{"id":230060,"date":"2022-11-16T12:04:21","date_gmt":"2022-11-16T12:04:21","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ambassador.wales\/?p=230060"},"modified":"2023-10-13T15:47:11","modified_gmt":"2023-10-13T14:47:11","slug":"cynllun-llysgennad-cymru-yn-parhau-i-dyfu","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.ambassador.wales\/cy\/cynllun-llysgennad-cymru-yn-parhau-i-dyfu\/","title":{"rendered":"Cynllun Llysgennad Cymru yn parhau i dyfu"},"content":{"rendered":"<p><strong>Mae cynllun ar-lein sy\u2019n rhoi hyfforddiant a gwybodaeth i bobl am rinweddau arbennig ardaloedd yng Nghymru yn parhau i ehangu.<\/strong><\/p>\n<p>Caiff Wythnos Addysg Oedolion ei chynnal yn ystod mis Medi ac mae cofrestru i ddod yn Llysgennad Cymru yn gyfle gwych i ddysgu rhywbeth newydd y mis hwn. Gall dysgu parhaus gael effaith gadarnhaol ar fywydau pobl; pa un a ydych chi am ddysgu rhagor am yr ardal, gwella rhagolygon swyddi neu gyfarfod \u00e2 phobl newydd, mae dod yn Llysgennad yn ffordd wych o ddwys\u00e1u eich gwerthfawrogiad o le.<\/p>\n<p>Cynigir cyfres o fodiwlau ar-lein ar amrywiaeth o them\u00e2u sy\u2019n berthnasol i bob ardal. Mae hyn yn cynnwys yr iaith Gymraeg, cymunedau, diwylliant, hanes, twristiaeth gynaliadwy, beicio a cherdded. Mae 3 lefel o wobrau \u2013 efydd, arian ac aur, yn dibynnu ar nifer y modiwlau a gaiff eu cwblhau. Caiff gwobrau gan gynnwys tystysgrifau a bathodynnau eu hanfon i bawb sy\u2019n cwblhau\u2019r lefelau. Mae\u2019n rhad ac am ddim ac yn agored i bawb. Mae preswylwyr, gwirfoddolwyr a grwpiau cymunedol lleol yn cael eu hannog yn benodol i ddod yn Llysgenhadon, ac i ddysgu rhagor am nodweddion unigryw pob ardal.<\/p>\n<p>Sir Ddinbych oedd y cyntaf i lansio cynllun ar-lein o\u2019i fath yng Nghymru. Mae Parciau Cenedlaethol Eryri a Bannau Brycheiniog, Conwy a Gwynedd wedi lansio cyrsiau ac mae Sir y Fflint, Sir F\u00f4n, Ceredigion a Sir G\u00e2r yn prysur baratoi ar gyfer lansio yn ddiweddarach eleni. Mae Llysgenhadon yn cael eu hannog i gofrestru ar fwy nag un cwrs i ehangu ar eu dysgu am Gymru a bod yn rhan o\u2019r gymuned ehangach.<\/p>\n<p>Dywedodd Rachel Simpson o Artychoke yn Llandudno sydd wedi bod yn allweddol wrth sefydlu\u2019r cynllun:<\/p>\n<blockquote>\n<p><em>\u201cRydym ni wedi ein rhyfeddu o ran nifer y bobl sydd wedi mwynhau mynd drwy\u2019r modiwlau a\u2019r cwisiau i ddysgu am hanes, diwylliant, bwyd a diod, arwyr, gweithgareddau a thrysorau cudd sydd eto i\u2019w darganfod. Mae ffeithiau rhyfeddol \u2018Oeddech chi\u2019n gwybod\u2019 yn benodol yn llwyddiant gan eu bod nhw\u2019n ychwanegu cymeriad i\u2019r hyn yr ydych chi efallai\u2019n ei wybod yn barod, ac yn cynnig llefydd newydd i\u2019w gweld a gwell dealltwriaeth o Gymru a bywyd Cymreig. O\u2019r cyfriniol i\u2019r cwbl ymarferol, byddwch yn canfod rhywbeth a fydd o ddiddordeb i chi yng nghynnwys y cwrs.\u201d<\/em><\/p>\n<\/blockquote>\n<p>Mae dros 2,600 o bobl wedi cofrestru ar o leiaf un o\u2019r cyrsiau ar y wefan ac mae 1,684 wedi ennill tystysgrif lefel efydd ar draws 5 cwrs. Mae 4,330 o dystysgrifau efydd, arian ac aur wedi eu rhoi i Lysgenhadon, nid yn unig yng Nghymru ond ledled y DU a thu hwnt.<\/p>\n<p>Dywedodd y Cynghorydd Win Mullen-James, Aelod Arweiniol Datblygu Lleol a Chynllunio:<\/p>\n<blockquote>\n<p><em>\u201cMae\u2019n galonogol iawn gweld y prosiect arloesol hwn a ddechreuodd yn Sir Ddinbych yn mynd o nerth i nerth ac mae rhagor o Awdurdodau a Pharciau Cenedlaethol yn buddsoddi yn y cynllun ac yn cydweithio ledled Cymru. Mae Sir Ddinbych wedi ymrwymo i reoli\u2019r cynllun a pharhau i weithio gyda\u2019n partneriaid i ymchwilio i gyfleoedd a datblygiadau newydd.\u201d<\/em><\/p>\n<\/blockquote>\n<p>Dywedodd Paul Hughes, arweinydd grwpiau cerdded i Mind Dyffryn Clwyd:<\/p>\n<blockquote>\n<p><em>\u201cDewisais ddod yn Llysgennad oherwydd ei fod yn rhoi rhagor o wybodaeth i chi, mae bob amser yn ddefnyddiol i gael rhagor o wybodaeth pan rydych chi\u2019n tywys pobl ar deithiau cerdded ac yn mynd \u00e2 phobl i gerdded mewn gwahanol ardaloedd. Mae\u2019r cwrs am ddim sydd bob amser yn helpu. A gallwch chi ei wneud gartref dros gwpl o nosweithiau yr wythnos, felly mae\u2019n wych. Does dim y fath beth \u00e2 gormod o wybodaeth fel maen nhw\u2019n ei ddweud, mae bob amser yn braf dysgu rhywbeth newydd.\u201d<\/em><\/p>\n<\/blockquote>\n<p>Am ragor o wybodaeth am y cynllun ac i gofrestru, ymwelwch \u00e2 <a href=\"http:\/\/www.llysgennadsirddinbych.cymru\">www.llysgennadsirddinbych.cymru<\/a><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae cynllun ar-lein sy\u2019n rhoi hyfforddiant a gwybodaeth i bobl am rinweddau arbennig ardaloedd yng Nghymru yn parhau i ehangu.<\/p>\n","protected":false},"author":37,"featured_media":181389,"comment_status":"closed","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_bbp_topic_count":0,"_bbp_reply_count":0,"_bbp_total_topic_count":0,"_bbp_total_reply_count":0,"_bbp_voice_count":0,"_bbp_anonymous_reply_count":0,"_bbp_topic_count_hidden":0,"_bbp_reply_count_hidden":0,"_bbp_forum_subforum_count":0},"categories":[98],"tags":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.ambassador.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/230060"}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.ambassador.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.ambassador.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ambassador.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/37"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ambassador.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=230060"}],"version-history":[{"count":2,"href":"https:\/\/www.ambassador.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/230060\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":296488,"href":"https:\/\/www.ambassador.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/230060\/revisions\/296488"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ambassador.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/181389"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.ambassador.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=230060"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ambassador.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=230060"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.ambassador.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=230060"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}