{"id":6573,"date":"2019-07-09T16:40:01","date_gmt":"2019-07-09T15:40:01","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ambassador.wales\/?p=6573"},"modified":"2019-07-09T16:40:44","modified_gmt":"2019-07-09T15:40:44","slug":"cynllun-llysgenhadon-twristiaeth-newydd-yn-sir-ddinbych","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.ambassador.wales\/cy\/cynllun-llysgenhadon-twristiaeth-newydd-yn-sir-ddinbych\/","title":{"rendered":"Cynllun Llysgenhadon Twristiaeth Newydd yn Sir Ddinbych"},"content":{"rendered":"<p>Yn ddiweddar, lansiwyd Cynllun Llysgenhadon Twristiaeth newydd sbon yn Sir Ddinbych. Mae&#8217;r cynllun rhad ac am ddim hwn wedi&#8217;i gynllunio i wella profiad ymwelwyr i bobl sy&#8217;n gweithio mewn twristiaeth, gweithio gydag ymwelwyr, sy\u2019n byw neu\u2019n astudio yn yr ardal.<\/p>\n<p>Cynhyrchwyd cyfres o fodiwlau hyfforddi rhyngweithiol ar-lein gyda chwisiau ar wahanol them\u00e2u megis trefi a dinasoedd Sir Ddinbych, cerdded, beicio, hanes, ac iaith a diwylliant Cymru. Mae pob modiwl yn cymryd 30-60 munud i&#8217;w gwblhau gyda thestun i&#8217;w ddarllen, delweddau a ffilmiau i&#8217;w gwylio wrth i bobl ddysgu mewn gwahanol ffyrdd.<\/p>\n<p>Mae 3 lefel o ddyfarniadau &#8211; efydd, arian ac aur, yn dibynnu ar faint o fodiwlau a gwblhawyd. Bydd pob person yn derbyn tystysgrif, bathodyn pin a sticeri ffenestri ar \u00f4l cwblhau&#8217;r gwobrau. Mae yna hefyd adnoddau ar-lein i bobl lawrlwytho dogfennau cysylltiedig, brandio a dolenni i wefannau perthnasol.<\/p>\n<p><img decoding=\"async\" loading=\"lazy\" class=\"aligncenter size-large wp-image-6567\" src=\"https:\/\/www.ambassador.wales\/wp-content\/uploads\/2019\/07\/FionaCaroline1-1024x768.jpg\" alt=\"Denbighshire Ambassador Certificates\" width=\"625\" height=\"469\" srcset=\"https:\/\/www.ambassador.wales\/wp-content\/uploads\/2019\/07\/FionaCaroline1-1024x768.jpg 1024w, https:\/\/www.ambassador.wales\/wp-content\/uploads\/2019\/07\/FionaCaroline1-300x225.jpg 300w, https:\/\/www.ambassador.wales\/wp-content\/uploads\/2019\/07\/FionaCaroline1-768x576.jpg 768w, https:\/\/www.ambassador.wales\/wp-content\/uploads\/2019\/07\/FionaCaroline1-472x355.jpg 472w, https:\/\/www.ambassador.wales\/wp-content\/uploads\/2019\/07\/FionaCaroline1-624x468.jpg 624w, https:\/\/www.ambassador.wales\/wp-content\/uploads\/2019\/07\/FionaCaroline1-100x75.jpg 100w, https:\/\/www.ambassador.wales\/wp-content\/uploads\/2019\/07\/FionaCaroline1.jpg 1959w\" sizes=\"(max-width: 625px) 100vw, 625px\" \/><\/p>\n<p>Dywedodd y Cynghorydd Hugh Evans OBE, Arweinydd Cyngor Sir Ddinbych: \u201cNod y cynllun yw creu lefel gwybodaeth sylfaenol ac ymdeimlad o le i sicrhau bod negeseuon cyson yn cael eu cyfleu am yr ardal. Mae&#8217;r hyfforddiant ar-lein yn cynnig dull hyblyg ac yn galluogi pawb i ddysgu ar eu cyflymder, eu hwylustod a&#8217;u lleoliad eu hunain. Rydym yn gobeithio y bydd llawer o fusnesau yn gwreiddio&#8217;r cynllun yn eu rhaglenni sefydlu staff presennol i gynyddu eu dealltwriaeth o&#8217;r cynnig twristiaeth lleol ac ymfalch\u00efo mewn bod yn rhan o gymuned \u00e2 diddordeb cyffredin. Rydym yn gyffrous iawn o fod yn lansio&#8217;r cynllun yn Sir Ddinbych gan mai hwn yw&#8217;r cyntaf o&#8217;i fath yng Nghymru.\u201d<\/p>\n<p>Bydd cyfres o deithiau dysgu hefyd yn cael eu cynnig i Lysgenhadon, er mwyn gwella ac ategu at y dysgu ar-lein. Bydd pobl yn cael y cyfle i ymweld ag amrywiaeth o uchafbwyntiau twristiaeth gan gynnwys Safle Treftadaeth y Byd 11 milltir, AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy, a Dyffryn Clwyd. Bydd gweithdai i rannu arfer gorau ac annog gweithio mewn partneriaeth hefyd yn cael eu trefnu.<\/p>\n<p>Mae nifer o fusnesau a gymerodd ran yn y profion defnyddwyr wedi cwblhau&#8217;r modiwlau ac mae&#8217;r adborth cychwynnol wedi bod yn gadarnhaol iawn &#8211;<\/p>\n<p><img decoding=\"async\" loading=\"lazy\" class=\"aligncenter size-large wp-image-6569\" src=\"https:\/\/www.ambassador.wales\/wp-content\/uploads\/2019\/07\/Fiona-SayleCottage1-1024x768.jpg\" alt=\"Denbighshire Ambassador Scheme certificate\" width=\"625\" height=\"469\" srcset=\"https:\/\/www.ambassador.wales\/wp-content\/uploads\/2019\/07\/Fiona-SayleCottage1-1024x768.jpg 1024w, https:\/\/www.ambassador.wales\/wp-content\/uploads\/2019\/07\/Fiona-SayleCottage1-300x225.jpg 300w, https:\/\/www.ambassador.wales\/wp-content\/uploads\/2019\/07\/Fiona-SayleCottage1-768x576.jpg 768w, https:\/\/www.ambassador.wales\/wp-content\/uploads\/2019\/07\/Fiona-SayleCottage1-472x355.jpg 472w, https:\/\/www.ambassador.wales\/wp-content\/uploads\/2019\/07\/Fiona-SayleCottage1-624x468.jpg 624w, https:\/\/www.ambassador.wales\/wp-content\/uploads\/2019\/07\/Fiona-SayleCottage1-100x75.jpg 100w, https:\/\/www.ambassador.wales\/wp-content\/uploads\/2019\/07\/Fiona-SayleCottage1.jpg 1632w\" sizes=\"(max-width: 625px) 100vw, 625px\" \/><\/p>\n<p><em>Dywed Fiona Sayle, o Corwen Holidays, \u201cRydw i mor falch fy mod wedi ennill fy Ngwobr Arian Llysgennad Sir Ddinbych. Llawer o ddiolch i Dwristiaeth Sir Ddinbych am ddarparu cwrs mor addysgiadol a diddorol. Byddwn yn argymell pawb sy&#8217;n angerddol am Dwristiaeth a Sir Ddinbych i gymryd yr her.\u201d<\/em><\/p>\n<p>Mae&#8217;r prosiect wedi derbyn cyllid drwy Raglen Datblygu Gwledig &#8211; Cymunedau Gwledig 2014-2020 Llywodraeth Cymru, sy&#8217;n cael ei ariannu gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.<br \/>\nDywedodd Ian Lebbon, Cadeirydd Partneriaeth Rheoli Cyrchfan Sir Ddinbych: \u201cByddwn yn annog busnesau, unigolion a myfyrwyr i ddod yn Llysgenhadon Twristiaeth i ddyfnhau eu gwybodaeth o&#8217;r sir a helpu i roi hwb i&#8217;n heconomi leol. Y nod yn y tymor hwy yw creu strydoedd mawr, cymunedau a hyd yn oed trefi Llysgennad a chael ein cenhedlaeth iau i gymryd rhan drwy sefydlu Llysgenhadon Twristiaeth Ifanc.\u201d<\/p>\n<p>Am fwy o wybodaeth ynghylch y cynllun ac i gwblhau\u2019r modiwlau, ewch i \u2013 <a href=\"http:\/\/www.ambassador.wales\">www.denbighshireambassador.wales<\/a> \/ <a href=\"http:\/\/www.llysgennadsirddinbych.cymru\">www.llysgennadsirddinbych.cymru<\/a><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>&#8220;Rydym yn gyffrous iawn o fod yn lansio&#8217;r cynllun yn Sir Ddinbych gan mai hwn yw&#8217;r cyntaf o&#8217;i fath yng Nghymru.\u201d<\/p>\n","protected":false},"author":37,"featured_media":6570,"comment_status":"closed","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_bbp_topic_count":0,"_bbp_reply_count":0,"_bbp_total_topic_count":0,"_bbp_total_reply_count":0,"_bbp_voice_count":0,"_bbp_anonymous_reply_count":0,"_bbp_topic_count_hidden":0,"_bbp_reply_count_hidden":0,"_bbp_forum_subforum_count":0},"categories":[98],"tags":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ambassador.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/6573"}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ambassador.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ambassador.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ambassador.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/37"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ambassador.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=6573"}],"version-history":[{"count":3,"href":"https:\/\/www.ambassador.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/6573\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":6576,"href":"https:\/\/www.ambassador.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/6573\/revisions\/6576"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ambassador.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/6570"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ambassador.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=6573"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ambassador.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=6573"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ambassador.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=6573"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}