{"id":291896,"date":"2023-09-28T12:06:42","date_gmt":"2023-09-28T11:06:42","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ambassador.wales\/?p=291896"},"modified":"2023-09-28T15:18:08","modified_gmt":"2023-09-28T14:18:08","slug":"cynllun-llysgenhadon-cymru-yn-cefnogi-wythnos-dwristiaeth-cymru","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.ambassador.wales\/cy\/cynllun-llysgenhadon-cymru-yn-cefnogi-wythnos-dwristiaeth-cymru\/","title":{"rendered":"Cynllun Llysgenhadon Cymru yn cefnogi Wythnos Dwristiaeth Cymru"},"content":{"rendered":"<p>Mae cynllun ar-lein sydd wedi ennill gwobrau ac sy\u2019n darparu hyfforddiant a gwybodaeth i bobl am rinweddau arbennig ardaloedd o Gymru yn annog mwy o bobl i gymryd rhan a bod yn Llysgennad yn ystod Wythnos Dwristiaeth Cymru a gynhelir rhwng 15 a 21 Mai.<\/p>\n<p>Enillodd Cynllun Llysgenhadon Cymru y wobr sgiliau yng Ngwobrau Twristiaeth Gogledd Cymru. Mae\u2019n ffordd wych o ddwysau eich gwerthfawrogiad o le a dysgu mwy am ei nodweddion unigryw. Mae\u2019n rhad ac am ddim ac yn agored i bawb. Cynigir cyfres o fodiwlau ar-lein ar amrywiaeth o them\u00e2u. Mae hyn yn cynnwys y Gymraeg, cymunedau, diwylliant, hanes, tirluniau, twristiaeth gynaliadwy, beicio a cherdded. Mae yna 3 lefel o wobrau \u2013 efydd, arian ac aur, yn dibynnu ar nifer y modiwlau a gwblheir. Anfonir gwobrau gan gynnwys tystysgrifau a bathodynnau i bawb sy\u2019n cwblhau\u2019r lefelau.<\/p>\n<p>Sir Ddinbych oedd y cyntaf i lansio cwrs ar-lein o\u2019i fath yng Nghymru. Ers hynny mae Parciau Cenedlaethol Eryri a Bannau Brycheiniog, Conwy, Gwynedd, Ynys M\u00f4n, a Sir Gaerfyrddin wedi lansio cyrsiau ac mae Sir y Fflint, Wrecsam a Cheredigion yn brysur yn paratoi i lansio yn ddiweddarach eleni, yn ogystal \u00e2 chwrs Llysgennad Diwylliannol Cymru gyfan. Mae Llysgenhadon yn cael eu hannog i gofrestru ar gyfer amrywiol gyrsiau i ddysgu mwy am Gymru a bod yn rhan o gymuned ehangach.<\/p>\n<p>Cynhelir Wythnos Dwristiaeth Cymru ym mis Mai bob blwyddyn er mwyn codi proffil y diwydiant twristiaeth yng Nghymru. Mae pwysigrwydd economaidd a chymdeithasol twristiaeth ar gynnydd, ac mae\u2019n un o\u2019r pethau sy\u2019n cyfrannu fwyaf at swyddi lleol, busnesau lleol a\u2019r economi leol.<\/p>\n<p>Dywed Rachel Simpson o Artychoke yn Llandudno, sydd wedi chwarae rhan hanfodol yn y gwaith o sefydlu\u2019r cynlluniau:<\/p>\n<blockquote>\n<p>\u201cMae niferoedd ac adborth ein Llysgenhadon yn dangos bod pobl wir wedi mwynhau\u2019r pynciau amrywiol ym mhob un o\u2019r cyrsiau. Gallwch ddysgu mwy am hanes, bwyd a diod, chwedloniaeth, atyniadau a gweithgareddau sydd ar gael yn eich ardal chi o Gymru. Mae nifer o Lysgenhadon wedi mynd ymlaen i ymgymryd \u00e2 mwy nag un cwrs! Mae\u2019r cyngor \u2018Oeddech chi\u2019n gwybod\u2019 yn arbennig o boblogaidd, ac yn tynnu sylw at ffeithiau diddorol sy\u2019n meithrin angerdd mewn pethau yr oeddem eisoes yn eu gwybod ac yn dod \u00e2 nhw yn fyw. Mae\u2019n wych gweld faint o bobl sy\u2019n barod i gymryd rhan er mwyn deall a gwarchod rhinweddau eithriadol Cymru.\u201d<\/p>\n<\/blockquote>\n<p>Mae dros 3,200 o bobl wedi cofrestru ar o leiaf un o\u2019r cyrsiau ar y wefan gyda 2,245 yn ennill tystysgrif lefel efydd ar draws yr holl gyrsiau. Mae dros 5,500 o dystysgrifau efydd, arian ac aur wedi eu dyrannu i Lysgenhadon, nid yn unig o fewn Cymru ond ar draws y DU a thu hwnt.<\/p>\n<p>Dywedodd y Cynghorydd Win-Mullen James, Aelod Arweiniol Datblygu Lleol a Chynllunio:<\/p>\n<blockquote>\n<p>\u201cMae\u2019n galonogol iawn gweld y prosiect arloesol hwn a ddechreuodd yn Sir Ddinbych yn mynd o nerth i nerth, gyda mwy o Awdurdodau a Pharciau Cenedlaethol yn buddsoddi yn y cynllun ac yn cydweithio ledled Cymru. Mae Sir Ddinbych yn ymroddedig i reoli\u2019r cynllun a pharhau i weithio gyda\u2019n partneriaid i ganfod cyfleoedd newydd.\u201d<\/p>\n<\/blockquote>\n<div id=\"attachment_291891\" style=\"width: 635px\" class=\"wp-caption aligncenter\"><img aria-describedby=\"caption-attachment-291891\" decoding=\"async\" loading=\"lazy\" class=\"wp-image-291891 size-large\" src=\"https:\/\/www.ambassador.wales\/wp-content\/uploads\/2023\/09\/Tony-Vitti-738x1024.jpg\" alt=\"Photo of Rhyl Tourist Information officer Tony\" width=\"625\" height=\"867\" srcset=\"https:\/\/www.ambassador.wales\/wp-content\/uploads\/2023\/09\/Tony-Vitti-738x1024.jpg 738w, https:\/\/www.ambassador.wales\/wp-content\/uploads\/2023\/09\/Tony-Vitti-216x300.jpg 216w, https:\/\/www.ambassador.wales\/wp-content\/uploads\/2023\/09\/Tony-Vitti-768x1066.jpg 768w, https:\/\/www.ambassador.wales\/wp-content\/uploads\/2023\/09\/Tony-Vitti-1107x1536.jpg 1107w, https:\/\/www.ambassador.wales\/wp-content\/uploads\/2023\/09\/Tony-Vitti-1476x2048.jpg 1476w, https:\/\/www.ambassador.wales\/wp-content\/uploads\/2023\/09\/Tony-Vitti-624x866.jpg 624w, https:\/\/www.ambassador.wales\/wp-content\/uploads\/2023\/09\/Tony-Vitti-36x50.jpg 36w, https:\/\/www.ambassador.wales\/wp-content\/uploads\/2023\/09\/Tony-Vitti-scaled.jpg 1844w\" sizes=\"(max-width: 625px) 100vw, 625px\" \/><p id=\"caption-attachment-291891\" class=\"wp-caption-text\">Tony Vitti<\/p><\/div>\n<p>Dywedodd Tony Vitti, Canolfan Groeso y Rhyl:<\/p>\n<blockquote>\n<p>\u201cMae Cynllun Llysgenhadon Sir Ddinbych wedi bod yn amhrisiadwy i Staff y Ganolfan Groeso yn y Rhyl er mwyn ychwanegu at eu gwybodaeth am yr ardal. Rydym wedi darganfod pethau diddorol wrth ymgymryd \u00e2\u2019r cwrs ac wedi cael ein hatgoffa am rai o\u2019r perlau cudd sydd i\u2019w canfod i ffwrdd o\u2019r cyrchfannau poblogaidd, a gallu annog ein cwsmeriaid i ymweld \u00e2 nhw. Mwynheais yn arbennig y modiwl am Ddyffryn Clwyd, y modiwl diweddaraf i gael ei ychwanegu, gan mai dyna ble rwyf yn byw. Roedd yn braf dysgu ychydig bach mwy am fy ardal leol.<\/p>\n<p>Hefyd, rydym wedi ymgymryd \u00e2\u2019r holl gyrsiau eraill gan Gynllun Llysgenhadon Cymru: Mae nifer o\u2019n cwsmeriaid sy\u2019n aros yn Sir Ddinbych yn defnyddio\u2019r ardal fel porth i ardal ehangach gogledd Cymru. Mae cwrs Llysgennad Eryri wedi ein helpu ni i\u2019w helpu nhw i lefel uwch nag o\u2019r blaen. Rydym hefyd yn Llysgenhadon Gwynedd, Conwy, Ynys M\u00f4n, Bannau Brycheiniog a Sir G\u00e2r, ac mae\u2019r wybodaeth yr ydym wedi\u2019i dysgu o\u2019r cyrsiau yn ne Cymru wedi ein helpu mewn dwy sefyllfa benodol yn ddiweddar: Roedd gennym gwsmeriaid o\u2019r Unol Daleithiau oedd \u00e2 thocynnau BritRail i deithio o un pen o Gymru i\u2019r llall a llwyddom i\u2019w helpu i ganfod pethau i\u2019w gwneud yn ddiweddarach ar eu siwrnai; a\u2019r wythnos ddiwethaf llwyddom i helpu teulu o Ffrainc a oedd yn symud ymlaen o\u2019u llety yn Llanelwy i ymweld \u00e2 Thalacharn. Credaf fod y cyrsiau yn adnodd gwych. Hyd yn oed os nad ydych yn dod ar draws ymwelwyr yn ddyddiol, mae llawer o bethau i\u2019w dysgu y gallwch chi fanteisio arnynt ac ymweld \u00e2 nhw eich hun. Rydw i\u2019n bendant wedi gwneud hynny.\u201d<\/p>\n<\/blockquote>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae cynllun ar-lein sydd wedi ennill gwobrau ac sy\u2019n darparu hyfforddiant a gwybodaeth i bobl am rinweddau arbennig ardaloedd o Gymru yn annog mwy o bobl i gymryd rhan a bod yn Llysgennad<\/p>\n","protected":false},"author":37,"featured_media":275093,"comment_status":"closed","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_bbp_topic_count":0,"_bbp_reply_count":0,"_bbp_total_topic_count":0,"_bbp_total_reply_count":0,"_bbp_voice_count":0,"_bbp_anonymous_reply_count":0,"_bbp_topic_count_hidden":0,"_bbp_reply_count_hidden":0,"_bbp_forum_subforum_count":0},"categories":[98],"tags":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ambassador.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/291896"}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ambassador.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ambassador.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ambassador.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/37"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ambassador.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=291896"}],"version-history":[{"count":3,"href":"https:\/\/www.ambassador.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/291896\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":291962,"href":"https:\/\/www.ambassador.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/291896\/revisions\/291962"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ambassador.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/275093"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ambassador.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=291896"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ambassador.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=291896"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ambassador.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=291896"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}