{"id":3975,"date":"2019-05-10T18:14:59","date_gmt":"2019-05-10T17:14:59","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ambassador.wales\/film-showcasing-denbighshires-tourism-hotspots\/"},"modified":"2019-05-15T09:03:31","modified_gmt":"2019-05-15T08:03:31","slug":"film-showcasing-denbighshires-tourism-hotspots","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.ambassador.wales\/cy\/film-showcasing-denbighshires-tourism-hotspots\/","title":{"rendered":"Ffilm yn dangos cyrchfannau poblogaidd i dwristiaid yn Sir Ddinbych"},"content":{"rendered":"<p>Mae ffilm newydd sbon sy\u2019n hyrwyddo profiadau ac atyniadau twristiaeth allweddol yn Sir Ddinbych wedi&#8217;i lansio i gyd-fynd \u00e2 Blwyddyn Darganfod Croeso Cymru.<\/p>\n<p>Mae\u2019r ffilm yn cynnwys cyrchfannau allweddol gan gynnwys yr SC2 newydd sbon yn y Rhyl, Traeth Barkby Prestatyn, Castell Dinbych, Cadeirlan Llanelwy, Nantclwyd y Dre, Carchar Rhuthun, Canolfan Grefft Rhuthun, Dinas Br\u00e2n, Rheilffordd Llangollen, Plas Newydd ac Abaty Glyn y Groes yn ogystal ag amrywiaeth o brofiadau megis syrffio barcud yn y Rhyl, seiclo ar Fwlch yr Oernant, paragleidio yn Llangollen, beicio mynydd yn One Planet Adventure a phadlo bwrdd ar droed ar Afon Dyfrdwy.<\/p>\n<p>Lansiwyd y ffilm yn y Fforwm Twristiaeth diweddar, lle y daeth bron i 100 o bobl ynghyd i wrando ar siaradwyr gwadd, gan gynnwys Urdd Gobaith Cymru a Banc Datblygu Cymru. Cynhelir y Fforwm ddwywaith y flwyddyn ac mae wedi profi i fod yn llwyddiant enfawr ar gyfer busnesau twristiaeth i ddysgu oddi wrth ei gilydd a datblygu partneriaethau newydd.<\/p>\n<p>Dywedodd y Cynghorydd Hugh Evans OBE, Arweinydd Cyngor Sir Ddinbych: \u201cMae\u2019r ffilm hon wir yn dangos harddwch Sir Ddinbych, o Langollen a Dyffryn Dyfrdwy yn y de i\u2019r trefi arfordirol yn y gogledd megis Prestatyn a\u2019r Rhyl. Gyda\u2019r prif dymor ar gyfer twristiaeth yn agos\u00e1u ac agoriad diweddar SC2 yn y Rhyl, rydym yn annog ymwelwyr yn ogystal \u00e2 phobl leol i ail-ddarganfod ein rhan ni o Ogledd Cymru.&#8221;<\/p>\n<p>Mae Gogledd Cymru yn prysur ddatblygu&#8217;n gyrchfan enwog fel prif leoliad antur, ac mae\u2019r ffilm wir yn amlygu\u2019r profiadau amrywiol a hygyrch sydd ar gael yn y sir ar gyfer pob oedran a diddordeb.<\/p>\n<p>Mae\u2019r ffilm hwn wedi derbyn cyllid drwy Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru &#8211; Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, a ariennir gan Gronfa Amaethyddiaeth Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru. Mae\u2019n ffurfio rhan o brosiect Llysgenhadon Twristiaeth Sir Ddinbych a gaiff ei lansio\u2019n fuan. Y nod yw gwella\u2019r profiad i ymwelwyr drwy ddarparu modiwlau hyfforddiant ar-lein ynghylch cynnig twristiaeth Sir Ddinbych.<\/p>\n<p>I weld y ffilm, ymwelwch \u00e2 thudalen Facebook neu Sianel <a href=\"https:\/\/youtu.be\/UkPlkchN1HQ\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">YouTube Gogledd Ddwyrain Cymru<\/a>.<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae ffilm newydd sbon sy\u2019n hyrwyddo profiadau ac atyniadau twristiaeth allweddol yn Sir Ddinbych.<\/p>\n","protected":false},"author":37,"featured_media":3972,"comment_status":"closed","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_bbp_topic_count":0,"_bbp_reply_count":0,"_bbp_total_topic_count":0,"_bbp_total_reply_count":0,"_bbp_voice_count":0,"_bbp_anonymous_reply_count":0,"_bbp_topic_count_hidden":0,"_bbp_reply_count_hidden":0,"_bbp_forum_subforum_count":0},"categories":[98],"tags":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ambassador.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/3975"}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ambassador.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ambassador.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ambassador.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/37"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ambassador.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=3975"}],"version-history":[{"count":3,"href":"https:\/\/www.ambassador.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/3975\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":4202,"href":"https:\/\/www.ambassador.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/3975\/revisions\/4202"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ambassador.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/3972"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ambassador.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=3975"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ambassador.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=3975"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ambassador.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=3975"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}