conwy – dewch draw i ddweud helo a darganfod sut i fod yn Llysgennad Twristiaeth Conwy.

Dewch draw i ddysgu, ac aros am baned!