{"id":384488,"date":"2024-11-12T11:08:13","date_gmt":"2024-11-12T11:08:13","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ambassador.wales\/?p=384488"},"modified":"2024-11-15T14:59:12","modified_gmt":"2024-11-15T14:59:12","slug":"staff-rheilffordd-llangollen-a-chorwen-yn-dod-yn-llysgenhadon-twristiaeth-sir-ddinbych","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.ambassador.wales\/cy\/staff-rheilffordd-llangollen-a-chorwen-yn-dod-yn-llysgenhadon-twristiaeth-sir-ddinbych\/","title":{"rendered":"Staff Rheilffordd Llangollen a Chorwen yn dod yn Llysgenhadon Twristiaeth Sir Ddinbych"},"content":{"rendered":"<p>Cyn Wythnos Llysgennad Cymru eleni, a gynhelir rhwng 18-22 Tachwedd, mae staff a gwirfoddolwyr Rheilffordd Llangollen a Chorwen wedi dod yn Llysgenhadon Twristiaeth Sir Ddinbych.<\/p>\n<p><img decoding=\"async\" loading=\"lazy\" class=\"aligncenter wp-image-384481 size-large\" src=\"https:\/\/www.ambassador.wales\/wp-content\/uploads\/2024\/11\/Ambassadors-Week-Llangollen-Railwaysjpg-1024x1024.jpg\" alt=\"Staff and vilunteer Denbighsire Ambassadors at Llangollen and Corwen Railway\" width=\"625\" height=\"625\" srcset=\"https:\/\/www.ambassador.wales\/wp-content\/uploads\/2024\/11\/Ambassadors-Week-Llangollen-Railwaysjpg-1024x1024.jpg 1024w, https:\/\/www.ambassador.wales\/wp-content\/uploads\/2024\/11\/Ambassadors-Week-Llangollen-Railwaysjpg-300x300.jpg 300w, https:\/\/www.ambassador.wales\/wp-content\/uploads\/2024\/11\/Ambassadors-Week-Llangollen-Railwaysjpg-150x150.jpg 150w, https:\/\/www.ambassador.wales\/wp-content\/uploads\/2024\/11\/Ambassadors-Week-Llangollen-Railwaysjpg-768x768.jpg 768w, https:\/\/www.ambassador.wales\/wp-content\/uploads\/2024\/11\/Ambassadors-Week-Llangollen-Railwaysjpg-200x200.jpg 200w, https:\/\/www.ambassador.wales\/wp-content\/uploads\/2024\/11\/Ambassadors-Week-Llangollen-Railwaysjpg-624x624.jpg 624w, https:\/\/www.ambassador.wales\/wp-content\/uploads\/2024\/11\/Ambassadors-Week-Llangollen-Railwaysjpg-50x50.jpg 50w, https:\/\/www.ambassador.wales\/wp-content\/uploads\/2024\/11\/Ambassadors-Week-Llangollen-Railwaysjpg.jpg 1080w\" sizes=\"(max-width: 625px) 100vw, 625px\" \/><\/p>\n<p>Mae Cwrs Llysgenhadon Sir Ddinbych yn darparu cyfleoedd hyfforddiant ar-lein i ddysgu a gwella eich gwybodaeth am nodweddion unigryw\u2019r Sir ac yn rhan o\u2019r Cynllun Llysgennad Cymru ehangach, sy\u2019n rhoi gwybodaeth a hyfforddiant ar-lein am ddim ar nodweddion arbennig ardaloedd eraill ar draws Cymru.<\/p>\n<p>Cynigir cyrsiau tebyg ym Mharc Cenedlaethol Eryri, Conwy, Gwynedd, Ynys M\u00f4n, Sir y Fflint, Wrecsam, Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, Ceredigion a Sir G\u00e2r.<\/p>\n<p>Mae amrywiaeth o weithgareddau wedi\u2019u trefnu trwy gydol yr wythnos ar gyfer Wythnos Llysgennad Cymru, gyda\u2019r bwriad o dynnu sylw at yr amrywiaeth eang o bobl sydd wedi elwa o ddod yn llysgennad trwy\u2019r Cynllun Llysgennad Cymru.<\/p>\n<p>Mae\u2019r cynllun ei hun ar agor i bawb ac yn cynnig ffordd unigryw o ddysgu mwy am Gymru trwy gyfres o fodiwlau ar-lein ar amrywiaeth o them\u00e2u. Gyda\u2019r bwriad o lansio ym mis Tachwedd, bydd aelodau yn gallu cael mynediad at y modiwl llwybrau\u2019r arfordir a llwybrau cenedlaethol newydd, lle gallant ddysgu mwy am Arfordir Cymru gyda phwyslais penodol ar Lwybr Clawdd Offa sy\u2019n rhedeg drwy Sir Ddinbych, Llwybr yr Arfordir Sir Benfro a Llwybr Glynd\u0175r.<\/p>\n<p>Ar hyn o bryd mae dros 4,850 o bobl wedi cofrestru ar gyfer Cynllun Llysgennad Cymru gyda dros 3,660 o bobl eisoes ar y lefel efydd. Mae dros 8,750 o fathodynnau efydd, arian ac aur wedi\u2019u dyfarnu hyd yma, gyda dros hanner y rhai sydd wedi cael y wobr efydd yn datblygu trwy\u2019r modiwlau i gyrraedd y safon aur.<\/p>\n<p><img decoding=\"async\" loading=\"lazy\" class=\"aligncenter size-large wp-image-384474\" src=\"https:\/\/www.ambassador.wales\/wp-content\/uploads\/2024\/11\/Llangollen-Railway_Ambassadors-Group-1024x886.jpg\" alt=\"Llangollen and Corwen Railway staff with their Ambassador awards.\" width=\"625\" height=\"541\" srcset=\"https:\/\/www.ambassador.wales\/wp-content\/uploads\/2024\/11\/Llangollen-Railway_Ambassadors-Group-1024x886.jpg 1024w, https:\/\/www.ambassador.wales\/wp-content\/uploads\/2024\/11\/Llangollen-Railway_Ambassadors-Group-300x260.jpg 300w, https:\/\/www.ambassador.wales\/wp-content\/uploads\/2024\/11\/Llangollen-Railway_Ambassadors-Group-768x665.jpg 768w, https:\/\/www.ambassador.wales\/wp-content\/uploads\/2024\/11\/Llangollen-Railway_Ambassadors-Group-1536x1329.jpg 1536w, https:\/\/www.ambassador.wales\/wp-content\/uploads\/2024\/11\/Llangollen-Railway_Ambassadors-Group-624x540.jpg 624w, https:\/\/www.ambassador.wales\/wp-content\/uploads\/2024\/11\/Llangollen-Railway_Ambassadors-Group-50x43.jpg 50w, https:\/\/www.ambassador.wales\/wp-content\/uploads\/2024\/11\/Llangollen-Railway_Ambassadors-Group.jpg 2000w\" sizes=\"(max-width: 625px) 100vw, 625px\" \/><\/p>\n<p>Dywedodd Nicola Reincke, Rheolwr Ansawdd a Hyfforddiant Rheilffordd Llangollen:<\/p>\n<blockquote>\n<p><em>\u201cPenderfynom gyflwyno Cynllun Llysgenhadon Twristiaeth Sir Ddinbych fel cwrs gwirfoddol ar gyfer ein gwirfoddolwyr a staff sy\u2019n wynebu cwsmeriaid gan ein bod yn teimlo y byddai\u2019n gwella\u2019r profiad i gwsmeriaid y gallwn ni ei roi i\u2019n hymwelwyr yn y rheilffordd. Mewn pythefnos, llwyddodd 10 o bobl i gyflawni\u2019r safon aur ac mae llawer mwy ar y daith honno hefyd.<\/em><\/p>\n<p><em>\u201cMae\u2019r nifer sydd wedi manteisio ar y cynllun a\u2019r adborth wedi bod yn wych. Er fy mod wedi byw a gweithio\u2019n agos ar hyd fy oes, bellach mae angen i mi ailymweld \u00e2\u2019r holl drefi yn Sir Ddinbych i archwilio\u2019r hyn rwyf wedi\u2019i ddysgu ar y cynllun. Mae\u2019n gwrs diddorol i\u2019w wneud ac yn rhoi dealltwriaeth drylwyr a chyfoethog o\u2019n cymunedau a\u2019n hanes yn Sir Ddinbych\u201d.<\/em><\/p>\n<\/blockquote>\n<p>Meddai\u2019r Cynghorydd Alan James, Aelod Arweiniol Datblygu Lleol a Chynllunio:<\/p>\n<blockquote>\n<p><em>\u201cMae\u2019n galonogol iawn gweld unigolion o fewn y diwydiant twristiaeth yn y Sir yn elwa o\u2019r cynllun llysgennad hwn. Mae\u2019r Cyngor wedi ymrwymo i reoli\u2019r cynllun a pharhau i weithio gyda\u2019n partneriaid i archwilio cyfleoedd newydd, i wella\u2019r profiad y mae twristiaid yn ei gael pan fyddant yn ymweld \u00e2 Sir Ddinbych. Mae cyflwyno\u2019r modiwl llwybr yr arfordir a llwybrau cerdded newydd yn enghraifft wych o hyn.\u201d<\/em><\/p>\n<\/blockquote>\n<p>Am fwy o wybodaeth am ddod yn Llysgennad Twristiaeth Sir Ddinbych, ewch i dudalen benodol Sir Ddinbych ar <a href=\"https:\/\/www.ambassador.wales\/cy\/ambassador-courses\/denbighshire-tourism-ambassador-scheme\/\">wefan<\/a> neu, i glywed mwy am yr hyn sydd gan y llysgenhadon eu hunain i\u2019w ddweud, ewch i\u2019w <a href=\"https:\/\/www.ambassador.wales\/cy\/y-llysgenhadon-yn-eu-geiriau-eu-hunain\/\">tudalen<\/a>. Bydd nifer o weithgareddau yn cael eu trefnu yn ystod Wythnos Llysgennad Cymru, am fwy o wybodaeth ewch i <a href=\"https:\/\/www.ambassador.wales\/cy\/wales-ambassador-week\/\">wefan Llysgennad Cymru<\/a>.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Penderfynom gyflwyno Cynllun Llysgenhadon Twristiaeth Sir Ddinbych fel cwrs gwirfoddol ar gyfer ein gwirfoddolwyr a staff sy\u2019n wynebu cwsmeriaid<\/p>\n","protected":false},"author":37,"featured_media":259151,"comment_status":"closed","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_bbp_topic_count":0,"_bbp_reply_count":0,"_bbp_total_topic_count":0,"_bbp_total_reply_count":0,"_bbp_voice_count":0,"_bbp_anonymous_reply_count":0,"_bbp_topic_count_hidden":0,"_bbp_reply_count_hidden":0,"_bbp_forum_subforum_count":0},"categories":[98],"tags":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ambassador.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/384488"}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ambassador.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ambassador.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ambassador.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/37"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ambassador.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=384488"}],"version-history":[{"count":3,"href":"https:\/\/www.ambassador.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/384488\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":385324,"href":"https:\/\/www.ambassador.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/384488\/revisions\/385324"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ambassador.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/259151"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ambassador.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=384488"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ambassador.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=384488"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ambassador.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=384488"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}