{"id":3966,"date":"2019-05-10T18:02:08","date_gmt":"2019-05-10T17:02:08","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ambassador.wales\/new-tourism-routes-launched-in-north-east-wales\/"},"modified":"2019-05-13T17:03:44","modified_gmt":"2019-05-13T16:03:44","slug":"new-tourism-routes-launched-in-north-east-wales","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.ambassador.wales\/cy\/new-tourism-routes-launched-in-north-east-wales\/","title":{"rendered":"Lansio Llwybrau Newydd i Dwristiaid yn y Gogledd Ddwyrain Cymru"},"content":{"rendered":"<p><strong>Dewch i ddarganfod teithiau newydd sbon i&#8217;w mwynhau yr haf yma<\/strong><\/p>\n<p>Mae llwybrau newydd sbon i dwristiaid wedi cael eu lansio yn y gogledd-ddwyrain yn ystod Wythnos Twristiaeth Cymru, sy&#8217;n dechrau ar 11 Mai 2019. Mae&#8217;r llwybrau ar ffurf mapiau digidol, sydd ar gael i&#8217;w llwytho i lawr AM DDIM o <a href=\"http:\/\/www.northeastwales.wales\/eich-blwyddyn-y-mor\/ffordd-y-gogledd\/?lang=cy\">http:\/\/www.northeastwales.wales\/eich-blwyddyn-y-mor\/ffordd-y-gogledd\/?lang=cy<\/a><\/p>\n<p>Mae&#8217;r mapiau&#8217;n edrych ar leoliadau gwahanol yn y gogledd-ddwyrain \u2013 o&#8217;r Rhyl i Benarl\u00e2g. Bydd defnyddwyr y map yn ymweld \u00e2 mannau poblogaidd i dwristiaid megis Traeth Talacre, Castell y Waun a Charchar Rhuthun. Nid yw&#8217;r llwybrau newydd wedi&#8217;u cyfyngu i&#8217;w sir yn unig, sy&#8217;n golygu y gall defnyddwyr gyfuno eu taith gyda lleoliadau cyfagos yng Nghonwy.<\/p>\n<p>Mae&#8217;r llwybrau newydd yn y gogledd-ddwyrain yn rhan o gasgliad newydd sbon o saith map, sy&#8217;n tynnu sylw at rai o&#8217;r lleoliadau twristaidd allweddol sydd i&#8217;w gweld yn y gogledd. Mae&#8217;r mapiau wedi&#8217;u dylunio a&#8217;u cynhyrchu gan y pedair Partneriaeth Rheoli Cyrchfannau yn y gogledd wrth iddyn nhw gydweithio am y tro cyntaf (sef Ynys M\u00f4n, Gwynedd, Conwy a&#8217;r gogledd-ddwyrain &#8211; sef Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Wrecsam). Mae&#8217;r mapiau&#8217;n cydgysylltu \u00e2&#8217;r ffordd 75 milltir o hyd, Ffordd y Gogledd \u2013 un o&#8217;r tri llwybr twristiaeth cenedlaethol a lansiwyd gan Croeso Cymru o dan frand Ffordd Cymru.<\/p>\n<p>Gydag amrywiaeth eang o drysorau cudd yn y gogledd, mae pob map wedi&#8217;i seilio ar thema gyda&#8217;i lwybr unigryw ei hun, sy&#8217;n ymestyn o Ynys M\u00f4n i&#8217;r gogledd-ddwyrain. Ar yr agenda, gall defnyddwyr ddilyn taith arfordir Conwy, cylchdaith forwrol gogledd Ynys M\u00f4n, dyffrynnoedd llechi Gwynedd a thirnodau enwog y gogledd-ddwyrain. Mae&#8217;r llwybrau gwyddoniaeth a threftadaeth a&#8217;r llwybr gweithgaredd teulu yn mynd \u00e2 chi ar daith i weld rhai o brif gyrchfannau&#8217;r gogledd-ddwyrain, tra bod y gylchdaith antur awyr agored a threftadaeth yn dangos y gorau o&#8217;r hyn sydd gan y gogledd i&#8217;w gynnig \u2013 ardal sy&#8217;n enwog am ei golygfeydd godidog a&#8217;i gweithgareddau antur llawn adrenalin.<\/p>\n<p>Meddai Ian Lebbon, Cadeirydd Partneriaeth Rheoli Cyrchfannau Sir Ddinbych,<\/p>\n<p>&#8220;Rydw i wrth fy modd bod y gogledd-ddwyrain yn rhan bwysig o&#8217;r prosiect Cymru-gyfan yma. Bydd y llwybrau newydd yn rhoi cyfle i ymwelwyr fwynhau ein harfordir, ein treftadaeth, ein trefi gwledig, ein tirweddau a&#8217;r amrywiaeth eang o atyniadau sydd gan y rhanbarth i&#8217;w cynnig i ymwelwyr. Rydyn ni&#8217;n gobeithio y bydd yr ymgyrch hon yn annog busnesau i ddatblygu partneriaethau cryfach, yn rhoi hwb i&#8217;r economi leol ac yn cynnig cyfleoedd gwaith drwy gydol y flwyddyn.&#8221;<\/p>\n<p>Mae&#8217;r mapiau newydd wedi bod yn ymdrech gymunedol, wrth i fusnesau gael eu gwahodd i weithdai i drafod eu syniadau ar gyfer llwybrau newydd i dwristiaid i helpu i hyrwyddo&#8217;r rhanbarth a darparu teithiau cylchol a theithiau gwahanol oddi ar Ffordd y Gogledd.<\/p>\n<p>Mae&#8217;r mapiau&#8217;n rhan o ymgyrch dwristiaeth ehangach a lansiwyd gan awdurdodau lleol y gogledd, sydd &#8211; ynghyd \u00e2 chyllid gan Croeso Cymru a&#8217;r Gronfa Ymgysylltu Twristiaeth Ranbarthol &#8211; wedi ymdrechu i roi hwb i ffigurau twristiaeth yn ystod misoedd y gaeaf, sydd wedi bod yn is na&#8217;r gobaith yn y gorffennol.<\/p>\n<p>Bu&#8217;r ymgyrch yn llwyddiannus ymysg busnesau lleol, gyda digon o ymateb cadarnhaol a pharodrwydd i ddefnyddio&#8217;r hashnod #DarganfodGogleddCymru ar eu sianeli cyfryngau cymdeithasol. Mae&#8217;r hashnod poblogaidd yn dal yn fyw ar y cyfryngau cymdeithasol ac yn cael ei ddefnyddio&#8217;n rheolaidd i hyrwyddo&#8217;r ardal.<\/p>\n<p>Meddai Amy Sumner, Rheolwr Marchnata Llyfrgell Gladstone,<\/p>\n<p>&#8220;Mae Llyfrgell Gladstone wrth ei bodd i fod yn rhan o lwybr cylchol y gogledd-ddwyrain, sy&#8217;n cynnwys toreth o safleoedd pwysig a hardd. Rydyn ni&#8217;n arbennig o falch ein bod yn gweithio&#8217;n agosach gyda&#8217;r cynghorau lleol a busnesau a sefydliadau eraill ar y llwybr, ac yn edrych ymlaen at groesawu a chyflwyno ymwelwyr newydd i&#8217;r Llyfrgell.&#8221;<\/p>\n<p>Thema Wythnos Twristiaeth Cymru eleni yw &#8220;Cryfder drwy Bartneriaeth&#8221;, sy&#8217;n adlewyrchu&#8217;r ymdrechion a wnaed gan gynghorau&#8217;r gogledd i ymwneud \u00e2&#8217;r diwydiant twristiaeth yn y rhanbarth drwy gydol yr ymgyrch \u2013 gyda&#8217;r nod o weithio gyda&#8217;n gilydd i wireddu&#8217;r manteision economaidd sy&#8217;n deillio o hyrwyddo&#8217;r rhanbarth yn ei gyfanrwydd, a manteisio ar y cyfleoedd sy&#8217;n cael eu cynnig gan Ffordd Cymru.<\/p>\n<p>Bydd yr wythnos o ddigwyddiadau yn dechrau yn y Senedd ym Mae Caerdydd ar 14 Mai, gyda thros ugain o ddigwyddiadau eraill yn cael eu cynnal ledled Cymru yn ystod yr wythnos.<\/p>\n<p>Mae mapiau ar gael i&#8217;w llwytho i lawr am ddim o heddiw ymlaen o <a href=\"http:\/\/www.northeastwales.wales\/eich-blwyddyn-y-mor\/ffordd-y-gogledd\/?lang=cy\">http:\/\/www.northeastwales.wales\/eich-blwyddyn-y-mor\/ffordd-y-gogledd\/?lang=cy<\/a>.<\/p>\n<p><strong><em>Mae&#8217;r prosiect yma wedi&#8217;i ariannu drwy&#8217;r Gronfa Ymgysylltu Twristiaeth Ranbarthol a&#8217;i gefnogi gan gronfa Cymunedau Gwledig &#8211; Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020 Llywodraeth Cymru, sy&#8217;n cael ei ariannu gan Gronfa Amaethyddiaeth Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru, sef y Gronfa i wella&#8217;r profiad i ymwelwyr a chreu cyrchfannau cryfach drwy weithio gyda&#8217;n gilydd.<\/em><br \/>\n<\/strong><\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Dewch i ddarganfod teithiau newydd sbon i&#8217;w mwynhau yr haf yma.<\/p>\n","protected":false},"author":37,"featured_media":3964,"comment_status":"closed","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_bbp_topic_count":0,"_bbp_reply_count":0,"_bbp_total_topic_count":0,"_bbp_total_reply_count":0,"_bbp_voice_count":0,"_bbp_anonymous_reply_count":0,"_bbp_topic_count_hidden":0,"_bbp_reply_count_hidden":0,"_bbp_forum_subforum_count":0},"categories":[98],"tags":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ambassador.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/3966"}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ambassador.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ambassador.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ambassador.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/37"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ambassador.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=3966"}],"version-history":[{"count":3,"href":"https:\/\/www.ambassador.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/3966\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":4132,"href":"https:\/\/www.ambassador.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/3966\/revisions\/4132"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ambassador.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/3964"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ambassador.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=3966"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ambassador.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=3966"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ambassador.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=3966"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}