{"id":255006,"date":"2023-03-22T12:53:25","date_gmt":"2023-03-22T12:53:25","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ambassador.wales\/?p=255006"},"modified":"2023-03-22T14:44:05","modified_gmt":"2023-03-22T14:44:05","slug":"teithiau-ymgyfarwyddo-yn-llwyddiant-mawr-gyda-busnesau-lleol","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.ambassador.wales\/cy\/teithiau-ymgyfarwyddo-yn-llwyddiant-mawr-gyda-busnesau-lleol\/","title":{"rendered":"Teithiau ymgyfarwyddo yn llwyddiant mawr gyda busnesau lleol"},"content":{"rendered":"<p>Mae cyfres o deithiau ymgyfarwyddo i amrywiaeth o lefydd ar draws Gogledd Ddwyrain Cymru wedi bod yn boblogaidd iawn gyda busnesau lleol. Wedi&#8217;u cynllunio i amlygu cyrchfannau diddorol ac allweddol i fusnesau twristiaeth lleol; mae&#8217;r teithiau wedi bod yn boblogaidd iawn, gan alluogi i fusnesau, grwpiau lleol a gwirfoddolwyr rannu&#8217;r wybodaeth ac annog ymwelwyr i dreiddio&#8217;n ddyfnach i hanes, diwylliant, tirweddau, atyniadau, a lleoliadau lletygarwch lleol.<\/p>\n<p>Wedi\u2019i drefnu gan Gyngor Sir Ddinbych mewn partneriaeth \u00e2 Wrecsam a Sir y Fflint, mae dros 60 o fusnesau a 170 o bobl wedi mynychu i gyd. Mae\u2019r 6 thaith wedi cynnwys cerdded Safle Treftadaeth y Byd 11 milltir o hyd &#8211; Traphont Dd\u0175r a Chamlas Pontcysyllte, teithiau tu \u00f4l i\u2019r llenni yn Theatr Clwyd a Bryn Beili yn yr Wyddgrug, ymweld \u00e2 chestyll Dinbych, Rhuddlan, Y Waun a\u2019r Fflint a thaith o amgylch canol dinas Wrecsam yn archwilio T\u0177 Pawb, Xplore!, Amgueddfa Wrecsam a dringo t\u0175r yn Eglwys y Plwyf San Silyn. Mae\u2019r teithiau olaf wedi cynnwys ymweliadau \u00e2 Rhuthun, Dinbych, Llanelwy a Bodelwyddan i ddysgu mwy am y celfyddydau a threftadaeth leol, galw yn Nantclwyd y Dre, Yr Hen Lys, y Carchar a\u2019r Ganolfan Grefftau yn Rhuthun, Llyfrgell Dinbych a Muriau\u2019r Dref, Eglwys Gadeiriol Llanelwy, a&#8217;r Eglwys Farmor gerllaw. Darganfu\u2019r gr\u0175p fwy am leoliadau arfordirol y Rhyl, Prestatyn a Thalacre yn ystod y daith olaf, yn ogystal \u00e2 stop olaf yn safle\u2019r gwaith arfau ym mhentref Rhyd-y-mwyn &#8211; diwydiant a chwaraeodd ran allweddol yn ein hanes yn ystod y rhyfel.<\/p>\n<div id=\"attachment_254972\" style=\"width: 635px\" class=\"wp-caption aligncenter\"><img aria-describedby=\"caption-attachment-254972\" decoding=\"async\" loading=\"lazy\" class=\"size-large wp-image-254972\" src=\"https:\/\/www.ambassador.wales\/wp-content\/uploads\/2023\/03\/learning-journey-march23-1024x768.jpg\" alt=\"group of Denbighshire Ambassadors on a familiarisation tour\" width=\"625\" height=\"469\" srcset=\"https:\/\/www.ambassador.wales\/wp-content\/uploads\/2023\/03\/learning-journey-march23-1024x768.jpg 1024w, https:\/\/www.ambassador.wales\/wp-content\/uploads\/2023\/03\/learning-journey-march23-300x225.jpg 300w, https:\/\/www.ambassador.wales\/wp-content\/uploads\/2023\/03\/learning-journey-march23-768x576.jpg 768w, https:\/\/www.ambassador.wales\/wp-content\/uploads\/2023\/03\/learning-journey-march23-1536x1152.jpg 1536w, https:\/\/www.ambassador.wales\/wp-content\/uploads\/2023\/03\/learning-journey-march23-472x355.jpg 472w, https:\/\/www.ambassador.wales\/wp-content\/uploads\/2023\/03\/learning-journey-march23-624x468.jpg 624w, https:\/\/www.ambassador.wales\/wp-content\/uploads\/2023\/03\/learning-journey-march23-50x38.jpg 50w, https:\/\/www.ambassador.wales\/wp-content\/uploads\/2023\/03\/learning-journey-march23.jpg 2000w\" sizes=\"(max-width: 625px) 100vw, 625px\" \/><p id=\"caption-attachment-254972\" class=\"wp-caption-text\">\u00a9 Sir Ddinbych Denbighshire<\/p><\/div>\n<p>Cafodd tywyswyr teithiau lleol eu recriwtio i dywys pob taith. Meddai Sarah Jones, Tywysydd Bathodyn Glas Cymru, sydd wedi arwain a mynychu llawer o\u2019r teithiau:<\/p>\n<blockquote>\n<p>\u201cDiolch yn fawr iawn am yr holl deithiau ymgyfarwyddo gwych. Roeddwn i\u2019n falch iawn o ymweld \u00e2\u2019r arfordir yn ddiweddar &#8211; dyma ardal rydw i eisiau darganfod mwy amdani. Mae wedi bod yn ddefnyddiol iawn ailymweld \u00e2 llawer o lefydd lleol i ddysgu mwy am hanes a diwylliant lleol, a fydd o ddefnydd mawr i mi ar deithiau yn y dyfodol. Rwy\u2019n gobeithio y gall y teithiau barhau gan eu bod mor fuddiol i\u2019r holl fusnesau amrywiol yn Sir Ddinbych ac yn helpu i hyrwyddo\u2019r ardal mor dda.\u201d<\/p>\n<\/blockquote>\n<p>Meddai Richard Hughes, perchennog Maes Gwersylla a Bwthyn Bracdy ger Dinbych:<\/p>\n<blockquote>\n<p>\u201cDiolch yn fawr iawn am drefnu\u2019r holl deithiau addysgiadol. Maent wedi darparu llawer o syniadau i mi eu trosglwyddo i&#8217;n hymwelwyr sydd eisoes yn mwynhau Dyffryn Clwyd a&#8217;r ardaloedd cyfagos. Mae&#8217;r tywyswyr i gyd wedi bod yn wybodus iawn ac yn gallu ateb unrhyw gwestiynau. Mae hefyd wedi bod yn wych cyfarfod \u00e2 busnesau eraill a rhannu profiadau.\u201d<\/p>\n<\/blockquote>\n<p>Mae\u2019r prosiect hwn wedi cael arian drwy Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru \u2013 Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, sy\u2019n cael ei hariannu gan Gronfa Amaethyddiaeth Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.<\/p>\n<p>Mae\u2019r teithiau\u2019n rhan o Gynllun ehangach Llysgenhadon Twristiaeth Sir Ddinbych, sy\u2019n rhoi hyfforddiant a gwybodaeth i bobl am rinweddau arbennig y sir. Mae cyfres o fodiwlau ar-lein ar amrywiaeth o them\u00e2u ar gael i bawb, yn rhad ac am ddim. Mae hyn yn cynnwys cerdded, beicio, hanes, y celfyddydau, yr iaith Gymraeg, yr arfordir, twristiaeth gynaliadwy a bwyd. Mae yna 3 lefel o wobrau \u2013 efydd, arian ac aur, yn dibynnu ar nifer y modiwlau a gwblheir. Sir Ddinbych oedd y cyntaf i lansio cwrs ar-lein o\u2019i fath yng Nghymru. Ers hynny mae Parciau Cenedlaethol Eryri a Bannau Brycheiniog, Conwy, Gwynedd, Ynys M\u00f4n, a Sir Gaerfyrddin wedi lansio cyrsiau ac mae Sir y Fflint, Wrecsam a Cheredigion yn brysur yn paratoi i lansio yn ddiweddarach eleni.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Wedi&#8217;u cynllunio i amlygu cyrchfannau diddorol ac allweddol i fusnesau twristiaeth lleol.<\/p>\n","protected":false},"author":37,"featured_media":255004,"comment_status":"closed","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_bbp_topic_count":0,"_bbp_reply_count":0,"_bbp_total_topic_count":0,"_bbp_total_reply_count":0,"_bbp_voice_count":0,"_bbp_anonymous_reply_count":0,"_bbp_topic_count_hidden":0,"_bbp_reply_count_hidden":0,"_bbp_forum_subforum_count":0},"categories":[98],"tags":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ambassador.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/255006"}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ambassador.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ambassador.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ambassador.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/37"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ambassador.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=255006"}],"version-history":[{"count":3,"href":"https:\/\/www.ambassador.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/255006\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":255010,"href":"https:\/\/www.ambassador.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/255006\/revisions\/255010"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ambassador.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/255004"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ambassador.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=255006"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ambassador.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=255006"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ambassador.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=255006"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}