{"id":374915,"date":"2024-09-20T11:47:45","date_gmt":"2024-09-20T10:47:45","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ambassador.wales\/?p=374915"},"modified":"2024-09-20T11:47:47","modified_gmt":"2024-09-20T10:47:47","slug":"sir-gar-yn-cynnal-digwyddiad-dathlu-llysgenhadon-twristiaeth-cyntaf","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.ambassador.wales\/cy\/sir-gar-yn-cynnal-digwyddiad-dathlu-llysgenhadon-twristiaeth-cyntaf\/","title":{"rendered":"Sir G\u00e2r yn cynnal digwyddiad Dathlu Llysgenhadon Twristiaeth cyntaf"},"content":{"rendered":"<p>Yr wythnos diwethaf, ymunodd y Cynghorydd Hazel Evans, yr Aelod Cabinet dros Adfywio, Hamdden, Diwylliant a Thwristiaeth ag adran dwristiaeth Cyngor Sir Caerfyrddin yn y Digwyddiad Dathlu Llysgenhadon Twristiaeth cyntaf.<\/p>\n<p><img decoding=\"async\" loading=\"lazy\" class=\"aligncenter wp-image-374908\" src=\"https:\/\/www.ambassador.wales\/wp-content\/uploads\/2024\/09\/edited-bronze_awards_51.jpg\" alt=\"Carmarthenshire Ambassadors receiving their awards\" width=\"500\" height=\"328\" srcset=\"https:\/\/www.ambassador.wales\/wp-content\/uploads\/2024\/09\/edited-bronze_awards_51.jpg 500w, https:\/\/www.ambassador.wales\/wp-content\/uploads\/2024\/09\/edited-bronze_awards_51-300x197.jpg 300w, https:\/\/www.ambassador.wales\/wp-content\/uploads\/2024\/09\/edited-bronze_awards_51-50x33.jpg 50w\" sizes=\"(max-width: 500px) 100vw, 500px\" \/><\/p>\n<p>Daeth dros 40 o fusnesau i&#8217;r digwyddiad a gynhaliwyd yn Neuadd y Sir. Cyflwynodd y Cynghorydd Hazel Evans y wobr i&#8217;r busnesau yn dilyn cyflwyniad byr ar werth twristiaeth i Sir G\u00e2r. Yn dilyn y seremoni, gwahoddwyd busnesau i aros a siarad \u00e2 th\u00eem Twristiaeth y Cyngor am ba welliannau y gellid eu gwneud i sicrhau bod Sir G\u00e2r yn lle ffyniannus ar gyfer twristiaeth.<\/p>\n<p>Mae cynllun Llysgennad Twristiaeth Sir G\u00e2r yn darparu hyfforddiant a gwybodaeth i bobl am rinweddau arbennig Sir G\u00e2r, ac mae&#8217;r t\u00eem yn annog mwy o bobl i gymryd rhan a dod yn llysgennad.<\/p>\n<p><strong>Dywedodd Paul Raven o Tea Traders yng Nghaerfyrddin am ei brofiad: <\/strong><\/p>\n<blockquote>\n<p><em>&#8220;Mae ein siop de yng nghanol Caerfyrddin. Rydym yn croesawu ymwelwyr i&#8217;r dref bob dydd. Mae cwblhau&#8217;r rhaglen Llysgenhadon yn hawdd. Rwyf wrth fy modd \u00e2&#8217;r ffaith bod modd cwblhau&#8217;r modiwlau byr ar-lein yn fy amser fy hun. Mae&#8217;n adnodd gwych ac yn ffordd dda o fy helpu i ddysgu mwy am Sir G\u00e2r a Chymru. Byddwn yn argymell y rhaglen i unrhyw fusnesau lleol sy&#8217;n awyddus i helpu ymwelwyr i ddysgu mwy am Gymru a&#8217;n tref wych&#8221;. <\/em><\/p>\n<\/blockquote>\n<p>Mae cofrestru i fod yn Llysgennad Twristiaeth Sir G\u00e2r yn gyfle gwych i ddysgu rhywbeth newydd. Roedd dysgwyr yn gallu cymryd rhan mewn modiwlau diddorol am hanes a diwylliant Sir G\u00e2r a gweithgareddau sydd i&#8217;w gwneud ledled Sir G\u00e2r. Gall dysgu parhaus gael effaith gadarnhaol ar fywydau pobl; p&#8217;un a ydych chi&#8217;n awyddus i ddysgu mwy am yr ardal, gwella eich gobeithion o ran cael gwaith neu gwrdd \u00e2 phobl newydd, mae dod yn Llysgennad yn ffordd wych o ddyfnhau eich gwerthfawrogiad o&#8217;r hyn sydd gan Sir G\u00e2r i&#8217;w gynnig.<\/p>\n<p><strong>Dywedodd y Cynghorydd Hazel Evans: <\/strong><\/p>\n<blockquote>\n<p><em>\u201cRoeddwn i wrth fy modd yn cael gwobrwyo&#8217;r unigolion hyn sy&#8217;n wirioneddol angerddol am y Sir hon ac sy&#8217;n helpu i hyrwyddo&#8217;r hyn sydd gan Sir G\u00e2r i&#8217;w gynnig fel cyrchfan fywiog a phoblogaidd i dwristiaid. Mae&#8217;r Cyngor yn hynod o falch o&#8217;r hyn rydych chi wedi&#8217;i gyflawni ac yn diolch i chi am arwain y ffordd\u201d.<\/em><\/p>\n<\/blockquote>\n<p>Yn 2023, cynhyrchodd twristiaeth \u00a3683 miliwn yn Sir G\u00e2r. Mae&#8217;r t\u00eem Twristiaeth yn annog busnesau a phobl leol i ddysgu mwy am ein harfordir hardd, cefn gwlad, safleoedd hanesyddol a thrysorau cudd i ddenu mwy o ymwelwyr i&#8217;r ardal, gan gynyddu gwariant yn ein heconomi leol.<\/p>\n<p>Os hoffech gael mwy o wybodaeth, neu gofrestru i fod yn Llysgennad Twristiaeth Sir G\u00e2r <a href=\"https:\/\/www.ambassador.wales\/cy\/\">ewch i&#8217;r wefan<\/a>.<\/p>\n<p>I gael y wybodaeth ddiweddaraf am yr hyn sy&#8217;n digwydd yn ein Sir, ewch i wefan <a href=\"https:\/\/www.darganfodsirgar.com\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">Darganfod Sir G\u00e2r<\/a>.<\/p>\n<p><strong>Gwybodaeth Gyswllt: <\/strong>Cyngor Sir Caerfyrddin | Carmarthenshire County Council <a href=\"mailto:pressoffice@carmarthenshire.gov.uk\">pressoffice@carmarthenshire.gov.uk<\/a><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Ymunodd y Cynghorydd Hazel Evans, yr Aelod Cabinet dros Adfywio, Hamdden, Diwylliant a Thwristiaeth ag adran dwristiaeth Cyngor Sir Caerfyrddin yn y Digwyddiad Dathlu Llysgenhadon Twristiaeth cyntaf.<\/p>\n","protected":false},"author":3441,"featured_media":236562,"comment_status":"closed","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_bbp_topic_count":0,"_bbp_reply_count":0,"_bbp_total_topic_count":0,"_bbp_total_reply_count":0,"_bbp_voice_count":0,"_bbp_anonymous_reply_count":0,"_bbp_topic_count_hidden":0,"_bbp_reply_count_hidden":0,"_bbp_forum_subforum_count":0},"categories":[98],"tags":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ambassador.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/374915"}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ambassador.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ambassador.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ambassador.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/3441"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ambassador.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=374915"}],"version-history":[{"count":2,"href":"https:\/\/www.ambassador.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/374915\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":374919,"href":"https:\/\/www.ambassador.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/374915\/revisions\/374919"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ambassador.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/236562"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ambassador.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=374915"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ambassador.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=374915"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ambassador.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=374915"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}