Ddydd Sadwrn 20 Medi, o 10am tan 4pm, bydd Swyddog Llysgenhadon Twristiaeth Conwy yn Amgueddfa ac Oriel Llandudno ar gyfer sesiwn alw heibio arbennig – ac mae gwahoddiad i chi!
Os ydych chi eisiau dysgu mwy am y Cynllun Llysgennad Twristiaeth, yn barod i gofrestru ar gyfer y cwrs, eisiau rhoi cynnig arni, neu awydd sgwrs a phaned, dyma’r cyfle perffaith i chi. Mae modd i chi rannu eich safbwyntiau a rhoi adborth ar y cwrs presennol i helpu i’w ddylunio ar gyfer y dyfodol hefyd.

Mae’r diwrnod cyfeillgar ac anffurfiol yn rhan o Wythnos Addysg Oedolion a Gŵyl Drysau Agored Cadw, gan olygu ei fod yn ddathliad o ddysgu, treftadaeth leol ac ysbryd cymunedol. Mae mynediad i’r amgueddfa yn rhad ac am ddim am y diwrnod – felly mae modd i chi alw heibio a gweld arddangosfeydd rhyfeddol yr amgueddfa am ddim.
Cefnogir y Cynllun Llysgennad Twristiaeth gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU, gan geisio datblygu gwybodaeth leol, dathlu ein treftadaeth a gwella profiad ymwelwyr ar draws Conwy.
Manylion y digwyddiad:
- Dyddiad: Dydd Sadwrn 20 Medi 2025
- Amser: 10:00am – 4:00pm
- Lleoliad: Amgueddfa ac Oriel Llandudno
- Pris: Mynediad am ddim
Felly, os ydych chi’n weithiwr twristiaeth proffesiynol, perchennog busnes lleol, gwirfoddolwr neu’n angerddol am hanes ac atyniadau Conwy – dewch draw i ddweud helo a darganfod sut i fod yn Llysgennad Twristiaeth Conwy.
Dewch draw i ddysgu, ac aros am baned!