{"id":466366,"date":"2025-11-17T10:50:53","date_gmt":"2025-11-17T10:50:53","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ambassador.wales\/?p=466366"},"modified":"2025-11-17T10:52:54","modified_gmt":"2025-11-17T10:52:54","slug":"cwrs-bathodyn-gwyn-llandudno","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.ambassador.wales\/cy\/cwrs-bathodyn-gwyn-llandudno\/","title":{"rendered":"Cwrs Bathodyn Gwyn Llandudno"},"content":{"rendered":"<p>Efallai eich bod wedi gweld y cyfle i ddod yn Dywysydd Twristiaeth ar gyfer Llandudno yn cael ei hyrwyddo\u2019n lleol yn ddiweddar. Mae\u2019r cwrs wedi dechrau\u2019n ddiweddar, dan arweiniad hyfforddwyr cymwys Wales Best Guides Enterprises Ltd, sef adain hyfforddiant a busnes Cymdeithas Tywyswyr Twristiaeth Swyddogol Cymru (WOTGA). Mae WOTGA yn sefydliad o dywyswyr twristiaeth proffesiynol yng Nghymru. Mae\u2019r elfen \u2018Swyddogol\u2019 yn deillio o lythyr o gefnogaeth gan Lywodraeth Cymru, sy\u2019n unigryw ymysg cymdeithasau tywyswyr twristiaeth yng ngwledydd y DU.&nbsp;&nbsp;<\/p>\n<figure class=\"wp-block-image size-large\"><img decoding=\"async\" loading=\"lazy\" width=\"1024\" height=\"576\" src=\"https:\/\/www.ambassador.wales\/wp-content\/uploads\/2025\/11\/Wales-Guides_Llandudno2-1024x576.jpg\" alt=\"Llandudno White Guide Course\" class=\"wp-image-466360\" srcset=\"https:\/\/www.ambassador.wales\/wp-content\/uploads\/2025\/11\/Wales-Guides_Llandudno2-1024x576.jpg 1024w, https:\/\/www.ambassador.wales\/wp-content\/uploads\/2025\/11\/Wales-Guides_Llandudno2-300x169.jpg 300w, https:\/\/www.ambassador.wales\/wp-content\/uploads\/2025\/11\/Wales-Guides_Llandudno2-768x432.jpg 768w, https:\/\/www.ambassador.wales\/wp-content\/uploads\/2025\/11\/Wales-Guides_Llandudno2-1536x864.jpg 1536w, https:\/\/www.ambassador.wales\/wp-content\/uploads\/2025\/11\/Wales-Guides_Llandudno2-624x351.jpg 624w, https:\/\/www.ambassador.wales\/wp-content\/uploads\/2025\/11\/Wales-Guides_Llandudno2-50x28.jpg 50w, https:\/\/www.ambassador.wales\/wp-content\/uploads\/2025\/11\/Wales-Guides_Llandudno2.jpg 2000w\" sizes=\"(max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><\/figure>\n<\/p>\n<p>Mae cyrsiau hyfforddiant wedi\u2019u strwythuro ar ffurf Lefelau gyda thystysgrif a bathodynnau ar \u00f4l eu cwblhau, gan gyfateb \u00e2 rhwydwaith fyd-eang o gydnabyddiaeth ym maes tywysu twristiaid. <\/p>\n<ul>\n<li>Mae Lefel 1 yn Fathodyn Gwyn ar gyfer safle unigol, megis castell neu amgueddfa<\/li>\n<li>Mae Lefel 2 hefyd yn Fathodyn Gwyn ar gyfer taith gerdded mewn tref neu barc<\/li>\n<li>Mae Lefel 3 yn Fathodyn Gwyrdd ar gyfer rhanbarth sy\u2019n cynnwys tywys ar gerbyd symudol (bws neu gar fel arfer)<\/li>\n<li>Mae Lefel 4 yn Fathodyn Glas arbennig sy\u2019n cwmpasu Cymru gyfan a phob math o dywysu gan gynnwys anturiaethau hirach, megis teithiau cerdded ar lawr gwlad a safleoedd arbennig<\/li>\n<\/ul>\n<p>Mae tywysydd gyda bathodyn swyddogol yng Nghymru\u2019n rhoi hyder bod y gwaith tywysu o\u2019r ansawdd a\u2019r safon uchaf. Mae hyn yn cynnwys agweddau fel cynnwys diddorol, llawn gwybodaeth, trefniadau diogel a chyraeddadwy, a chreu profiad cofiadwy i\u2019r ymwelydd, boed hynny\u2019n berson lleol sy\u2019n cymryd rhan mewn digwyddiad cymunedol neu\u2019n ymwelydd o dramor. Mae dros 100 o dywyswyr swyddogol wedi\u2019u lleoli ym mhob cwr o Gymru.<\/p>\n<p>Un o\u2019r meini prawf ar gyfer mynychu\u2019r cwrs yn Llandudno oedd cyflawni\u2019r cwrs Llysgennad safon Aur ar gyfer Conwy. Mae\u2019r gair \u201cLlysgennad\u201d yn golygu rhywun sy\u2019n hybu neu\u2019n cynrychioli corff neu weithgaredd penodol. Mae cwblhau cwrs Llysgennad yn darparu sylfaen gwybodaeth i\u2019r rhai hynny sy\u2019n falch o\u2019u cymunedau ac yn chwilio am gyfleodd i rannu\u2019r wybodaeth hon gydag ymwelwyr a\u2019u cymunedau.<\/p>\n<p>Ers tipyn bellach, mae cynrychiolwyr Wales Best Guides Enterprises wedi bod yn cymryd rhan mewn rhwydweithio gyda Llysgenhadon, gan ystyried tywys twristiaid fel cam nesaf naturiol ar gyfer Llysgenhadon. Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, sy\u2019n noddi cynllun Llysgenhadon Conwy, wedi arwain y ffordd gyda chwrs yng Nghonwy, sef Bathodyn Gwyn ar gyfer Tref Furiog Conwy, yn 2025. Mae cyfranogwyr llwyddiannus wedi derbyn eu bathodynnau ac wedi dechrau tywys teithiau ar sail fasnachol, gan ennill incwm ac ychwanegu at yr economi leol drwy ddangos nodweddion y dref. Mae rhai o\u2019r gr\u0175p wedi dechrau gwirfoddoli gyda Cadw gan ddehongli Castell Conwy ac ateb cwestiynau aelodau\u2019r cyhoedd sy\u2019n talu i ymweld.<\/p>\n<figure class=\"wp-block-image size-full\"><img decoding=\"async\" loading=\"lazy\" width=\"1013\" height=\"760\" src=\"https:\/\/www.ambassador.wales\/wp-content\/uploads\/2025\/11\/white-guides-On-Quay.jpg\" alt=\"Conwy White Guides Conwy Quay and Castle\" class=\"wp-image-466362\" srcset=\"https:\/\/www.ambassador.wales\/wp-content\/uploads\/2025\/11\/white-guides-On-Quay.jpg 1013w, https:\/\/www.ambassador.wales\/wp-content\/uploads\/2025\/11\/white-guides-On-Quay-300x225.jpg 300w, https:\/\/www.ambassador.wales\/wp-content\/uploads\/2025\/11\/white-guides-On-Quay-768x576.jpg 768w, https:\/\/www.ambassador.wales\/wp-content\/uploads\/2025\/11\/white-guides-On-Quay-472x355.jpg 472w, https:\/\/www.ambassador.wales\/wp-content\/uploads\/2025\/11\/white-guides-On-Quay-624x468.jpg 624w, https:\/\/www.ambassador.wales\/wp-content\/uploads\/2025\/11\/white-guides-On-Quay-50x38.jpg 50w\" sizes=\"(max-width: 1013px) 100vw, 1013px\" \/><\/figure>\n<\/p>\n<p>Wedi\u2019i ariannu gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Ffyniant Bro Llywodraeth y DU, gyda chyfraniad gan gyfranogwyr, mae cwrs Bathodyn Gwyn Llandudno wedi denu\u2019r rhai sydd eisoes yn ymwneud \u00e2 thwristiaeth a threftadaeth yn y dref, yn ogystal \u00e2 newydd ddyfodiaid.<\/p>\n<p>Mae Adrian Hughes o arddangosfa Home Front Museum eisoes yn tywys teithiau o amgylch Llandudno yn aml, ond mae\u2019n cydnabod buddion gweithio gydag eraill i gyrraedd safon, er mwyn gwella\u2019r hyn y mae eisoes yn ei wneud ac i sicrhau bod ei gynnwys sy\u2019n trafod straeon rhyfel ei dref hyd yn oed yn fwy pwerus.<\/p>\n<p>Mae Rodney Davies yn creu cynnig o rwydwaith o deithiau yn Llandudno, wedi\u2019i ysbrydoli gan ei brofiadau ar y cwrs Bathodyn Gwyn yng Nghonwy, lle mae tywyswyr bellach yn cydweithio i greu amserlen o deithiau rheolaidd. Ynghyd \u00e2\u2019i gyd-gyfranogwr, Jo, bydd teithiau rheolaidd ar them\u00e2u penodol ar gael ar gyfer 2026.<\/p>\n<p>Meddai Rodney;<\/p>\n<blockquote class=\"wp-block-quote\">\n<p>\u201cRoedd y cyrsiau Llysgennad yn wych, roedden nhw\u2019n agoriad llygad i\u2019r rhan arbennig o Ogledd Cymru lle\u2019r ydym ni\u2019n byw, ei diwylliant, ei hanes, ei daearyddiaeth a\u2019i hanesion a llawer mwy. Mae\u2019r cwrs bathodyn gwyn wedi newid fy mywyd ac rydw i\u2019n gyffrous iawn yngl\u0177n \u00e2 datblygu dyfodol ym maes twristiaeth yng Ngogledd Cymru. Mae ein menter newydd, Teithiau Tywys Llandudno, nawr yn cynnwys nifer o deithiau tywys, gyda llawer mwy i ddod yn 2026! Mae hyn oll yn helpu i hybu\u2019r rhan arbennig hon o Ogledd Cymru, a rhoi rhywbeth yn \u00f4l i eraill, gan arddangos y lle hyfryd hwn sy\u2019n gartref i ni. Diolch i\u2019r holl noddwyr!&#8221;&nbsp;<\/p>\n<\/blockquote>\n<p>Mae\u2019r cwrs yn dechrau yn Amgueddfa Llandudno \u2013 diolch yn fawr i Manju a\u2019r t\u00eem yn yr amgueddfa wych hon ar Stryd Gloddaeth am ddarparu lleoliad ar gyfer ymarfer. Gan ddefnyddio\u2019r Amgueddfa fel sylfaen, bydd y tywyswyr allan ar droed dros y misoedd nesaf ar ddydd Mawrth yn dysgu llwybr tywys cyn sefyll arholiad ymarferol ar eu sgiliau tywys a\u2019u gwybodaeth.&nbsp;&nbsp;<\/p>\n<p>Ar hyd y daith, mae nifer o nodweddion tref Llandudno hefyd yn cefnogi\u2019r achos, gan gynnwys Mostyn Estates, Penderyn Whisky, The Great Orme Copper mines a\u2019r Pier.<\/p>\n<p>Unwaith y bydd y tywyswyr dan hyfforddiant wedi derbyn eu bathodynnau, cadwch olwg am gyfres o deithiau. Dywedwch wrth eich ffrindiau! Dywedwch wrth eich gwesteion a dewch i ymuno \u00e2 ni!<\/p>\n<figure class=\"wp-block-image size-full\"><img decoding=\"async\" loading=\"lazy\" width=\"608\" height=\"70\" src=\"https:\/\/www.ambassador.wales\/wp-content\/uploads\/2024\/10\/Funded_by_UK_Govt.png\" alt=\"Funded by UK Government Cefnogir gan Llywodraeth y DU\" class=\"wp-image-378081\" srcset=\"https:\/\/www.ambassador.wales\/wp-content\/uploads\/2024\/10\/Funded_by_UK_Govt.png 608w, https:\/\/www.ambassador.wales\/wp-content\/uploads\/2024\/10\/Funded_by_UK_Govt-300x35.png 300w, https:\/\/www.ambassador.wales\/wp-content\/uploads\/2024\/10\/Funded_by_UK_Govt-50x6.png 50w\" sizes=\"(max-width: 608px) 100vw, 608px\" \/><\/figure>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae cwrs Bathodyn Gwyn Llandudno wedi denu\u2019r rhai sydd eisoes yn ymwneud \u00e2 thwristiaeth a threftadaeth yn y dref, yn ogystal \u00e2 newydd ddyfodiaid<\/p>\n","protected":false},"author":434,"featured_media":466358,"comment_status":"closed","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_bbp_topic_count":0,"_bbp_reply_count":0,"_bbp_total_topic_count":0,"_bbp_total_reply_count":0,"_bbp_voice_count":0,"_bbp_anonymous_reply_count":0,"_bbp_topic_count_hidden":0,"_bbp_reply_count_hidden":0,"_bbp_forum_subforum_count":0},"categories":[160,98],"tags":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ambassador.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/466366"}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ambassador.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ambassador.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ambassador.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/434"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ambassador.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=466366"}],"version-history":[{"count":5,"href":"https:\/\/www.ambassador.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/466366\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":466373,"href":"https:\/\/www.ambassador.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/466366\/revisions\/466373"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ambassador.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/466358"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ambassador.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=466366"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ambassador.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=466366"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ambassador.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=466366"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}