Wythnos Llysgennad Cymru 2025
Mae’n bleser gennym eich gwahodd i Wythnos Llysgennad Cymru, sy’n cael ei chynnal rhwng 17 a 21 Tachwedd 2025.
Nod Wythnos Llysgennad Cymru yw tynnu sylw at y cynllun a’r amrywiaeth eang o bobl sydd wedi elwa o ddod yn Llysgennad. Bydd nifer o weithgareddau yn cael eu trefnu yn ystod yr wythnos.

Conwy

Camu i’r Gorffennol – Taith Archifau Conwy
Ymunwch â ni mewn Digwyddiad Rhwydweithio Llysgenhadon Twristiaeth arbennig yng Nghanolfan Ddiwylliant Conwy, lle mae hanes yn dod yn fyw drwy waith hynod ddiddorol Archifau Conwy.
17 Tachwedd 2025
Conwy

Taith Ysbrydion Arswydus Conwy
Camu i Gysgodion Conwy – Ydych chi’n ddigon dewr i ddatgelu’r cyfrinachau cudd o fewn muriau hynafol un o drefi mwyaf arswydus Cymru ar Daith Ysbrydion Conwy.
18 Tachwedd 2025
Conwy

Dewch i Ddarganfod hud ein Awyr Dywyll
Fel rhan o wythnos Llysgenhadon Cymru fe’ch gwahoddir i ymuno ag Alan Bowring, Swyddog Datblygu Geoparc, ar gyfer archwiliad 2 awr o Ben uchaf Cwm Tawe.
19 Tachwedd 2025